
neu'n dir gwyllt. Yr oedd cyfran helaeth o'r tir y sonnir amdano yn y Stent honno yn fforffed am ymladd o'i berchenogion gynt yn erbyn brenin Lloegr yn amser Llywelyn; rhentid y tir âr gan denantiaid newydd, ond cedwid y tir diffaith yn borfa gyffredin fel cynt. Yn Chwilbren, allan o 353 o aceri, ni rentid ond 42 acer, ac yng Ngwytherin, allan o 1,204 o aceri, yr oedd 1,100 yn borfa gyffredin. Fel hyn y dylid synied am ardaloedd Cymreig yn ystod yr oesau canol—llecyn neu ddau o dir âr neu weirglodd yng nghanol anialwch y borfa gyffredin. Dengys yr un Stent y cyfnewidiadau a oedd yn graddol weddnewid wyneb y wlad. Yr oedd Cefnyfed,[1] meddir, yn dir gwyllt i gyd yn amser y tywysogion, ond erbyn amser y Stent dechreuasid ei drin a'i osod gan Lacy, Iarll Lincoln. Dywedir hefyd fod ym Mhrion a Segrwyd, er enghraifft, gannoedd o aceri o dir gwyllt a ddygasai elw mawr i'r arglwydd pe gallesid eu trin. Yr oedd yn Segrwyd barc dros fil a hanner o aceri ei faint a osodasid eisoes gan Lacy i nifer mawr o Saeson—ac y mae'n debyg mai hwynthwy a'u disgynyddion a arloesodd y lle.
- ↑ Survey of Denbigh 22: "Villata de Kernyneuet qui aliquo tempore fuit boscus vastus tempore Principum est villa de novo confecta et appruata a tempore Comitis Lancastru qui primo illam arrentavit continens dcxxxvi acr. dim xxxii pert."