i mewn i ffurfiad cenedl, sef y ffaith bod pobl yn cydfyw yn o waed. yr un lle yn hytrach na'u bod yn perthyn i'w gilydd o waed
Hynyna'n fyr yw'r gwahaniaeth rhwng syniad llwyth a syniad gwlad am hanfod cenedl. Nid oedd yn anhepgor olrhain y llinach trwy'r gwryw yr oedd ei holrhain trwy'r fam yr un mor ddilys yn y cyfnodau boreaf oll.[1] Sylfaen y llwyth, mewn gair, ydoedd perthynas, wirioneddol neu dybiedig, â rhyw un a gyfrifid, os nad yn dad y llwyth, yn aelod amlwg a chyfrifol ohono. Nid yw llwyth, cenedl a thylwyth, ond enwau cyfystyr ar wahanol agweddau o'r un peth. 10
Prawf arall fod dyddiau'r "genedl" ar ben erbyn amser Hywel yw'r ffaith nad oes dim sicrwydd am unrhyw swyddog yn perthyn iddi ond y pencenedl—cynrychiolydd cyffredinol y genedl. Prif waith y pencenedl oedd "ymyrru ag un yn rhaid"ref>Gweler hefyd, Lloyd: op. cit. I, 285 et seq.</ref>—bod wrth law mewn awr gyfyng pan fai angen am amddiffynnydd i'r llwyth.
Y mae'n wir y rhoddid pwys ar radd y berthynas rhwng yr unigolyn a thad y llwyth, hynny yw, rhennid y llwyth yn gylchoedd yn ôl nifer y cenedlaethau—y bedwaredd, y seithfed a'r nawfed genhedlaeth. Perthynai i bob cylch o'r fath ei freintiau a'i ddyletswyddau neilltuol, ond nid oes dim sail i'r dyb y dynodai'r rhain derfynau'r llwyth neu'r tylwyth.
I ran y pencenedl hefyd y disgynnai'r gwaith pwysig o dderbyn mab newydd i mewn i fywyd y genedl. Pan gyrhaeddai ei bedwaredd blwydd ar ddeg, deuai'r plentyn yn aelod o'r llwyth ac yn gyfrannog o holl freintiau a holl ddyletswyddau ei genedl; a chan y derbynnid y plentyn anghyfreithlon yn ogystal â'r plentyn cyfreithlon, perthynai pwysigrwydd neilltuol i'r swydd o arddel y plentyn newydd.
Pan ymsefydlodd y llwythau crwydr yn eu hunfan, daeth dylanwadau newydd i'w bywyd, ond parhaodd rhai o nodweddion y cyfnod cenhedlig am gryn amser yn hwy. Wrth ymsefydlu meddiannodd pob llwyth ryw gyfran o dir a daear, ac y mae'n debyg mai'r enw a ddefnyddid ar y dechrau am gartref y llwyth ydoedd gwlad. Ni olyga hyn nad oedd, fe ddichon, fwy nag un llwyth wedi meddiannu adran neilltuol. Edrychid ar y wlad bellach fel eiddo'r llwyth yn gyffredinol, a bod gan bob aelod cyflawn o'r llwyth hawl i ddefnyddio cyfran ohoni i ennill ei fywoliaeth oddi arni. Fel y dywed Vinogradoff, nid oes wirionedd sicrach ynglŷn â'r cyfnod hwn
- ↑ Vinogradoff: Growth of the Manor, 9.