yn y gogledd a Chaerfyrddin yn y de. Y ddau le hyn oedd terfynau eithaf yr ymerodraeth yng Nghymru, a chodwyd caer gadarn yn y naill a'r llall. Dibynnai nifer y milwyr ar faint y gaer a hefyd ar faint y perygl oddi wrth y brodorion o amgylch. Yma a thraw ar y priffyrdd codwyd ceyrydd llai yn wersyllfaoedd i'r llengoedd pan fyddent ar daith. Er enghraifft, rhwng Caerlleon Fawr a Chaernarfon yr oedd caer yn Llanelwy (Varae), ac un arall yng Nghaerhun (Conovium) i wylio'r rhyd dros afon Gonwy. Yr oedd caerau cyffelyb rhwng Caerlleon ar Wysg a Chaerfyrddin, a hefyd ddwy gaer bwysig yng nghanolbarth Cymru—y Gaer, gerllaw Aberhonddu, a Chaersws yn nyffryn Hafren—heblaw nifer o fân gaerau ar y ffyrdd a gysylltai'r rhain a'i gilydd.
Awgryma Haverfield i Frythoniaid gwastadeddau Lloegr fabwysiadu arferion Rhufeinig a dyfod, fe ddichon, yn weddol hyddysg yn yr iaith Ladin. Gellid disgwyl i hynny ddigwydd yn y rhan honno o'r wlad yng nghynt nag yng Nghymru, oherwydd sefydlwyd yno fywyd Rhufeinig cyflawn; nid caerau milwrol yn unig, fel yng Nghymru. Adeiladwyd lliaws o drefydd, lawer ohonynt, megis Silchester neu Gaerwent gyda chlawdd neu fur o'u cwmpas, ac y mae'n sicr y trigai ynddynt lawer o Frythoniaid mewn safleoedd israddol, fe ddichon—ochr yn ochr â'r dinasyddion Rhufeinig. Daethpwyd o hyd yno hefyd i olion llawer o dai Rhufeinig a safai ar eu pennau eu hunain yng nghanol y wlad agored—arwydd sicr nad ofnai trigolion y cyfryw dai unrhyw berygl oddi wrth y brodorion. Dengys hyn oll fod y tir yn barod i'w "rufeineiddio," a theg yw casglu i hynny ddigwydd, i raddau, beth bynnag, yn y parthau a nodwyd. Yr oedd amryw drefydd o'r fath ar ororau Cymru, er enghraifft, Viroconium (Wroxeter) gerllaw Amwythig a Magnae (Kenchester) yn sir Henffordd a Chaerwent yn Sir Fynwy. Ceir yn olion y trefydd hyn brofion eglur bod yr elfen Frythonig ymysg y trigolion wedi llwyr gartrefu yn yr awyrgylch Rufeinig a mabwysiadu moes ac arfer eu concwerwyr.
Ni ddarganfuwyd olion tref o gwbl yng Nghymru[1] ac ni chafwyd olion ond dau dŷ (villa) Rhufeinig, y naill gerllaw Llanilltyd Fawr, a'r llall yn Llanfrynach, gerllaw Aberhonddu.[2] Ni cheir yma ond caerau yn unig, a dengys eu maint o'i