Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Syr John Wynne ar un achlysur, beri i'w was gymeryd y forwyn Catharine (yr hon oedd yn feichiog o'i meistr), dros y mynydd i'r Wig, i orwedd i mewn; ond fel yr oeddynt ar y mynydd, yn agos i'r Foel Wynion, daeth yn dywydd mawr arnynt, a deallai y llances bod pangfaau esgor wedi ei goddiweddyd; ac felly troisant i ryw hafotty bychan ar y mynydd, lle y gafwyd mab iddi; yr hwn wedi hyny a fu mor hynod, dan yr enw "Twm Siôn Catti." Ni's gwn ay ym chwedl hon yn gywir am le genedigaeth Twm; ond y mae hen furddyn ar y mynydd, yn cael ei alw "Hafotty y Famaeth hyd heddyw; ac y mae y traddodiad uchod yn cael ei gadw yn fyw gan fugeiliaid y fro, o oes i oes; ac yn eithaf cydweddol a buchedd ramantus y dyn hynod hwnw,

Mae yma le arall yn y plwyf o gryn henafiaeth hefyd, sef Bodsilin: a deallwn i linach ucheldras fod yn cyfanneddu ynddo dros oesoedd. Dyma achau y teulu, fel eu cawn yn ngwaith Lewys Dwnn, yr hwn a gyhoeddwyd dan olygiad Syr Samuel Rush Meyrick; ac oddiwrth y gwaith hwnw, casglwn fod gan y teulu hwn annedd arall yn Nhre 'r Gof, plwyf Hen Eglwys, Môn.

"Robert, mab ac aer Owen ab Robert ap John a Meirig ab Llewelyn ab Hwlcyn ab Howel ab Iorwerth ddu ab Iorwerth ab Gruffydd ab Iorwerth ab Meredydd ab Methusalem ab Hwfa ab Cynddelw, o Gwmmwd Llifon. Syr Owen Archddiacon Mon, yr hwn a ddyrchafwyd i'r urddas hwnw ar farwolaeth Nicolas Robinson, Esgob Bangor, yn y flwyddyn 1584. Yr oedd efe hefyd yn beriglor Burton Latimers, yn swydd Nortbhampton, ac yno ei claddwyd ef, Mawrth 21, 1592.

Syr William Owen, o'r cyff hwn a ddyrchafwyd i berigloriaeth yr Hen Eglwys, Medi 25, 1583; ond efe a'i rhoddes i fynu Hydref 17, 1605. John Owen, oedd yn Ysgrifenydd i Syr Francis Walsingham, ag oedd yn fyw Chwefror 19 y nawfed flwyddyn i Iago I. (1611-12), fel y gwelwn wrth amseriad Gweithred a lawnodwyd ganddo. Yr oedd ei wraig ef yn aeres Porkington, neu, yn Gymraeg, Brogyntyu, gerllaw Croesoswallt, a'r Cleneney yn Eifionydd; ac yr oedd Mary Jane, gwraig y diweddar William Ormsby Gore, Ysw., A.S., yn chweched mewn disgyniad o'r John Owen hwn, ac Ellen, ei wraig. Yr oedd iddynt ddwy chwaer hefyd, y rhai a briodasant i deuluoedd parchus. Eu mam, gwraig yr Owen ab Robert uchod, oedd Angharad, merch, ac un o dair aeres i Ddafydd ab William ab Gruffydd ab Robin o Gwchwillan. Mam Angharad oedd Gwen, ferch Morys ab John ab Meredydd ab Ieuan ab Howel ab Dafydd ab Gruffydd ab Cariadog ab Thomas ab Rhodri ab Owain Gwynedd. Mam Owen ab Robert, a'i frawd Howel, oedd Gwenhwyfar, ferch William ab Meredydd ab Rhys ab Ieuan Llwyd ab Gr: ab Gronwy ab Howel ab Cynwrig ab Iorwerth ab Iarddur, Mam hono oedd Anngharad, ferch o'r Cryngae yn Sir Gaer. Mam Robert ab John, oedd Anngharad, ferch Gruffydd ab Howel ab Madoc ab Ieuan ab Einion. Mam Meirig[1] oedd Mali, ferch, ac unig aeres i Ifan Llwyd ab Gr: ab Gronwy, o Fodsilin; ac oddiwrthi hi Cadfad Bodsilin. Mam John ab Meirig, Margaret, ferch Ieuan Fychan ab Ieuan ab Adda. Plant y Robert Owen uchod oeddynt John, yr hwn a fu yn wastrawd i Dywysog Condë, a'r hwn a werthodd ettifeddiaeth Bodsilin: Thomas, Robert, Owen, a William; ac o ferched, Ellen, yr hon a briododd Owen ab Huw ab Rhys ab Ieuan ab Dafydd Fychan.—Alis, yr hon a briododd William Bould ab Thomas Bould, o Gaer yn Arfon.—Mallt, Gras, ac Elsbeth. Mam John, Thomas, Ellen, Alis, a Mallt, oedd Anncs, ferch Sion Wyn ab Ieuan ab Sion ab Meredydd. Mam hono, Mallt, ferch Rhydderch ab Dafydd ab Ieuan ab Ednyfed. Mam y plant eraill oll ydoedd Lowry, ferch William Coetmor, ab William ab Pyrs ab Rhys ab Robert ab Ieuan Fychan. Mam hono, Siân, ferch William ab William ab William ab Gruffydd ab Robyn o Gwchwillan. Arfau Robert Owen o Bodsilin oedd Pais Hwfa ab Cynddelw.—-2 pais Cwchwillan.—3 pais Larddur. Oddiwrth yr achau uchod gwelwn fod gwaedoliaeth uchaf Gwynedd yn cyfarfod yn hen foneddigion. plwyf Aber.

