diwylliant hwnnw gyda hwy, er na wnaethpwyd hyd yn hyn ond ychydig iawn o ymchwil i'r cwestiwn hwn.
Daeth dwy don ohonynt drosodd, y don gyntaf, y Goideliaid, tua'r ddeuddegfed ganrif cyn Crist, a'r ail don, y Brythoniaid, tua'r drydedd ganrif. Ni wyddys bod dim gwahaniaeth rhwng y ddwy fintai ar wahân i'r ffaith bod newid wedi digwydd yn rhai o seiniau eu hiaith. Yn y fam-iaith Gelteg yr oedd sain a sgrifennir gan ieithegwyr â'r llythyren qu; yn iaith y Goideliaid daeth y sain hon yn c, ond yn iaith y Brythoniaid fe drodd yn p, ac erys y gwahaniaeth hwn hyd heddiw. Er enghraifft, y mae'r gair pedwar yn y Gymraeg (Brythonig) yn cyfateb i'r gair "cethir" yn yr Wyddeleg (Goidelig), ac yn wir, wrth y gwahaniaeth hwn bellach y dosberthir yr holl ieithoedd Celtaidd. Yr oedd y Celt yn olau o bryd a gwedd, ac yn dalach na'r Iberiad, a'i benglog yn nes at fod yn grwn. Gwnai ei arfau o bres ac yn ddiweddarach o haearn. Cleddid y meirw mewn cistiau cerrig a chodid tomen drostynt, ond weithiau llosgid y corff a rhoi'r llwch mewn llestr pridd bychan a'i wyneb i waered. Dywed Cesar mai Celtiaid de-ddwyrain yr ynys oedd y bobl fwyaf gwareiddiedig ym Mhrydain pan ddaeth ef gyntaf i'r ynys, a'u bod yn debyg iawn i'w brodyr yng Ngâl o ran pryd a gwedd ac arfer.[1] Medrent weithio pres a haearn ac aur yn gelfydd ryfeddol, a dengys eu gwaith chwaeth artistig na welwyd ei chyffelyb y rhawg.
Anodd iawn yw dywedyd faint o ran a fu i Gymru yn y gwareiddiad Celtaidd a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn Iwerddon yn ystod canrifoedd cyntaf y cyfnod Cristnogol. Buasai'n amhosibl iddi beidio â chyfranogi ohono i ryw fesur oherwydd gwyddys fod yn y cyfnod hwnnw gyfathrach agosach nag a fu fyth wedyn rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill Iwerddon, Cernyw, yr Alban a Llydaw. Ni chafodd y gwareiddiad Celtaidd hwn y sylw a haedda gan haneswyr. Rhoddwyd yr holl sylw gan rai, yn arbennig haneswyr Ffrainc, i'r elfen glasurol ym mywyd y gorllewin, a bodlonodd eraill, megis haneswyr Lloegr a'r Almaen, ar olrhain yr elfen Diwtonaidd, a gadael yr elfen Geltaidd heb sylw o gwbl.
Cyfeiriwyd eisoes at ymweliad Cesar â'r ynys. Bu hynny yn y flwyddyn 55 c.c., ac oddeutu can mlynedd wedyn ymgymerth y llywodraeth Rufeinig â'i darostwng a'i gwneuthur yn rhan o'r ymerodraeth. Prydain oedd y wlad olaf a feddiannwyd gan Rufain, a hyhi hefyd oedd y gyntaf iddi ollwng
- ↑ De Bello Gallico, V