Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bu raid i'r Golygydd o'r herwydd adael allan ychydig erthyglau oeddynt yn ei Gynllun ar y dechreu, megys Esgobyddiaeth a Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru.

Gan na chyhoeddwyd Gwaith cyffelyb i hwn o'r blaen yn yr iaith Gymraeg, nid yw yn rhyfedd os canfyddir fod yma rai diffygiadau, ac weithiau fe ddichon, gamgymeriadau; ond yr ydys yn hyderus nad ydynt yn lluosawg, nac yn bwysig.

Gan fod y Gwaith hwn wedi ei amcanu mewn rhan i fod yn Gronfa o ddefnyddiau at wasanaeth Haneswyr dyfodol, y mae yn llawen genym gael lle i gredu, trwy hysbysiadau a'n cyrhaeddasant o wahanol gyfeiriadau, ei fod eisoes wedi bod yn foddion i gymhell amryw i gymeryd mwy o ddyddordeb yn Hanes eu Cenedl, a Henafiaethau eu Gwlad; fel y mae lle i obeithio y bydd i lawer o'r Olion henafiaethol ydynt yn wasgaredig dros wyneb y Dywysogaeth, ond hyd yma yn ddi sylw, gael eu dwyn i oleuni, a thrwy eu holrhain yn ofalus, y gallant wasanaethu i egluro ein Hanesiaeth foreuol yn gyflawnach a mwy boddhaol.


Y GOLYGYDD.