darllen yr hen glasuron paganaidd. Ond parhasant i ddefnyddio'r iaith Ladin, yng ngwasanaethau'r eglwys, yng nghyfieithiad poblogaidd Ierôm o'r Beibl—y Fwlgat—yn llysoedd yr eglwys ac mewn llu o ffyrdd eraill nes daeth yr iaith honno i gael ei hystyried yn unig gyfrwng diwylliant a dysg. (Cofier mai sôn yr ydys am gyfnod cyn geni ieithoedd diweddar Ewrop.),[1]Hefyd yr oedd y ffaith bod eisteddle'r esgob ym mhrifddinas yr hen ymerodraeth yn sail gadarn i'r traddodiad mai'r eglwys, yn hytrach na'r ffug ymerodraethau a luniwyd yn nychymyg uchelgeisiol rhyw Germanwr fel Otto neuFfranc fel Siarlymaen[2] oedd gwir aeres gogoniant Rhufain.
Yn raddol iawn, wrth gwrs, y tyfodd awdurdod yr eglwys, ond pan ddaeth i'w hetifeddiaeth, yr oedd nid yn unig grefydd ond hefyd gyfran lled helaeth o fywyd lleyg y gorllewin dan ei llywodraeth. Ymhen amser meddai fwy o dir na neb arall yn y gwledydd cyfrifir bod oddeutu'r drydedd ran o'r tir yn ei meddiant, ac nid oedd yr esgobion a'r abadau yn fynych namyn tywysogion ac arglwyddi lleyg. Tybid yn gyffredin fod gadael tir neu eiddo at wasanaeth yr eglwys yn fraint a dyletswydd Gristnogol, a thrwy hynny cynyddai ei rhwysg a'i chyfoeth beunydd.[3]
At hyn rhaid cofio bod gan y Pab ei gynrychiolydd ym mhob llan yn y gorllewin, a thrwy'r gweision hynny câi wybod am helynt pob adran o'r cyfandir. Nid oedd neb a wasanaethid yn fwy ffyddlon na neb â chymaint awdurdod yn ei law. Gallai ddwyn milwyr i'r maes; ond mwy effeithiol, fel rheol, am eu bod yn fwy damniol, oedd yr arfau ysbrydol a ddefnyddid ganddo. Pan groesai rhyw frenin ei amcanion, ni phetrusai ei esgymuno ef a'i ddeiliaid hefyd, a dengys hanes John, brenin Lloegr, mor effeithiol oedd y gallu ofnadwy hwn. Defnyddiwyd yr erfyn hwn gan yr Archesgob Peckham
- ↑ Bu Jerôm wrthi yn cywiro y cyfieithiad o'r Beibl a adwaenir fel y Fwlgat o 383-395. Yn y зedd a'r 4edd ganrif, Galeg siaredid yn Ffrainc; yna Lladin tan tua canol y 7fed ganrif. Yna deuwyd i siarad y ddwy iaith, Ffrangeg ac Almaeneg, fel ei gilydd. Yn 842 ceir Ludwig a Siarl Foel yn cymryd llwon yn y ddwy iaith, a dyma'r enghraifft swyddogol gyntaf o ddefnyddio'r iaith Ffrangeg. Yr oedd ymddangosiad 'Spaeneg ac Italeg yn ddiweddarach fyth. Cronicl y Brawd Salimbene (1221—1288 ?) yw un o'r darnau llenyddol hynaf mewn Italeg. Gwêl Ddarlith Stubbs ar The Languages of the principal European States; Lectures on Early English History, 226.
- ↑ Wrth gwrs, rhaid cofio mai Germaniaid o waed a thafodiaith oedd y "Ffrancod."
- ↑ Gerallt Gymro: The Itinerary through Wales, p. 43.