Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y cyfreithiau hyn a chasgliadau, a wnaed tua'r un amser, o gyfreithiau brenhinoedd Lloegr. Nid oedd cyfreithiau Ine, brenin Wessex, a hyd yn oed gyfreithiau Alffred Fawr, ond casgliadau o gosbau am droseddau arbennig,[1] ac oherwydd hynny ychydig o olau a geir ynddynt ar fywyd cymdeithasol y cyfnod, oddieithr ar ei ochr hacraf. Ond nid felly gyfraith Hywel ceir ynddi hi ddarlun llawn a manwl o bob agwedd ar fywyd y cyfnod, a phrin yn sicr y mae gan unrhyw wlad ei hafal fel portread o'r bywyd cenhedlig.[2] Nid traethawd ar egwyddorion cyfraith mohoni, ond ymdrech i ddatrys anawsterau bywyd bob dydd. Yn hytrach nag ymboeni ag egwyddorion cyffredinol, a droes yn fagl i fwy nag un deddf-roddwr, cymerth y casglydd bob cwestiwn ar ei ben ei hun, a gwnaeth ymgais i'w ddatrys yng ngoleuni ei wybodaeth am anawsterau gweinyddu deddf. Nid cyfraith ydoedd, ychwaith, i'w gosod, fel "dooms" y Saeson, ar war y bobl, ond casgliad o arferion gwlad oddi ar wefusau gwŷr cyfarwydd pob cymwd trwy Gymru,[3] a dichon y gellir gweled, yn y gwahaniaethau rhwng y gwahanol gopïau fel y maent gennym heddiw, ôl ymgais i barchu'r gwahaniaethau rhwng arferion Gwynedd, Powys a Deheubarth.[4] Dichon, ar y llaw arall, nad ydyw'r rhain ond ychwanegiadau a wnaed yn ddiweddarach gan dywysogion y taleithiau hynny.

Agwedd bwysig arall ar fywyd cenedl yw ei llên, oherwydd fe'u delwedda pobl eu hunain yn eu llên mewn modd nas gwnant mewn dim arall. Nid oes sicrwydd ynglŷn â dechreuadau llenyddiaeth Gymraeg, ond cytuna'r beirniaid yn lled gyffredin fod rhyw gyfran, beth bynnag, o waith y Cynfeirdd yn perthyn i'r chweched ganrif. Erbyn hyn, fodd bynnag, y mae bron yn amhosibl penderfynu faint o'r gwaith a briodolwyd o dro i dro i Aneurin a Thaliesin a oedd yn eiddo iddynt

  1. " In general, these laws seem to be new laws, additions to the law that is already in force,"—Maitland ar "Anglo—Saxon Dooms, "Constitutional History, td. 3.
  2. Gweler llyfr T. P. Ellis, Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages, ar wahanol agweddau'r gyfraith.
  3. Nid oes sicrwydd pa un ai cymwd neu gantref olygid wrth "pagus" fel term ddefnyddid i ddisgrifio adran o'r wlad. Cymwd yw y gair yn Ancient Laws, p. 2, ond dywed Lloyd i'r wys gael ei hanfon i bob cantref (Hywel Dda, td. 18, Hist. I, 339). Cred Lloyd i gynhadledd gael ei chynnal yn y Tŷ Gwyn (Aberystwyth Studies, p. 3). Ond teifl Goronwy Edwards dipyn o amheuaeth ar hyn (Hywel Dda and the Welsh Law Books, p. 14).
  4. Gweler erthygl T. P. Ellis ar "Hywel Dda, Codifier," yn Cymmrodorion Transactions. 1926-7.