Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cymru, Lloegr, a Llewelyn,
A rown yn nghyd am weled Gwilym."

Yna y bardd, gan gyfeirio a'i fŷs at y fan lle yr oedd ef yn hongian gerfydd ei wddf wrth bren, a ddywedai, "Dacw efe!" Dywaid traddodiad hefyd i'w gorph gael ei gladdu mewn ogof, yn y maes a elwir "Cae Gwilym Ddu." Eraill a farnant mai yn y lle a elwir Braich y Bedd, yn agos i Hafod Garth Gelyn ei claddwyd: ac y mae traddodiad yn ein hysbysu fod Eglwys yn agos i'r lle hwnw yn yr hen amseroedd; ac y mae yno lannerch yn myned hyd heddyw dan yr enw "Hen Fonwent." Nid oes dim yn anhygoel yn hyn, yn gymmaint a bod genym seiliau i gredu fod un o hâf-lysoedd y tywysogion Cymreig yn y fan grybwylledig.

Bu farw y Dywysoges Joanna, yn mhen saith neu wyth mlynedd ar ol y trychineb uchod; a hi a gladdwyd yn ol ei dymuniad ei hun, yn Llanfaes, gerllaw y Beaumaris, lle yr oedd crefydd-dy perthynol i'r urdd mynachaidd a elwir y Dominiciaid, neu y Brodyr Duon; a Llewelyn a adeiladodd Gapel costus ar ei bedd, yr hwn a gyflwynid i St. Francis, ac a gyssegrid gan Howel, Esgob Bangor.—Gwel LLANFAES.

Yn yr un flwyddyn ag y bu farw Joanna, sef 1237, Llewelyn a wysiodd holl dywysogion a phendefigion Cymru i'w gyfarfod ef yn Mynachlog Ystrad Ffiur, ac a barodd iddynt adnewyddu eu llwon o ffyddlondeb, a chydnabod hawl ei fab Dafydd o'r llywodraeth ar ei ol ef: ei fab o'r dywysoges Seisnig, yn hyttrach na Gruffydd, ei fab henaf, o'i wraig gyntaf Tangwystl. Yr oedd ganddo ferch hefyd o Joanna, o'r enw Gwladus, yr hon a briododd â Syr Ralph Mortimer.

O'r pryd hyn hyd ddiwedd ei oes, yr oedd teimladau mwy cyfeillgar yn ffynu rhwng y tywysog Llewelyn a'i frawd-yn-nghyfraith, brenin Lloegr. Yr oedd Llewelyn bellach mewn gwth o oedran, ac wedi treulio oes egniol a hunan-ymwadol annghyffredin, ac efallai fod hyny yn peri iddo fod yn dra awyddus am ychydig o seibiant a gorphwysdra bellach: ac heblaw hyny, efallai ei fod ef yn fwy awyddus am sicrhau i'w fab Dafydd, ewyllys da, a chefnogaeth ei ewythr, brenin Lloegr; fel, pan na byddai efe mwyach, y gallai ei fab Dafydd esgyn i'r orsedd yn fwy tangnefeddus. Ac ar yr 11eg o Ebrill, 1240, bu farw LIewelyn ab Iorwerth, ac efe a gladdwyd yn mynachlog Aber Cynwy, Yr oedd efe yn un o'r Tywysogion mwyaf doniol, dewr, a llwyddiannus, o holl Dywysogion Cymru; bu yn teyrnasu chwe blynedd a deugain, ac yn yr yspaid hyny ehangodd lawer ar derfyuau ei wiad: ond, yr oedd surdoes estronaidd wedi llygru amryw o'r pendefigion a'r offeiriaid i'r fath raddau, fel na's rhoddent i Lewelyn y gefnogaeth a'r cydweithrediad hwnw oedd yn angenrheidiol tuag at sicrhau ei hannibyniaeth a'i rhyddid.

