yn erbyn Llywelyn ein Llyw Olaf, ac o ganlyniad bu mynaich Cwm Hir yn gyndyn iawn rhag rhoddi bedd i'w weddillion drylliedig.[1]
Ond er cymaint honiadau'r Babaeth, a chyn ddued llawer llecyn yn ei hanes, rhaid cydnabod iddi gyflawni gwasanaeth amhrisiadwy, oherwydd rhoddodd ddisgyblaeth ar y cenhedloedd anwar, diogelodd radd o heddwch—heddwch Duw,— ac ail-osododd sylfeini bywyd gwareiddiedig. Ar ei orau, hefyd, yr oedd rhywbeth gwych ym mywyd crefyddol y cyfnod, ac ni all y mwyaf beirniadol ei ysbryd beidio â theimlo ei swyn fel y ceir ef yng nghyffes Awstin Sant a myfyrdodau Thomas á Kempis, ym mhregethau Bernard ac ym muchedd ddefosiynol Ffransis a llu o saint eraill.
Gwnaeth yr eglwys lawer hefyd tuag at leihau erchyllterau rhyfel trwy fendithio'r datblygiad milwrol hwnnw a adwaenir wrth yr enw Sifalri. Moes sifalri oedd ymladd dros y diamddiffyn a'r gwan, parchu merch, a chadw cymeriad yn lân yn ogystal ag arfau yn loyw, a bu dylanwad y syniadau hyn yn foddion i ddofi nwydau gwŷr gwaedwyllt ac i ddiogelu rhywfaint ar hawliau'r gorchfygedig. Gwelodd yr eglwys mai da oedd cymaint â hyn, hyd yn oed, mewn dyddiau cythryblus, a daliodd ar y cyfle i'w noddi a'i fendithio.[2]
O droi yn awr at fywyd "bob dydd" gwerin y gwledydd, ni welir fawr o ddim o'r unoliaeth a nodweddai'r bywyd eglwysig ac, i fesur llai, y bywyd politicaidd, oherwydd yr oedd amgylchiadau'r bywyd hwnnw yn gyfryw ag a wnai unrhyw fath o unoliaeth bron yn gwbl amhosibl. Yng ngalanas ofnadwy dinistr yr hen ymerodraeth, aeth bywyd dyn yn isel iawn ei bris, ac wedi diflannu o'r rheol a'r drefn a gaed dan weinyddiad y gyfraith Rufeinig, nid oedd dim i'w wneuthur ond ymddiried mewn nerth braich. Y "cryf arfog" oedd yr arwr bellach, a syrthiodd llywodraeth leol i ddwylo dynion o'r dosbarth hwn a ymgymerai â noddi ac amddiffyn y sawl a dalai wrogaeth iddynt. Ffiwdaliaeth oedd yr enw a roddwyd ar y gyfundrefn a ddatblygwyd yn yr amgylchiadau hyn. Fe'i cafwyd ym mhob gwlad yng ngorllewin Ewrop, ond dichon mai yng ngogledd Ffrainc y cyrhaeddodd ei pher ffeithrwydd uchaf. Dechreuodd ymledu yn y wlad hon tua'r un amser, ond cyflymwyd ei thwf pan oresgynwyd y wlad gan y Normaniaid yn yr unfed ganrif ar ddeg.