Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amhosibl dywedyd faint fu dylanwad Rhufain ar Gymru, ond y mae sail i'r dyb nad ymyrrwyd llawer â bywyd y brodorion yn eu cartrefi cyntefig ar bennau'r mynyddoedd. Diau y bu raid iddynt dalu treth i'r estron ac y gorfuwyd iddynt fyw yn fwy heddychlon â'i gilydd; a diau hefyd iddynt yn araf ddynwared rhyw gymaint ar rai o'i arferion, megis dull gwneuthur amddiffynfeydd, defnyddio llestri pridd, gwisgo tlysau gwydr am eu gyddfau a benthyca ambell i air.[1]

Dug yr ymerodraeth, yn anuniongyrchol, feallai, un fendith fawr i'r ynysoedd hyn, oherwydd gyda hi, ryw fodd neu'i gilydd, y daeth Cristnogaeth i'r wlad. Bu traddodiad yn brysur yn nyddu chwedlau i gyfrif am ei dyfod—yn ôl rhai ohonynt, un neu arall o'r apostolion a ddug y neges yma—ond nid oes sail o gwbl i'r chwedlau hyn.[2] Maentumiai Dr. Hugh Williams nad oes sicrwydd i Gristnogaeth gyrraedd Cymru hyd y bumed ganrif, ac mai ychydig a wnaeth y milwyr Rhufeinig i ledaenu egwyddorion y grefydd newydd. Cadarnheir y farn hon gan y darganfyddiadau a wnaed yn ddiweddar yn y caerau Rhufeinig yng Nghymru. Yng Nghaernarfon cafwyd allor wedi ei chysegru i'r dduwies Minerfa gan ryw Aurelius a oedd yn swyddog yn y gaer yn y drydedd ganrif. Cafwyd hefyd fath o degan swyn Gnosticaidd, ond ni chafwyd yno ddim tystiolaeth bod neb o'r milwyr yn proffesu Cristnogaeth. Ar y llaw arall, y mae yn nhref Rufeinig Silchester yn Hampshire olion eglwys Gristnogol—y gyntaf, y mae'n debyg, yn yr holl wlad. Ceir olion tebyg ond heb fod cyn hyned yn rhai o hen Eglwysi Caergaint.[3] Gwyddom, fodd bynnag, fod Cristnogaeth wedi gwreiddio ym Mhrydain erbyn y flwyddyn 314, oblegid yn y flwyddyn honno yr oedd tri o esgobion o Brydain, sef esgobion Llundain, Caerefrog, a Lincoln, yn bresennol mewn cyngor yn Arles yn Neheudir Ffrainc. Yn fuan iawn wedyn ceir hanes am Frython o'r enw Morgan neu Morien,[4] neu Pelagius fel y gelwid ef yn Lladin, yn euog o'r heresi a elwir byth er hynny yn Forganiaeth (Pelagianism). Anfonwyd apêl at eglwysi Gâl am gymorth i rwystro lledaeniad yr heresi hon, a'r canlyniad fu anfon Garmon a Bleddian, dau o esgobion gogledd Gâl, yma i bregethu. Y mae yng Nghymru amryw eglwysi wedi eu

  1. Lloyd History of Wales, 1, td. 81—89.
  2. Ynglŷn â'r chwedlau hyn gweler Dr. Hugh Williams, Christianity in Early Britain, a Newell, A History of the British Church.
  3. Antiquity, Vol. III, No, 9, 65.
  4. Lloyd, op. cit., I, td. 106.