Tua chwe blynedd y bu Dafydd fyw ar ol dylyn ei dad yn y llywodraeth, ac arnodid hyny o dymhor â llawer o anwadalwch tymher; ac â gormod o ddelw ei daid, y brenin John. Gorchwyl olaf ei oes, sef y gwrthsafiad dewr a ddaliodd efe i Harri y Trydydd, gerllaw Deganwy, a adlewyrchodd y pelydr mwyaf goneddus ar ei deyrnasiad;[1] ac yn fuan wedi dychweliad gwarthus Harri o'r cadgyrchiad colledus hwnw, dychwelodd Dafydd, yn doredig ei ysbryd i'w lŷs ei hunan, yn nghastell Aber, lle y bu efe farw, yn Ngwanwyn y flwyddyn 1246, ac efe a gladdwyd gyd a'i dad yn Aber Conwy. Bu farw Dafydd ap Llewelyn yn ddiblant; yr oedd ei unig frawd ef, Gruffydd ap Llewelyn, wedi torri ei wddf wrth geisio dianc o'r Twr Gwyn, ac efe yn dew ac yn drwstan. Gadawsai Gruffydd ap Llewelyn feibion ar ei ol, sef Owain, Llewelyn, a Dafydd. Yr oedd Owain, yr hwn a elwid Owain Goch, wedi bod er amser ei gaethgludiad gyd a'i dad i Lundain, dan gadwraeth y brenin yn Lloegr; ond, pan glybu efe am farwolaeth ei ewythr, efe a giliodd yn ddirgelaidd oddiyno, ac a ddaeth i Wynedd, gan ddysgwyl ei gelwid gan y pendefigion i'r orsedd dywysogaidd, fel ei hettifedd cyfiawn. Yr oedd Llewelyn trwy ystod teyrnasiad ei ewythr, yn aros yn ei lŷs ei hun, Maesmynan, gerllaw Caerwys: a dywedir ei fod yn meddiannu cantrefi Rhos, a Rhufoniog, a Dyffryn Clwyd, a Thegeingl. Ni's gwyddom pa le yr anneddai y brawd ieuangaf Dafydd ab Gruffydd y pryd hyn; pa fodd bynnag, fe ymddengys ei fod naill ai yn rhŷ ieuainc, neu ddinod, i feddwl bod yn ymgeisydd am arglwyddiaeth Dywysogaidd: ac felly, trwy gyngor pendefigion y wlad, gosodwyd Owain a Llewelyn yn dywysogion ar dalaith Gwynedd. Cyd deymasodd y brodyr yn dawel a chyttun, am yspaid yn y dechreu; ond yn mhen tua saith mlynedd, amlygai Owain Goch anfoddlonrwydd i fwynhau y naill hanner o'r Dywysogaeth; a llithiodd ei frawd Dafydd, i gyduno ag ef i geisio dwyn cyfran Llewelyn oddiarno; ac efallai eu bod wedi ymhyfau i wneyd y cais yma, am fod brenin Lloegr wedi dwyn y berfedd-wlad, lle y cynnwysid ettifeddiaeth Llewelyn, oddiar y Cymry: ond, tra yr oeddynt hwy yn casglu eu lluoedd yn nghyd i geisio dihawlio Llewelyn, a'i fwrw o'r arglwyddiaeth, casglai yntau fyddin o'i gefnogwyr i'w gwynebu, ac ar Fryn Derwyn, ychydig oddiar Glynnog. y cyfarfuant, a chyn pen awr o frwydro, cymerwyd Owain yn garcharor, a Dafydd a ffudd am ei einioes. Fe'n hysbysir ddarfod i Lewelyn gadw ei frawd Owain yn garcharor yn nghastell Dolbadarn am dair blynedd ar hugain.

Yn y flwyddyn 1255, y pendefigion Cymreig, y rhai ni's gallent oddef y camwri â pha un eu gorthrymid gan y tywysog Edward, ac arglwyddi y cyffindiroedd yn hwy, a anfonasant gennadwri at Llewelyn i attolygu arno amddiffyn eu cam; ac yntau fel Tywysog dewr-wych, ni bu yn annyben i gyfarfod â'u dymuniadau; ac wedi crynhoi byddin led gref yn nghyd, efe a ymosododd gyda chad-ruthriad chwyrn a chyflym ar y tiriogaethau a drawsfeddiannasid gan y Saeson; ac mewn llai nag wythnos efe a ennillodd yr holl Berfedd-wlad a Meirionydd. Yna efe a adenillodd y tiroedd a drawsfeddiannasai y tywysog Edward yn Ngheredigion, ac a'u rhoddodd i Meredydd ab Owain ab Gruffydd. Rhoddodd hefyd ardal Buallt i Meredydd ap Rhŷs Gryg, gan erlid ymaith Rhŷs Fychan ap Rhŷs Mechell, heb gadw dim iddo ei hun, ond yn unig ennill clod am ei wrolder a'i haelioni. Ar ol hyny, efe a aeth, ac a ennillodd iddo ei hun ardal Gwrthrynion allan o feddiant Syr Rosser Mortimer; ac yn mhen ychydig, sef yn 1256, efe a aeth tua Phowys gyda Meredydd ap Rhŷs, a Meredydd ap Owain, a llawer o bendefIgion eraill, yn erbyn Gruffydd ap Gwenwynwyn, yr hwn oedd yn pleidio y brenin, ac efe a ennillodd oddiarno y cyfan o Bowys, oddieithr y Castell Coch, ac ychydig o'r wlad, ar ymyl Hafren. Ac o'r flwyddyn

hon hyd y flwyddyn 1267, efe a barhaodd i ymladd

  1. Gwel EGLWYS RHOS, a LLANRHOS.