Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ei ffyddlondeb nag un o'r gwledydd Celtaidd eraill i'r hen gyfundrefn.[1] Gwnaethai'r gyfundrefn honno ddiwrnod da o waith. Enillasai'r wlad at Gristnogaeth a chadwasai fflam yn llosgi ar yr allor mewn cyfnod cynhyrfus pan oedd tywyllwch yn gordoi bron bob un o'r gwledydd.

Dafydd Ddu Hiraddug
Soniwyd eisoes am yr ymosod a fu ar wledydd y gorllewin gan lwythau anwar y gogledd a'r dwyrain rhwng y bumed a'r ddegfed ganrif. Gwnaeth y llwythau hynny ddifrod mawr mewn llawer o'r gwledydd, ond ychydig iawn o'u hôl a wnaethant ar Gymru. Hyd yn ddiweddar, tybiai haneswyr i'r Cymry dreulio'r canrifoedd hynny bron ar eu hyd yn ymladd â'r Saeson, ond fel y dengys haneswyr diweddar Cymru, nid
- ↑ Lloyd, I, td. 202-3.