Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchafiaeth Llewelyn, i drosglwyddo yr wriogaeth hono iddo ef (y brenin John): a hyn a arweiniodd i ymrafael blin rhwng Llewelin a'r brenin. Y brenin a arweiniodd fyddin gref hyd at Gaerleon ar Ddyfrdwy, lle yr ymunai minteioedd mawrion o Gymry dan ei luman, wedi eu casglu gan y pendefigion Cymreig, oedd a rhyw ddant ganddynt yn erbyn Llewelyn, yn mysg pa rai yr enwir Gwenwynwyn, tywysog Powys; Hywel ab Gruffydd ab Cynan ab Owain Gwynedd, yr hwn a alltudiasai Llewelyn am ei wrthryfel blaenorol; Madawg ab Gruffydd, Maelawr; Meredydd ab Rhotbert o Gedewin; a Maelgwyn,a RhŷsGrug, meibion yr Arglwydd Rhŷs. Yr oedd y brenin yn dra phenderfynol i lwyr anrheithio Gwynedd, ac i dori nerth Llewelyn yn y cadgyrchiad yma: ond, nid oedd y gwron Cymreig yn segur na diofal, ac felly efe a anfonodd frŷs genhadon trwy y berfeddwlad, sef swyddi Dinbach a Fflint, i erchi i'r trigolion fudo, yn nghyd a u holl anifeiliaid, i froydd Eryri: a'r brenin a arweiniodd ei fyddin fawr trwy Ruddlan, ar hyd glan y mor hyd gastell Dyganwy, lle yr ymwersyllodd efe ar lan yr afon, Cynwy: ac yno y gwarchaeid arno mor gyfyng, ac ei blinid mor ddibaid, gan wŷr Llewelyn, fel y bu agos i'r fyddin freninol anferth gael ei llwyr ddyfetha: a bu mor gyfyng arnynt gan newyn, fel y bwyttaent gig eu meirch eu hunain, gan ei gyfrif yn foethus. Yr oedd bod ei lŷs yn Aber, a'i brif orsaf filwraidd gerllaw, yn llawer iawn o fantais i Llewelyn i wasgu ar y fyddin freninol, a'i blino yn barhaus, tra y gwersyllai mor agos i Eryri a glanau afon Gynwy.

Bu raid i'r Brenin encilio yn ol yn warthus ac aftwyddiannus hollol o'r cadgyrchiad yma; ond fe barai hyny y fath friw i'w falchder, fel yr ymgynddeiriogai mewn nwyd-wylltedd, ac y penderfynai dywallt ei ddialedd ar Llewelyn a'i wlad y flwyddyn ganlynol: ac felly efe a barottodd fyddin gref iawn drachefn: a'r unrhyw bendefigion Cymreig a'i cynnorthwyent y tro hwn eto: ac ar yr achlysur yma. y mae yn ymddangos ddarfod iddo groesi afon Cynwy, a'r Brenin ei hun, a arhosodd yn Aber, yn nghyda rhan o'i fyddin; ond y rhan arall, a anfonodd ef yn mlaen, dan dywysiad y pendefigion Cymreig, i ymosod ar ddinas Bangor; gan ddysgwyl, efailai, fod Llewelyn yno. Y mae yn ymddangos ddarfod i'r fyddin hon losgi Bangor, a chymeryd yr Esgob, "Robert o'r Mwythig" yn garcharor, yr hwn a ddygasant at y Brenin.

Mae yn debyg fod Llewelyn wedi ei oddiweddyd yn hollol anmharod, gan ddychweliad disymwth y Brenin y tro hwn; fel y gwelai mai ynfydrwydd a fuasai iddo geisio ei wrthsefyll. Yr oedd hi y pryd hwn yn agos i adeg cynhauaf; ac wedi enciliad y Brenin o Deganwy, y mae yn debyg i Lewelyn ollwng y rhan fwyaf o'i wyr i'w cartrefi i barottoi llafur y ddaiar at gynhaliaeth y genedl; ac fe ddichon nad oedd gan Llewelyn ddim ond rhyw warchodlu bychan yn Aber ar y pryd, pan y derbyniodd y newydd fod y Brenin gyda byddin anferth, yn cyfeirio tua Bwlch-y-ddeufaen: gan hyny nid oedd ganddo ddim i'w wneyd, ond encilio can gynted ag y gallai i ganol y mynyddoedd; ac mewn tua dwy awr o amser gallasai ef a'i deulu fod wedi ymlochesu yn ddiogel yn Cwm y Gasseg, neu y Nant Bach, tra yr esgynai ef ei hun a'i wylwyr i ben y clogwyn, a elwir efallai, er cof am y tro, "Carnedd Llewelyn." Y mae yno hen adfeilion ar ben y Garnedd hyd heddyw, y rhai debygid, ydynt olion gwersylliad gwŷr Llewelyn yno.

