Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ABER; a elwid weithian Aber-gwyn-cregyn; Plwyf yn nghantref Arllechwedd uchaf, swydd Gaerynarfon, Gogledd Cymru: 6m. i'r dwyr. og. ddwyr. o Fangor, ar ochr y brif ffordd o Gaerlleon i Gaergybi; ac ar lan Traeth y lafan.

Yr oedd y lle hwn gynt yn un o drigleoedd tywysogion Gwynedd: ac ar fryncyn celfyddydol yn y nant hon adeiladai Llewelyn Fawr gastell cryf, er cadw meddiant o'r bwlch pwysig yma, trwy yr hwn y croesid y mynydd tua Chynwy neu Gaer Rhun. Nid oes dim o olion y castell ar gael yn bresenol, oddieithr y bryncyn, ar yr hwn ei hadeiladid, yr hwn sydd tua 60 troedfedd o dryfesur, a 24 tr. o uchder; ac nid ydys yn gallu olrhain dim o olion y llys tywysogaidd i sicrwydd boddhaol ychwaith: ond yn ddiweddar gellid canfod olion y ddyfr-ffos a gludai ddwfr o'r afon i'r castell.[1] Pa hyd y bu y fan hon yn drigle i dywysogion Gwynedd nid yw yn hawdd penderfynu efallai; yr oedd y sefyllfa yn dra chyfleus i'r perwyl, gan ei bod yn gorwedd yn agos i'r canol, rhwng dau lys arall, yn y rhai y trigent yn achlysurol, sef Aberffraw yn Mon, a Maes Mynnan yn swydd Fflint.

Mae yn ymddangos fod y lle hwn mewn cryn Rwysg yn amser y ddau Lewelyn, ac efallai mai dyma lle yr oedd eu prif drigias. Llewelyn ab Iorwerth, yr hwn hefyd a gyfenwir " Llewelyn Fawr," oedd fab i Iorwerth Drwyndwn, yr hwn, gan ei fod yn fab hynaf i Owain Gwynedd, oedd ettifedd cyfiawn gorsedd Gwynedd; ond efe a roed o'r neilldu ar gyfrif yr anaf oedd ar ei wyneb, trwy gydsynied cyffredinol pendefigion y dalaith; a'i frawd Dafydd a alwyd i'r orsedd; ar hyn y cydsyniodd Iorwerth yn dawel, ac ymroddai i fyw bywyd neillduedig: ond y mae yn ymddangos fod Dafydd ab Owain yn dra eiddigeddus o'i frodyr, ac yn ymddwyn yn dra chreulawn a gorthrymus tuag attynt, gan ddwyn eu tiroedd oddiarnynt, a'u carcharu hwythau. Yr ettifeddiaeth a adawsid i Iorwerth Drwyndwn, at ei gynhaliaeth ef a'i deulu, oedd cantrefi Nanconwy yn swydd Gaerynarfon, ac Ardudwy yn Meirionydd; a'i breswylfod oedd castell Dolyddelen; yn yr hwn, ond odid y ganwyd ei fab enwog, Llewelyn Fawr. Ond, bu raid i Iorwerth druan ffoi rhag creulonder ei frawd Dafydd, i'r Pennant Melangell, lleyr ydoedd cysegrfa a noddfa hynod; a dywaid traddodiad iddo gacl ei lofruddio yn lled agos i'r gyssegrfa grybwylledig, mewn lle a elwir hyd heddyw "Bwlch Croes Iorwerth" Y mae yn y fynwent uchod faen cerfiedig, a llun dyn arfog arno, yn dwyn tarian, a'r geiriau canlynol oddi tano, "Hic Jacet Edwart," Wedi marw Iorwerth, ei frawd Rhodri ab Owen Gwynedd. yr hwn a garcharasid yntau gan ei frawd Dafydd, a ddiangasai o'r carchar, ac a gymerasai feddiant o holl ynys Fon, ac Arfon debygid hefyd, hyd at afon. Gonwy,—a gymerodd ei nai, Llewelyn, ettifedd cyflawn y goron, dan ei nawdd; ac nid yw yn annhebyg bod gan Llewelyn lŷs yn Aber, pan yn. wr ieuanc dan nawdd ei ewythr, Rhodri, yr hwn a wnelai ei oreu i gadw ei frawd Dafydd a'i luoedd, yr ochr arall i afon Gynwy. O'r diwedd, Llewelyn, fel yr oedd efe yn aeddfedu mewn oedran; wrth weled fod creulonderau ei ewythr Dafydd wedi gwanhau ei ddylanwad ar bendefigion Gwynedd; ac yn hyderus y derbyniai gefnogaeth gref o Bowys, yn gymmaint a bod ei fam Marged, yn ferch i Madog ab Meredydd, tywysog Powys; a roes allan ei fod ef yn hawlio tywysogaeth Gwynedd; a'r pendefigion gyda llawer o barodrwydd, a'i cydnabuant fel eu tywysog cyfreithlawn; ac efe a ddechreuodd lywodraethu yn y flwyddyn 1194. Yn mhen tair blynedd daeth ei ewythr a byddin gref o Gymry a Saeson dan ei lywyddiaeth, i ymdrechu adennill y dalaith oddiar Llewelyn; ond y gwron ieuanc o Aber a ennillodd y fuddugoliaeth yn drwyadl; ac a gymerodd ei ewythr yn garcharor: ond tua'r flwyddyn 1204 efe a roddes ei ryddid iddo, gan ddysgwyl yn ddiammeu, na buasai efe yn cyfodi terfysg drachefn; eithr can gynted ag y cafodd yr hen Dywysog ei ryddid, efe a giliodd yn lladradaidd i Loegr eto, a llwyddodd i gael byddin drachefn, â'r hon y gwnelai ail gais i ddwyn Gwynedd oddiar ei nai; eithr Llewelyn a'i llwyr orchfygodd drachefn; ac yn fuan ar ol y frwydr hon, efe ai rhoddes ef a'i fab Owain i farwolaeth, yn Aberconwy. Yn y flwyddyn 1292, hawliodd Llewelyn wiriogaeth oddiwrth holl dywysogion Cymru, fel penteyrn, yn ol cyfrcithiau Rhodri Fawr, a Hywel Dda; a'r rhan fwyaf o honynt a gydnabuant ei uchafiaeth yn ewyllysgar. Yr un flwyddyn hefyd, efe a briododd dywysoges Seis'nig, sef Joanna, merch y brenin John, a chafodd yn gynnysgaeth i'w chanlyn. arglwyddiaeth Ellesmere, yn y cyffindiroedd: fel yr oedd boreu Llewelyn yn ymddangos yn glaer a gobeithiol dros ben: ond, y mae yn ymddangos fod y brenin wedi myned yn eiddigeddus o'i fawredd, a thrwy ddichell a thrais, wedi llwyddo i gael gan Gwenwynwyn tywysog Powys. yr hwn a fuasai y

