Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn erbyn y Tywysog Edward, â dewrder dihafal, gan fuddugoliaethu weithiau, acholli y dydd bryd arall: ond, yn y flwyddyn olaf a nodwyd, bu raid iddo ymostwng o flaen gallu gor-nifeiriol y Saeson; a derbyn ammodau heddwch yr hwn oedd yn fwy fuanteisiol ac anrhydeddus nag y gallesid dysgwyl. Gan i Llewelyn omedd talu gwarogaeth i Edward ar ei esgyniad i orsedd Lloegr, goresgynai y pennadur hwnw ei diriogaethau ef â byddin gref iawn yn y flwyddyn 1277, gan yr hon ei newynid i ymostyngiad o'r diwedd, ac ei gorfodwyd i ymheddychu ar ammodau, trwy y rhai ei difeddiannid o'r rhan fwyaf o i diriogaethau.

Yn y flwyddyn 1282, ymarfogai y Cymry drachefn i ysgwyd ymaith iau y gorthrymwyr oddiar eu gwarau, ymosodasant ar y gwarchodluoedd, a gorchfygasant amryw o ran-fyddinoedd y gelyn: ond, daeth Edward ei hunan i Wynedd drachefn, a lluoedd mawrion ganddo; ac efe a benderfynai lwyr ddarostwng Cymru cyn dychwelyd y tro hwn; ond, efe a gyfarfu â mwy o anhawsderau nag a fuasai yn eu dysgwyl, a chafodd ei wŷr eu baeddu yn dost mewn llawer brwydr â'r mynyddwyr glewion; felly yn yr Hydref, efe a ddychwelodd i Gastell Rhuddlan, o'r lle yr anfonodd wŷs-lythyrau i grynhoi ei brif gynghorwyr, er cynllunio rhyw foddion mwy effeithiol er cwblhau yr amcan oedd ganddo mewn golwg.

Yn fuan ar ol hyn, cyfeiriai y brenin tuag Ynys Fon, ac wedi croesi yr Afon Cynwy ar bont o fadau, gyda rhan o'i fyddin, tra yr anfonai y rhan arall o honi mewn llongau i'r Ynys; a'r rhai hyn a gawsant feddiant o ran o'r Ynys, pa fodd bynnag yn rhwydd, gan fod rhai o ddynion penaf yr Ynys wedi cymeryd llw o ddeiliadaeth i'r Brenin. Y rhan hon o'r fyddin, er gallu cydweithredu a'u cyfeillion a ddeuent ar hyd ymylau Arfon, a wnaethant bont o fadau dros y Menai, gerllaw Moel y Don, yn ddigon llydan i driugain o wyr ei cherdded yn gyfochrog. Yna, cyn i'r fyddin gyffredinol gychwyn i groesi y bont, ac yn wir, debygid, yn mhell cyn i'r Brenin a'r fyddin a'i canlynai, ddyfod yn agos i'r lle, darfu i Syr William Latimer, a llu nifeiriol o'r milwyr gorau, a Syr Lucas Thany, Rhaglaw Gwasgwyn, gyd a'i Wasgwynwys a'r Yspaeniaid oeddynt yn ngwasanaeth y brenin, fod mor eofn a myned tros y bont ar amser trai i'r ochr arall i'r Menai; a thros ennyd, ni chyfarfuasant ag un gwrthladdiad, ac nid ymddangosai eu bod mewn unrhyw berygl: ond, pan ddaeth y llanw i mewn, fel yr oedd rhan o'r môr rhyngddynt a'r bont, yn ei gwneyd yn anfanteisiol iddynt ei hadennill, rhuthrai y Cymry dan dywysiad Rhisiart ap Walwyn arnynt yn ddisymwth, fel y gorfu i'r rhai a allent,ddianc tu ag at y bont; ond y rhai a ddiangasant rhag arfau y Cymry, a foddasant wrth geisio cyrhaedd y bont, a dywedir na ddihangodd o honynt ond Syr William Latimer, yr hwn trwy gryfder ei farch a lwyddodd i gyrhaedd y bont. Felly yn y tro yma, collodd y Saeson, rhwng lladd a boddi, bymtheg marchog, deuddeg ar hugain o ysweiniaid, a mil o filwyr cyffredin. Yn mhlith y lladdedigion yr oedd Syr Lucas de Thany, Syr William Dodingeseles, a Syr William de la Zouch. Parodd y fuddugoliaeth hon lawenydd mawr i'r Cymry, ac o'r tu arall, dyrysodd amcanion Iorwerth, fel na ddaeth yn mlaen yn ol ei fwriad, i geisio cau ar Lewelyn yn mylchau Eryri, ond y dychwelodd yn ol i gastell Rhuddlan. Dywedir fod Llewelyn wedi gwneyd gwledd i'w gyfeillion yn Aber, brydnhawn y fuddugoliaeth uehod, a than symbyliad y llawcnydd eyffredinol, iddo gyfansoddi yr englyn canlynol[1]:—

"Mae'n don llawen bron llu'r brenin—heddyw
Er hawdded ein chwerthin;
Llawer Sais, leubais libin
Heb un chwyth fyth o'i fin."