Gallwn gasglu oddiwrth sylw yn un o Frudiau Rhys Goch Eryri, Bardd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, fod yma Gamedd wedi ei chyfodi gynt ar fedd Rhitta Gawr, ac i Lewelyn ddefnyddio y lle, fel Gwylfa fanteisiol ar yr achlysur dan sylw;—

"Llewpart yssigddart seigddur,
Llewelyn, frenin gwyn gwyr;
Ar ben trum oer tramawr;
Yno gorwedd Rhitta gawr.
Coronog oediog ydwyt,
Cwyn o fan oer, cynnefin wyt:
Llys y gwynt, lluosog wedd,
A'r lluwch yn mol y llechwedd."

Mae yn ddiau y buasai y fan uchel hon yn lle tra anghyfleus i wersyllu ynddo ar rai adegau ar y flwyddyn, gan ei noethed a'i oered; ond deallwn mai tua chanol mis Awst, oedd yr adeg y meddiannai y Brenin Aber; ac yr anrheithid Bangor gan ei wŷr ef. Gallasai Llewelyn o'i orsaf ddyrchafedig weled dinas Bangor yn cael ei llosgi, ac y mae bron yn sicr ei fod yn edrych ar y goddaith; a chan dosturio wrth gyflwr ei wlad, pryd nad oedd ganddo ef fodd i wrthsefyll y fath gyngrhair grymus ag a ymosodai arno ef a'i wlad y pryd hwn, efe a anfonodd ei wraig, y dywysoges Joanna, at ei thad, i geisio ammodau heddwch ganddo, yn yr hyn y bu ei hymdrech yn llwyddiannus hefyd: ond, yr oedd yr ammodau yn dra chelyd i Lewelyn druan. Yr oedd yn rhaid iddo dalu deugain o feirch, ac ugain mil o dda corniog[1] at draul y rhyfel; a chaniattau i'r Brenin gael meddiannu y berfedd-wlad, sef swyddi Dinbach a Fflint; ac yr oedd yn rhaid iddo roddi wyth ar hugain o feibion ei brif bendefigion i fynu i'r Brenin, fel gwystlon y byddai iddo gadw ei gyfammod.

Ond, yn fuan wedi hyn, tynodd y brenin ddigofaint Eglwys Rhufain yn ei ben, fel yr esgymunwyd ef ganddi; a'r Pab Innoccnt, yn y flwyddyn 1213, a ryddhaodd y Tywysog Llewelin, yn nghyda Gwenwynyn, a Maelgwyn oddiwrth eu llwon o ffyddlondeb a wnaethid ganddynt i'r Brenin; ac erchid iddynt ei flino hyd eithaf eu gallu, fel gelyn i'r Eglwys; a hyny dan addewid o faddeuant o'u pechodau, os cyflawnent y gorchwyl yn ffyddlawn; a than fygythiad o felldith, os y palient. Y canlyniad o hyn a fu, i Lewelyn roddi cais eto ar waredu ei wlad oddi tan iau estroniaid; ac wedi llwyddo i gael gan Gwenwynwyn a Madog ab Gruffydd Maelor, tywysogion Powys; Maelgwyn ap Rhŷs o'r Deheubarth, a Meredydd ab Rhotpert, o Gedewin, ymgyfarfod ag ef, i gynnadleddu yn achos cyflwr eu gwlad, efe a ddangosodd iddynt fel yr oedd swyddogion a chastellwyr y brenin yn blino, ac yn gorthrymu eu cydgenedl, ac mai i'w hanffyddlondeb hwy, mewn amser mynedol, yr oedd hyny i'w briodoli: yna efe a'u cymhellai yn daer i ymuno fel un gwr, ac i ymroddi a'u holl egni, unwaith eto, i fwrw iau gorthrymder oddiar eu gwarau, ac adfeddianu eu rhyddid a'u breintiau; ac annibyniaeth eu gwlad a'u cenedl.

Ei resymau cedym, a'i wladgarwch gwiw, a'u

gorchfygodd hwynt; ac yn wir, yr oedd trahausder

  1. Tair mil, medd rhai, yr hyn sydd yn fwy rhesymol—Woodward's Wales, p. 351.