Nid yw y pentref hwn ond bychan; na'r rhan fwyaf o'r anneddau ond salw yr olwg arnynt: ond y mae yn gorwedd yn ngenau glyn prydferth iawn, trwy yr hwn y mae yr afon Gwyngregyn yn llifeiriaw, gan ymarllwys i'r môr, ryw haner milldir islaw y pentref. Oddi yma ceir golygfa swynol ar Landudno, Ynys Seiriol, Penmon a'i Briordy henafol y Ffriars, Barnhill, Palas Syr Richard Bulkeley, Tref Beaumaris, a'i hen gastell; Dinas Bangor, a Chastell ysplenydd y Penrhyn: ac afon Menai, yn dryfrith gan agerfadau, a llestri hwylio o bob maintioli

O'r tu ol i'r pentref, y mae y glyn yn ymestyn. am oddeutu milldir a haner, rhwng bryniau uchel i fynwes mynydd-res fawreddog Eryri, ac o ganol y mynydd ceuawl sydd yn mhen uchaf y nant, y mae rhaiadr ardderchog yn disgyn ar ddau godwm: yr uchaf a dorir yn amryw ffrydiau, gan ei fod- yn cwympo ar draws ysgythrau y graig; a'r isaf sydd yn ymdywallt yn un len lydan o driugain troedfedd o uchder.

Y mae eglwys y Plwyf yma yn gyssegredig i Sant Bodfan, ac y mae yn ben adeilad ehang, a chlochdy, nendwr petryal da iddi. Y fywioliaeth sydd bersonoliaeth, yn Archddiaconiaeth ac Esgobaeth Bangor. Noddwr, Syr R. B. Williams-Bulkeley, Bar. Mae yma Ysgol ddyddiol berthynol i'r Eglwys, yn cael ei chynnal mewn Ysgoldy cyfleus, yr hwn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1833. Y mae yn ddigon ehang i gynnwys 67 o blant i dderbyn addysg: ond nid yw y nifer cyffredin yn haner hyny, na'r addysg a gyfrenir ynddi ond lled salw, fel y gwelir wrth Adroddiad Dirprwywyr Addysg.

Y mae dau Addoldy Ymneillduol hefyd yn y pentref bychan hwn, yr isaf, yr hwn hefyd yw y mwyaf, yn perthyn i'r Trefnyddion Wesleyaidd; a'r uchaf, i'r Trefnyddion Calfinaidd. Nid yw y cynnulleidfaoedd yn lluosog yn y naill na'r llall; ac ni's gellir dysgwyl iddynt fod ychwaith, gan nad yw poblogaeth y lle, ond ychydig.

Ymddangosai Cân i'r Plwyf hwn, mewn rhifyn Diweddar o'r " Brython;" gan frodoro'r lle, debygem; yr hon y'n cymhellir i'w dodi i fewn yma, o herwydd ei bod yn cynnwys darluniad tra cywir o'r ardal

"O Aber ! mae d'enw mor swynol i'm henaid;
O'm calon y'th garaf tra b'wyf yn y byd:
Dy lethrau dryfrithir â gwaith ein henafiaid,
Gwrthgloddiau a chaerau, a çhestyll tra chlyd.

  1. Bu Meirig ab Llewelyn farw yn y flwyddyn 1530. Cynrychiolwyd ef a'i dad a'u gwragedd mewn gwydr lliwiedig yn ffenestr Eglwys Ael neu Langadwaladr yn Mon