Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—Ei bannawg fynyddau,—noddfäau 'r hen Gymry,
Sy'n orwych ymgodi i'r cymmyl di ri;
—Y Llwydmor a'r Bere, mynyddoedd anwyl-gu,
Sy'n addurn i Aber, i brofi ei bri.

Helyntion fy maboed ymwthiant i'm golwg,
Nes berwi fy mynwes gan hiraeth yn gry;
A'm hnnwyl gyfoedion sy'n huno mewn trymgwsg,
Gynt chwerais a neidiais ar hyd y Ffrith Ddu:
Y campau bachgenaidd, a'r amryw wrhydri,
A wnaethum trwy gydol foreuol fy oes;
Y bryniau anwylgu, a'r creigiau uehel-fri,—
Y cyfati er's blwyddi o'm golwg a ffoes.

Ac yno mae palas yr hen Dywysogion
Fu'n llywio y Cymry er's cannoedd cyn hyn;
Llewelyn Fawr, enwog, hen Gymro twym galon,
A Dafydd ein brenin, fu'n hen Ben y Bryn; —
A dyma oedd palas ein T'wysog Llewelyn,
Llyw olaf y Cymry, hen elyn i drais;
Ond ga'dd ei fradychu yn Muallt:—Ow! gresyn,
A'i ladd yn y dyffryn gan gleddyf y Sais!

Uwchlaw y rhaiadrau, gwel, dacw y Bera,
Lle llechai ein Dafydd rhag cleddyf a brad;
Ond hela ein gwron â gwaedgwn wnaed yma,
A'i grogi, a'i ddarnio, ger gwydd yr holl wlad;
Yspeilio y Palas, a'n gwawdio ni gwedy'n,
Anrheithio ein broydd, a'n gosod yn gaeth:
Pa Gymro all garu hil Hengist fynydyn,
Pwyl ettyb yr adsain, tra'r eigion yn hallt!

Os oes i feib Hengist enwogrwydd a moliant,
Gwroldeb, beiddgarwch, nes synu y hyd;
Mae hil yr hen Frython yn uwch mewn gogoniant;—
O Aber ti fegaist wroniaid i gyd!
Beiddgarwch y Cymry sy'n deatyn ymddyddan.
A'u penderfynolrwydd sy'n syndod o hyd;
Dewr y'ut a diysgog ar faes y gyflafan,
Mae Cymry, bydd Cymry yn enwog trwy 'r byd.

Dy raiadr fawreddog, a'th ddyfroedd grisialog,
Sy'n llumu'n fwaog, gan ddyrnu y nant;
A dyfnder ar ddyfnder, sy'n galw 'n fawreddog,
Ryw fil-fil o leisiau, o fryn ac o bant;
A minnau wrth wrando y lleisiau lluosog,
Yn boddi mae fenaid yn nghanol y cor,
Ne's chwenych ymddiosg o'r babell ogwyddog,
A hedfan mewn nwyfiant i nefoedd fy Ior.

A Maes y Gaer enwog, a'r breichiau ysgythrog,
Sy'n dyrchu'n fawreddog i entrych y ne';
A rhwng eu cesseiliau rhed afon risialog,
Gan sisial, ri gweini i bawb yn y lle:
A'i meusydd mawreddog ddwg gynnyrch toreithiog;
Da corniog, a'i defaid o'r bron yu ddi ri':
Hirhoedlog ei meibion, a'r Duw Hollalluog
Roes arni yn enwog, o'i fawredd a'i fri.

A'r Domen henafol, lle bu ei thrigolion,
Yn chwareu eu campau difyrol heb ri';
A'r Eglwys a'r gladdfa, lle gorwedd ei meibion,
Sydd le cyssegredig ac anwyl i mi:
A Llyn Nant yr afon, a'i bysgod melynion,
Sy'n denu boneddion, finteioedd i'r fan,
I yfed ei ddyfroedd, a'i falmaidd awelon,
A gweled amrywion ddillynion ein Llan.

Dy geinion, O Aber! sy'n swyno fy nghalon,
Ti fegaist hoff feibion yr Awen yn wir;
A chewri o ddynion, fu'n sugno dy ddwyfron,
Sy'n awr dros yr eigion, yn addurn i'th dir.
Ar wyneb Amerig, mae rhai sy'n dy garu,
Ac yn Califfornia, rai ffyddlon a phur;
A thraw yn Awstralia, mae plant wnest eu magu,
Mae'th fechgyn, O Aber! ar wasgar yn wir.

