Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYMRU:

YN HANESYDDOL, PARTHEDEGOL, A BYWGRAPHYDDOL.

DAN OLYGIAD Y

PARCH. OWEN JONES.

YN CAEL EI GYNNORTHWYO GAN Y

  • PARCH. J. EMLYN JONES, LL.D.
  • PARCH. J. SINTHER JAMES.
  • PARCH. RICHARD PARRY (GWALCHMAI).
  • Parch. ROBERT ELLIS (CYNDDELW ).
  • PARCH. WM. REES, D.D. , LIVERPOOL.
  • PARCH WM. DAVIES, D.D., BANGOR.
  • PARCH. THOMAS REES, D.D. , ABERTAWE.
  • PAROH. DANIEL ROWLAND , M.A.
  • PARCH. E. STEPHEN.
  • PARCH. THOMAS LEVI, ABERTAWE.
  • "DAFYDD MORGANWG."
  • PARCH. ROGER EDWARDS.

AC AMRYW RAILL.

AMCAN Golygydd y Gwaith hwn ydyw cyflawn gyfarwyddyd cyffredinol ar bob peth o ddyddordeb dwfn mewn cyssylltiad â'r Dywysogaeth, yn y dosbarth-ranau o Hanesyddiaeth, Parthedegaeth, a Buch-draithyddiaeth.

HANESYDDIAETH.—Cynnwysa erthyglau cryno a dyddorol ar yr holl amgylchiadau mwyaf nodedig yn Hanesiaeth Wladol a Milwraidd, Crefyddol a Chymdeithasol y Wlad; ac yn wasgaredig trwy y rhai hyn, neu dan benau annibynol, rhoddir mynegiadau helaeth am Frwydrau, Cylafareddau, Henafiaetbau, Defodau ac Arferion, Iawnderau a Rhagor-freintiau, Sefydliadau Cyhoeddus, Urddasau ac Uchel-swyddau, Gwladol ac Eglwysig—mewn gair, pob peth pwysig sydd yn cyfansoddi yr hyn a elwir yn gyffredinol-HANESYDDIAETH.

PARTHEDEGAETH-Rhoddir darluniad ar wahan o'r holl wledydd, Dinasoedd, Bwrdeis-drefi, a Threfi Corphoriaethol a Marchnadol, Plwyfau, Capeliaethau, a Thref-lanau; ac mewn cyssylltiad a'r rhai hyn, rhoddir eglurhad ar y lluaws Gweddillion Henafiaethol a ffurfiant arweddau mor nodedig mewn llawer parth o'r wlad, ac o amgylch pa rai y cyd ymdyrra adigofion, o ddyddordeb lleol a chyffredinol tra mawr;-o'r cyfryw y mae Meini