Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes fawr o sôn am y Saeson, o leiaf yn ystod canrifoedd cyntaf y cyfnod. Yn y bumed ganrif, er enghraifft, à Cheltiaid y Gogledd y bu'r Cymry yn ymladd fwyaf. Bu ymladd â'r Saeson hefyd, y mae'n wir, ond ar wastadeddau Lloegr y bu'r rhan fwyaf o'r brwydrau hynny, megis brwydr Baddon[1]. yng ngwlad yr Haf (?) a brwydr Caer. Ceir sôn yn y Gododdin hefyd am y "gwŷr a aeth Gatraeth i ymladd ag Ida, arweinydd y Saeson, rywle yng ngogledd Lloegr. Cael meddiant llwyr ar dir Lloegr oedd nôd y Saeson, ac wedi canrifoedd o frwydro, sef tua diwedd yr wythfed ganrif, cyrhaeddwyd y nôd a bodlonodd Offa, brenin galluog Mersia, ar godi clawdd[2] i gadw'r Cymry draw heb ymboeni i gario'r goncwest ymhellach.

Gellir gweled oddi wrth Stent Wiliam y Concwerwr, a elwir Domesday Book (1086), leied o argraff a wnaethai'r Saeson ar Gymru yn ystod y pum canrif cyn hynny. Ceir cyfrif yn yr ystadegau hynny am y rhannau o Gymru a enillasid oddi ar y Cymry, ond dylid cadw mewn cof mai'r barwniaid Normanaidd a feddianasai'r rhan fwyaf o'r tiriogaethau hynny, er bod Harold, brenin y Saeson, wedi dechrau ar y gwaith o'u blaenau. Yn y gogledd yr oedd hanner tref Ruddlan, lle yr oedd eisoes gastell wedi ei godi, yn nwylo Huw Flaidd, Ĭarll Caer, a'r hanner arall yn cynnwys ychydig dros hanner y bwrdeiswyr (sef deg yn erbyn wyth), hanner yr eglwys, hanner y gweithydd haearn a hanner afon Glwydym meddiant ei gefnder, Robert Rhuddlan.[3] Yr oedd y rhan honno o'r wlad, felly, rhwng Dyfrdwy a Chlwyd o Gaer i Ruddlan, eisoes yn nwylo'r Normaniaid. Yng nghanolbarth Cymru codasai Roger Montgomeri o Amwythig gastell iddo'i hun yn Hen Domen, gerllaw Trefaldwyn; ac yr oedd castell arall ar ei ganol yng Nghroesoswallt. Delid dau gwmwd wrth odre'r Berwyn, sef Cynllaith ac Edeirnion, gan Reinallt y Siryf; yr oedd Iål yn nwylo Huw Caer (er ei fod yng nghanol tiriogaeth Roger), a delid Nanheudwy gan Gymro o'r enw Tudur.[4]

Yn y de llwyddasai Fitzosbern, Iarll Henffordd, i ddiogelu ei arglwyddiaeth trwy godi cestyll yn Wigmore, Clifford, Ewias Harold, Mynwy a Chasgwent, a sefydlu nifer o Normaniaid

  1. Nid oes sicrwydd am leoliad Mons Badonicus, Gildas. Gwêl Lloyd, I, 125, Note 4
  2. Ibid. I, td. 198. Tybia rhai godi'r clawdd mewn cyd-ddeall â'r Cymry.
  3. Domesday Book, Cheshire, xix, a.
  4. Y mae adrannau o'r Domesday Book i'w gweled dan y gwahanol siroedd yn y Victoria County History. Gweler hefyd Lloyd, op. cit., XI.