o'u cwmpas; ond prin, wedi'r cwbl, y symudasai'r ffin rhwng y ddwy wlad. Er hynny, efô a ddangosodd y ffordd i ddarostwng y Cymry, a thrwy ei gynllun ef y llwyddwyd yn y man.[1]
Symudwyd y rhwystr mwyaf oddi ar ffordd y Norman pan fu farw Rhys ap Tewdwr, tywysog Deheudir, yn ystod Gŵyl y Grôg yn y flwyddyn 1093, a buan y gwybu'r de ei golli. Syrthiodd y deheubarth mewn ychydig amser i grafangau barwniaid y Mers, ac yr oedd wedi ei ddarostwng yn llwyr cyn syrthio o Wynedd yn 1282.
Y Norman, felly, a orchfygodd Gymru: a daeth y wlad, a oedd hyd hynny wedi byw ei bywyd ei hun er gwaethaf y Rhufeiniwr a'r Sais, i gyfathrach uniongyrchol â chynnyrch mwyaf nodweddiadol gwareiddiad yr canol. Ar drothwy'r cyfnod hwnnw, gan hynny, yr oedd ei phrofiad yn hollol wahanol i brofiad ei chymdoges agosaf, ond er mai cymharol neilltuedig a fuasai ei bywyd, nid diffrwyth mohono o lawer. Olrheiniwyd eisoes dwf ei bywyd crefyddol, ond y mae eto ddwy agwedd arall ar ei bywyd y dylid sylwi arnynt. Dichon nad oes dim a rydd well syniad am ddatblygiad bywyd cymdeithas na natur y gyfundrefn gyfraith. Y mae'r ffaith bod cyfraith o gwbl yn dangos gydnabod o ddynion awdurdod uwch na'u barn hwy eu hunain, ac oddi wrth natur y cyfreithiau gellir barnu o leiaf beth oedd y delfrydau yr ym— gyrhaeddai'r bobl neu'r genedl atynt. Ceir, er enghraifft, ddarlun o fywyd Cymru gynt yn y corff hwnnw o hen gyfreithiau sydd ar gael mewn llawysgrifau o'r ddeuddegfed ganrif ac a gysylltir ag enw Hywel Dda. Nid Hywel a wnaeth y cyfreithiau hyn yr hyn a wnaeth ef oedd casglu at ei gilydd gyfreithiau neu arferion gwlad, lawer ohonynt yn hŷn lawer na'i oes ef ei hun. Hen Arfer yw deunydd y rhan fwyaf o gyfreithiau bore pob gwlad yn Lloegr, er enghraifft, arferion gwlad (Common Law) yw prif ran y gyfraith heddiw, ond ychwanegwyd atynt o dro i dro trwy fenthyg o gyfraith Rufain (er na bu dylanwad honno gymaint yn y wlad hon ag ar y Cyfandir), trwy ddeddfu o fwriad a thrwy ddilyn dyfarniadau'r llysoedd. Cyffyrddai cyfreithiau Hywel â phob agwedd ar fywyd yn eu plith ceir cyfreithiau neu ddefodau'r llys, cyfreithiau ynglŷn â gwahanol ddosbarthiadau cymdeithas a'u dyletswyddau ac â phersonau a chytundebau rhyngddynt a'i gilydd, cyfreithiau tir a chasgliad o reolau ynglŷn â'i drin, ac yn olaf cyfreithiau ynglŷn â llys barn a chosb am drosedd.
- ↑ Lloyd, op. cit., td. 375.