Cymerodd y frwydr uchod le ar y 6ed o Dachwedd, 1282; ond byr iawn a fu parhad y gorfoledd uchod yn llysoedd y Cymry; ac nid yw yn annhebyg mai yr un a nodwyd uchod oedd y wledd olaf a gynhaliwyd yn Llŷs tywysogaidd Aber; canys Llewelyn, yn lle gorphwyso yma ar ol deall fod y brenin Edward wedi encilio i auafu yn nghastell Rhuddlan, a adawodd ei frawd Dafydd i gadw ardaloedd Eryri, ac efe ei hun a aeth â byddin gref tua Deheubarth Cymru, i gyfnerthu ei gyfeillion, ac i ymddial ar ei wrthwynebwyr, a chan ymosod ar Geredigion, gwlad Rhŷs ab Meredydd, yr hwn a fuasai gan amlaf yn fradwr i'w genedl, efe a'i diffeithiodd yn dost. Oddiyno efe a aeth tua Llanfair yn Muallt, i ymgynghori â rhai o bendefigion yr ardaloedd hyny, ac i geisio ffurfio cyngrheiriad tuag at wrthladd yr ormes Seisnig yn fwy effeithiol. Pa lwyddiant a fuasai yn dilyn yr ymdrech hwn o'i eiddo, pe y cawsai einiocs i gario allan ei gynlluniau, ni's gallwn ni ddyfalu: ond dygwyddodd amgylchiad ar y pryd hwn, a roes derfyn bythol ar ei holl gynlluniau gwladgar, a'i ymdrechiadau gorchestol; ac a lwyr ddiffoddodd annibyniaeth cenedlaethol y Cymry. Mae yn ymddangos iddo gael ei drywanu gan un Adam de Ffrancton, tra yr oedd o'r neilldu eneyd oddiwrth ei wŷr; a'i ben a ddygwyd i'r Brenin Edward, i gastell Rhuddlan, ac oddiyno fe'i hanfonwyd i'r brif ddinas, ac a'i gosodwyd ar bieell haiarn, ar un o dyrau uchaf y Twr Gwyn.—Gwel Buallt, &c.

Ei frawd Dafydd a'i deulu, y rhai a heliasid o gwm i glogwyn, a gymerwyd yn garcharorion, tra yr oeddynt yn llechu yn nghwr cors, gerllaw Mynydd y Bere, ryw ddwy neu dair milldir oddiar bentref Aber; ac efe a roddid i farwolaeth yn y modd creulonaf trwy orchymyn y brenin.

Ychydig oddiar y pentref hwn y gwelir gweddillion hen amddiffynfa Brydeinaidd grêf ar fryn uchel; a gelwir y Llannerch "Maes y Gaer." Gallem feddwl fod yr amddiffynfa hon tua chyfoed a'r amddiffynfa grêf sydd ar yr ochr arall i'r mynydd, yn mhlwyf Llanbedr y Cennin, yr hon aelwir Pen caer Elen; neu, yn fwy cywir, efallai, Pen caer Belin: ac nid yw yn annhebyg fod y ddwy hen amddiffynfa uchod wedi eu bwriadu i gadw y fynedfa trwy Fwlch y Ddeufaen.

Y mae yma lannerch yn y plwyf hwn a elwir Bryn y Meddyg, lle yr oedd yr yspytty efallai, i'r milwyr cleifion neu archolledig, pan fyddai annedd y tywysog yn Aber.

Yr oedd hen balasdy gynt yn y plwyf hwn, a elwid y Wig, lle y mae annedd hardd Mr. Atkinson yn sefyll; ac y mae y chwedl ddyddorol a ganlyn yn gyssylltiedig a'r lle. Dywedir fod y lle yn perthyn

gynt i arglwyddi Gwydir, gerllaw Llanrwst; a darfod

  1. Y mae eraill yn honni mae Cadwgan Ffôl a ganodd yr englyn pan y daeth y Saeson trwy Gonwy i ymladd a'r Cymry, ac eu boddwyd ger Deganwy; ac mai fei hyn yr oedd yr englyn:—

    "Llawer brân sy'n eisiau i'r brenin heddyw;
    Hawdd gallwn chwerthin;
    Llawer Sais, leubais libin,
    A'r grô yn dô ar ei din."