Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na'r gwirionedd mai eiddo'r llwyth ac nid eiddo unigolion oedd y tir. Ni feddai'r unigolyn ond hawl i ennill ei fara trwy gael cyfran o'r tir,[1] nid yn feddiant personol, ond i'w ddefnyddio i godi cnwd arno neu yn borfa i'w anifeiliaid.

Yn y stentiau a wnaed yn ddiweddarach gan y Normaniaid, yr enw a ddefnyddir am dir a ddelid yn y modd hwn oedd gwely (Lladin, lectus). Awgryma'r enw mai perthynas waed oedd o hyd yn penderfynu hawl yr unigolyn ar gyfran o dir y llwyth. Mewn geiriau eraill, gwelwn y modd y'i delweddai'r gyfundrefn genhedlig ei hun yng nghyfundrefn dir y Cymry—peth a barodd drafferth nid ychydig i'r swyddogion Normanaidd. Y cyfuniad diddorol hwn, fel y dywedwyd eisoes, oedd un o nodweddion mwyaf pwysig yr hen gyfundrefn Gymreig.

Anodd penderfynu beth a olygid gan y Cymry gynt wrth y term gwlad. Weithiau fe'i defnyddid yn gyfystyr â thywysogaeth (fel Gwynedd), dro arall, yn gyfystyr â chantref neu gymwd, fel Meirionydd neu Fuallt. Y mae'r un anhawster ynglŷn â'r term brenin. Defnyddir ef weithiau am fân arglwyddi'r cantrefi, bryd arall am dywysog Gwynedd neu Ddeheubarth,[2] ac ni wahaniaethir yn glir rhwng y ddau yn y cyfreithiau. Gellir casglu oddi wrth hyn mai swydd newydd, mewn gwirionedd, oedd swydd brenin er bod sôn am frenhinoedd gan Gildas mor fore a'r chweched ganrif. Nid yw hyn ond y peth oedd yn gyffredin yn yr oesau canol. Awdurdod a dyfodd yn ddiweddarach oedd awdurdod y brenin. Awdurdod yr arglwydd, fel y dengys Maitland, oedd yr hynaf,[3] a bu hir y frwydr rhwng yr awdurdod newydd y brenin—a'r arglwyddi a'u hystyriai eu hunain yn ogyfuwch ag ef. Ceir enghraifft dda o hyn yn hanes ffiwdaliaeth Ffrainc, lle yr oedd gan y prif arglwyddi awdurdod cyfartal i awdurdod y brenin ei hun. Gwelir bron yr un peth ar ororau'r Alban a Chymru yn niwedd yr oesau canol, lle yr oedd nifer mawr o fân arglwyddi gwnai pawb yr hyn oedd iawn yn ei olwg ei hun, ac ni chydnabyddid gwŷs y brenin. Fel ei gydradd, fe gofir, yr ymddygai Iarll Caerloyw tuag at Edward I.[4] Mewn cyfnodau boreach—cyfnod Gildas, er enghraifft—dichon fod y sawl a adwaenid fel brenhinoedd yn meddu awdurdod yn eu swydd fel swyddogion yr hen Ymerodraeth Rufeinig, neu o leiaf bod y traddodiad

  1. Vinogradoff: op. cit., 18.
  2. The Ancient Laws and Institutes of Wales, II, 632.
  3. Pollock and Maitland: History of English Law, I, 6.
  4. Gweler tudalen 91.