Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y trigolion cyntaf y mae gennym hanes amdanynt yn ynys Prydain, neu yr Ynys Wen fel y gelwid hi gynt, oedd yr Iberiaid, a elwir weithiau yn llwythau'r Môr Canoldir. Tybir mai yng ngogledd Affrica yr oedd eu cartref cyntaf, oherwydd daethpwyd o hyd i rai o'u claddfeydd cynharaf yno. Cafwyd claddfeydd cyffelyb hefyd yn arfordir Ffrainc ac yng nghromlechau Môn a Phenfro. Yr oedd y bobl hyn oddeutu pum troedfedd a hanner o daldra, bron yn ddu eu gwallt a thywyll o bryd a gwedd. Erys yr hil mewn llawer ardal ddiarffordd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, ac yn enwedig ymysg glowyr y De. Siaradent iaith nad oes yn Ewrop heddiw debyg iddi, onid yw iaith y Basque yn deilliaw ohoni. Ymhyfrydent mewn celfyddyd, fel y dengys y darluniau lliw a'r cerfiadau a geir yn ogofau'r Dordogne yn neheudir Ffrainc, a chanddynt hwy, fe ddichon, yr etifeddodd y Cymro ei gariad greddfol at gân a cherdd.

Dilynwyd hwy gan y Celtiaid, a ddaeth yma, fe dybir, ar hyd mynydd-dir Ewrop. Bugeiliaid oeddent yn bennaf, a daethant a'u hanifeiliaid gyda hwy i'r ynys hon. Cainc oedd y rhain o deulu mawr a fu am rai canrifoedd yn y cyfnod cyn Crist yn allu cryfaf canolbarth Ewrop. Y mae'n wir na sefydlasant ymerodraeth fel y gwnaeth y Rhufeiniaid, ond goresgynasant nifer o wledydd ac ar un adeg ymestynnai eu tiriogaeth o Alatia yn Asia Leiaf ar draws y cyfandir i'r gorllewin.[1] Llosgasant Rufain yn y flwyddyn 390 c.c., a daeth dydd brwydr Allia—Dies Alliensis—yn ddydd o chwerw chwedl ac o ddrwg ddarogan yn hanes yr ymerodraeth. Ymosodasant ar Roeg yn y ganrif nesaf, a bu hefyd frwydro maith rhyngddynt a'u cymdogion, y Germaniaid. Erys aml air Celtaidd o hyd yn yr iaith Germanaidd yn atgof am y cyfnod hwn. Ymsefydlodd cainc o'r teulu yn Itali, a thrwy fod perthynas agos rhyngddynt â'r Rhufeiniaid, ni buont yn hir cyn gollwng gafael ar eu hiaith eu hunain a derbyn iaith ac arferion Rhufain. Daeth rhai ohonynt, megis Ausonius, y bardd, a aned yn Bordeaux yng Ngâl, yn llenorion amlwg ym mlynyddoedd olaf yr ymerodraeth. Yn yr un modd diflannodd yr iaith Geltaidd mewn rhannau eraill o Ewrob ac Asia: er enghraifft, dywed Ierôm y siaredid yn Galatia yn ei amser ef iaith debyg i'r iaith a siaredid ar lannau afon Rhein. Meddai'r teulu mawr hwn ei wareiddiad a'i ddiwylliant arbennig ei hun, ac y mae'n dra thebyg i'r gainc a ddaeth i'r wlad hon ddwyn y

  1. Gweler benodau rhagorol Lloyd, History of Wales I, ar y cyfnod hwn. Hefyd, Jones and Rhys, The Welsh People, ac ysgrif Dr. Hartwell Jones yn y Cymmrodor, XXXI, ar "The Celt in Ancient History."