
Ar draws y rhaniadau politicaidd hyn ceid y rhaniadau eglwysig, nad ydynt bob amser mor hawdd eu holrhain. Un o'r rhaniadau pwysicaf, wrth gwrs, yw'r plwyf, ond y mae'n debyg nad yw'r plwyf, mewn rhai lleoedd o leiaf, cyn hyned â'r esgobaeth. Rhannwyd Lloegr yn blwyfi, medd traddodiad,[1] yn nyddiau'r Archesgob Theodore o Darsus, a ddaeth yn Archesgob Caergaint yn y flwyddyn 668, ond ni wyddys pa bryd y gwnaethpwyd rhaniad cyffelyb yng Nghymru. Y mae'n amlwg, fodd bynnag, fod y plwyf yn rhaniad diweddarach na'r dref, y rhaniad politicaidd a chymdeithasol, oherwydd ffurfiwyd y plwyf trwy osod nifer o drefydd wrth ei gilydd i fod yn gyfrifol am ddegwm y llan. Gosodwyd y degwm ar y dref a'r canlyniad fu newid ei henw o fod yn dref gordd—a oedd yn gyfrifol am nifer o filwyr i'r fyddin—a'i galw yn dref ddegwm. Nid oedd y trefydd degwm a berthynai i'r un plwyf bob amser yn gryno gyda'i gilydd. Ceir aml dref ddegwm, neu adran o dref ddegwm, yn perthyn i blwyf neilltuol heb fod yn agos i'r plwyf hwnnw, a cheir enghreifftiau o drefydd
- ↑ Dengys Stubbs, Constitutional History, I, Ch. viii, pa faint o sail sydd i'r traddodiad.