cyndynaf o'r tywysogion Cymreig i gydnabod

  1. Tybia rhai mai yn y fan lle y mae "Pen y bryn," Aber, yr oedd yr annedd Tywysogaidd yn sefyll; dywaid Leyland amdano fel hyn:— Yr oedd gan Llewelyn ab Iorwerth dy ar fryn mewn coed yn mhlwyf Aber ond, mae yn debyg mai y castell ar y bryn a elwir "y Mwd," oedd hwnw. I fynu yn y Cwm, y ffordd yr eir tua Bwlch-y-ddeufaen, yn agos i odreu y " Foel dduarth," y mae adfeilion hen adeilad fawr, ar ran o ba un y saif amaethdy bychan yn bresenol, a elwir "Hafod y Garth;" y mae yn debyg mai dyma y fan lle y Safai'r hen lys Tywysogaidd a elwyd Hafod-Garth-Gelyn: " o'r lle y dyddiai Llewelyn arnryw o'i Lythyrau, ac ysgrifau eraill: ac o fewn ychydig gannoedd o latheni i'r llannerch grybwylledig, rhyngddi âg Aber, canfyddir olion hen adeilad, a llannerch o dir a fuasai unwaith yn gauedig, yn ei hamgylchynu; ac y mae traddodiad yn mysg hen drigolion yr ardal, mai dyna lle y gorweddai y Llan a elwid Aber-garth-gelyn: a nodir llwybr yn cyfeirio oddiyno tu a'r Gyrn, Llanllechid, a elwir hyd heddyw, "Llwybr Gwilym, Offeiriad;" ffordd yr elai Offeiriad oddiyma, tua Bwlch yn Ylchi, lle debygid yr oedd eglwys arall, yn yr hon y gwasanaethai: ac y mae yn y fan hono adfeilion pentref lled fawr, yn uchel yn y mynydd- dir. Mewn perthynas— i Ben y Bryn, fe ddywedir fod un o henafìaid y diweddar Mr. Thomas, Coedalun, neu, "Goed Helen," gerllaw Caer-yn-Arfon, wedi cael arglwyddiaeth Aber, a'r tiroedd cylchynol, yn wobrwy am ei wroldeb yn mrwydr Zutphen; ac i'w fab adeiladu Pen y Bryn yn breswylfa iddo ei hun, yn ol rhyw gynllun tramor a dynasai ei sylw. Efe hefyd, meddir, a roddes y tir sydd yna perthyn i bersondy Aber, i fod at wasanaeth offeiriaid y lle hyd byth. Ond, dywedir fod Syr Richard Bulkeley, yr hwn oedd yn uchel yn ffafr y frenines Elizabeth, wedi trawsfeddianu y faenoriaeth yma oddiar y perchenogion cyfiawn, trwy ryw ystrywiau. Canfyddwn yn achau boneddwyr Coed Helen, enw un, "Syr William Thomas, o Aberglasney, Marchog o Ryfelwrth yr hyn efallai, yr awgrymir ei fod wedi cael yr anrhydedd hwnw, fel gwobrwy rhyw orchestwaith milwraidd. Yr oedd y boneddwr uchod yn Siryf swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1539. Ei fab, Rhys Thomas, Ysw. a briododd Jane. ferch Syr John Pulestone, Marchog, a gweddw Edward Gruffydd, Ysw., o'r Penrhyn, gerllaw Bangor; ac efe a fu yn Siryf swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1574.