Y mae gwahanol farnau ynglŷn â tharddiad y gair Ffiwdaliaeth. Myn rhai ei olrhain yn ôl i'r gair Lladin am ffydd neu ymddiried, ond dywed eraill mai o'r gair Germanaidd am dâl (Saesneg, fee) y daw. Beth bynnag oedd ei darddiad, yr hyn a olygid wrth Ffiwd (Feodum) oedd arglwyddiaeth dros ran o wlad ar yr amod bod y gŵr a gai'r arglwyddiaeth honno yn cydnabod awdurdod y neb a'i rhoisai iddo. Fel yr hawliai Wiliam y Concwerwr, eiddo'r brenin, yn y pen draw, oedd y tir: ei osod a wnai i eraill ar yr amod y rhoent iddo wasanaeth milwrol pan fyddai galw am hynny. Gwnai'r arglwydd yntau yr un peth â'r tir a ddaethai i'w ran, hynny yw, fe'i gosodai i denantiaid i'w drin ar yr amod y gwasanaethent ef a gofalu bob amser am ddigon o foddion cynhaliaeth iddo. Cyfuniad, felly, ydoedd ffiwdaliaeth o filwriaeth ac amaethyddiaeth: rhoddai'r arglwydd nawdd ac amddiffyn i'w denantiaid a rhoent hwythau iddo yntau wasanaeth a lluniaeth.
At hyn oll yr oedd yr arglwydd yn rhyw gymaint o lywodraethwr lleol. Yr oedd iddo ei lys lle cosbid drwgweithredwyr ac y trinid materion llywodraeth y rhanbarth, ac yr oedd felly yn wir arglwydd yn ogystal â meistr tir. Hawdd iawn oedd i ŵr o'r fath honni bod yn annibynnol ar y brenin y daliai ei dir ganddo, a digwyddai hynny'n fynych iawn, yn enwedig yn y parthau hynny lle byddai llawer o frwydro, megis ar ororau Cymru. Brithid gwledydd y gorllewin gan fân arglwyddiaethau mwy neu lai annibynnol ar ei gilydd a hefyd ar y brenhinoedd yr oedd yr arglwyddi, mewn enw, yn deyrngarol iddynt.
Er hyn oll, prin iawn oedd gwir ryddid i gorff mawr y bobl, ac yn hyn o beth yr oedd y cyfnod yn wahanol iawn i'r cyfnod diweddar. Ar bwnc o gredo grefyddol, er enghraifft, gan yr eglwys yr oedd y gair terfynol, a gwae'r neb na chydnabyddai hynny. Ceid ambell ysbryd amheus, fel Abelard, ond ychydig oedd eu rhif ac ofnadwy eu tynged. Ymestynai'r awdurdod ar brydiau ymhell i gylch pethau materol ac ymarferol. Cymerer, er enghraifft, y modd yr ymddug y Chwil-lys at Galileo am awgrymu ohono mai'r haul oedd canolbwynt ein bydysawd ni. Penderfynasai'r eglwys mai'r blaned hon oedd canolbwynt y cread ac mai Caersalem oedd ei chanolbwynt hithau, ac ni chaniateid i neb amau seiliau ei gosodiadau. Y mae yn eglwys gadeiriol Henffordd fap a ddengys beth oedd syniadau'r cyfnod am ddaearyddiaeth.[1] Yn yr un modd,
- ↑ Gwêl tudalen 15 am gopi ohono.