O'r Mŵd a'i choed derw, ce's gân gan y cwcw,
A'r fwyalch fwyn hoyw, delora uwch ben;
A'r hen "Wern Grogedig," y lle neillduedig
Y bu yn grogedig, un Gwilym ar bren:
Ac annedd fy rhiaint, lle cefais fy magu
Yn dyner ac anwyl, heb brofi dim cam
A phan fyddwyf farw, O! doder fi i gysgu,
Dan gangau yr ywen, ger beddrod fy mam.

O Aber garth gelyn! meillionog ei dyffryn,
Hen gartref y delyn a'r awen yn wir;
Dy erddi toreithiog, a'th ddeildai goludog,
Palasau mawreddog sy'n addurn i'th dir;
Addoldai godidog i Dduw Hollalluog,
Moesoldeb a chrefydd, fo'n llenwi y fan;
Brawdgarwch ac undeb a fyddo'n flodeuog,
Dedwyddwch a heddwch byth. byth yn ein Llan.

Dy raiadr a'th geinion, sy'n denu boneddion,
Rhianod glan tirion, a Beirddion i'r fan:
A phenau coronog o'u llysoedd mawreddog,
I dalu ymweliad a llethrau ein Llan.
Pwy faidd fy nirmygu am i mi fawr garu,
Y fro ce's fy magu, a'm noddi rhag nam?
Boed llygaid y Duwdod yn gwylio fy ngwely,
Tra fyddwyf yn cysgu ger beddrod fy mam!
Glan Traeth Wylofain— Hu Eryri.


ABERAERON; tref fechan, a phorthladd, rhan. o ba un sydd yn mhlwyf Hen Fynyw; ond, y rhan fwyaf, yn mhlwyf Llanddewi Aberarth, y rhan isaf o gantref Ilar, swydd Abertetfi, neu Geredigion; DEHEUBARTH CYMRU: 16m. de or. wrth dde. o Aberystwyth; a 23 m. dwyr. og. ddwyr. o ABERTEIFI.

Mae y pentref hwn yn gorwedd mewn llannerch ddifyr, ar y ffordd fawr o Aberteifi i Aberystwyth; yn ngodreu dyffryn Aeron, (ystlysau yr hwn a wisgir a choedwigoedd heirdd, a pherllanau ffrwythlawn;) ar lan y mor, lle mae yr Aeron yn arllwys ei dyfroedd gloywon i'w fynwes. Y mae yr afon Aeron yn y lle hwn yn ffin plwyfi Henfynyw a Llanddewi, ac felly, y mae y pentref hwn yn gorwedd mewn rhan yn y ddau blwyf. Gwasanaetha dyfroedd yr afon hon i droi amryw felinau ydynt wedi eu cyfodi ar ei glennydd; ac y mae yn dra enwog am ei gleisiaid a'i brithyll.

Mae y dref hon yn ddyledus am ei dechreuad i'r diweddar Barch. Alban Thomas Jones Gwynne, o'r Tŷ Glynne, yr hwn yn y flwyddyn 1807, a gafodd Weithred Seneddol, dan awdurdod yr hon yr adeiladodd efe ddau for-fur, ar enau yr afon Aeron, ac y darparodd efe lwythfeydd, llwythbeiriannau, ac ystordai cyfaddas, gan fyned i chwe mil o bunnau o draul. Mae y morfur gorllewinol yn gan llath o hyd; a'r llall yn ddeg a phedwar ugain; y ddau wedi eu hadeiladu o feini: ond, oblegyd sefyllfa agored y lle, yr oeddynt yn annigonol i ddyogelu llestri rhag y gwyntoedd gogleddol, a gogledd orllewinol; am hyny barnwyd yn ddoeth estyn y morfur gorllewinol tua chan llath yn mhellach.

Bernir fod y Mynachdy, preswylfa y Milwriad Gwynne yn y gymmydogaeth yma, wedi bod yn hen sefydliad eglwysig yn amser rhwysg Pabyddiaeth; ond, ni ellais gael dim o'i hanes. Yn agos iddo y mae tomenydd, a elwir "Yr Hen Gastell; ond ni's gwyddys gan bwy, neu pa bryd ei hadeiladwyd: efallai ei fod yn un o'r hen amddiffynfeydd Prydeinaidd, cyn y cyfnod Rhufeinaidd. Yn agos i'r dref, ar lan y mor, y mae amddiffynfa fechan, a elwir "Castell Cadwyan; yr hon, fel y bernir, a adeiladwyd