Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adwyd gan Cadwgan ab Bleddyn, tu a'r flwyddyn 1148; a chredir fod yr amddiffynfa hon yn cael ei defnyddio gan y Normaniaid, er amddiffyn eu glaniad, neu eu henciliad, pan yn amser William Rufus, y cyfeirient eu llynges tu a'r parth hwn, er ymosod ar ororau Ceredigion, yr hon a anrheithiasant yn dost.

Y mae dau Addoldy ymneillduol helaeth yn y dref fechun bon; y Tabernacl, yr hwn a berthyna i'r Trefnyddion Calfinaidd, a gyfodwyd gyntaf yn y flwyddyn 1809; a'r addoldy arall, Peniel, yr hwn a berthyna i'r Annibynwyr, a gyfodwyd gyntaf yn y flwyddyn 1832. Heblaw hyny, y mae yma Ysgol Frutanaidd, yr hon a gynhelir yn gyfangwbl gan yr Ymneillduwyr, ac yn yr hon y mac oddeutu 60 o blant tlodion yn cael addysg rad,

ABERAFON, neu ABERAFAN, porthladd bychan, bwrdeis-dref, a phlwyf, yn Nghantref NEDD, SWYDD FORGANWG, ar y ffordd o Abertawe i Gaerdydd; 5¼ milidir i'r De Ddwyrain o Gastell Nedd, a 196 milldir i'r Gorllewin o LUNDAIN. Mae y lle hwn wedi derbyn ei enw oddiwrth ei sefyllfa ar enau yr Afon, neu Afan[1] ac y mae yn ymddangos ei fod yn lle o henafiaeth nodedig, a bod amryw ragorfreintiau pwysig yn perthyn iddo gynt, y rhai ni's mwynheir, ac ni's cydnabyddir erbyn hyn. Yn rhaniad y wlad, yr hyn a gymmerodd le ar ei goresgyniad gan Fitz Hammon, yr anturiaethwr Normanaidd, gwnelai i fynu ran o'r tiriogaethau a ddyroddid gan y Cad-lywydd hwnw i Caradawg, fab Iestyn ab Gurgant, y Tywysog a ddiorseddasid, yr hwn yn y canlyniad a wnelai ei drigle yn Aberafan; a bernir mai efe a adeiladodd yr hen gastell, o seiliau yr hwn y gwelir olion yn y maes gerllaw y fynwent. Er nad oedd y castell hwn yn fawr, yr oedd wedi ei gyfleu yn dra manteisiol i amddiffyn yr Aber; ac yr ydoedd yn ddigon cryf i fod yn wrthddrych o gryn bwysigrwydd yn y rhyfeloedd mynych a ffynent yn y wlad y pryd hyny.

Dylynid Caradawg yn ei arglwyddiaeth gan ei fab Morgan, yr hwn yn marn amryw Haneswyr cyfrifol, sydd yn deilwng i'w olygu yn seilydd Abbatty tywysogaidd Margam, o'r hon y mae cryn lawer o olion yn aros eto.

Tua'r flwyddyn 1150, darfu i Madog ab Meredydd, tywysog Powys, wneyd cad-gyrchiad i swydd Forganwg, gan flaenori byddin gref; ac efe a anrheithiodd diriogaethau Morgan ab Caradawg ab Iestyn, ac a gymmerth gastell Aberafon, gan ei ddryllio hyd lawr. Ar yr achlysur yma, gan fod Morgan yn analluog i wrthladd y fath gadernid ag a ddygid i'w erbyn, efe a ffodd, a'i ganlynwyr yr un ffunud, i'r Eglwysydd a'r Mynachilogydd am nodded, ar y cyntaf: ac yna, efe a'i rhoddes ei hun a'i wŷr, dan nawdd a diffyniad William, Iarll Caerloyw, ac Arglwydd Morganwg.

Yn y flwyddyn 1349, yr oedd Thomas, fab Syr John de Afon wedi dyfod i feddiant o arglwyddiaeth Aberafon; ac efe a ganiattaodd freinlen i Abbatty Margam, yn yr hon y cadarnheid yr holl roddion a'r rhagorfreintiau a ganiattasid iddi o'r blaen, ac y caniatteid i drigolion y fwrdeisdref hawl a rhyddid i ymarfer yr holl ragorfreintiau a ganiattasid iddynt i'w mwynhau, gan eu cymmwynaswyr tywysogaidd, mewn oesoedd blaenorol.

Yn ystod llywodraethiad Cromwell, deallai Maer y dref fod swyddogion yr Arglwydd Ddiffynydd, fel ei gelwid, yn nesau tua'r dref; ac er mwyn diogelu y Freinlen, ac ysgrifeniadau pwysig eraill a berthynent i'r fwrdeisiaeth, efe a'u cuddiodd mewn dernyn garw o dderw, yn yr hwn y cafnasai geoedd i'w derbyn; a phan ddaeth y swyddogion i fewn i'w dŷ, hwy a'i cawaant ef yn cymmynu coed ar y pren crybwylledig, fel pe na buasai yn ddim amgen na phloceyn cyffredin. Trwy y ddichell yma, cadwyd y papurau gwerthfawr yn ddiogel: ac y mae yr hen diernyn derw, a nodau y fwyall yn weledig arno hyd y dyddiau hyn, yn cael ei gadw gyda gofal mawr, fel cist gorphoriaethol bwrdeisiaid Aberafon.

Mae y dref hon yn gorwedd yn lled agos i lan ddwyreiniol crigyll Abertawe, wrth odreu rhes o fryniau uchel; gan y rhai ei cysgodir yn effeithiol rhag yr oerwynt gogleddol; ond, trwy ei bod mor gyfagos i'r morfa, y mae yn ddarostyngedig i awyr laith, a niwl oer yn aml, yr hyn a achosa i'r cryd, ac anhwylderau eraill, ffynu yn dra chyffredin yn mysg y trigolion. Y mae tiroedd isel y gymmydogaeth yn cael eu gorlifo yn aml hefyd, gan gyfodiad dyfroedd yr Afon, yr hon sydd yn gorwedd ar y tu dwyreiniol i'r dref. Ar y 25ain o Orphenaf, 1768, bu gorlifiad tra dinystriol, pan y llifeiriai y dwfr i'r Llan, neu yr Eglwys, ac i bob ty yn y dref; gan gyfodi mewn amryw fanau, cyfuwch a phump neu chwe throedfedd, er perygl mawr i fywydau y trigolion. Llwyr anrheithid meusydd cyfain o ŷd, oedd ar lennydd yr Afon. Ysgubai y llifeiriant bont Aberafon, a phontydd eraill, o'i flaen; gan gludo swm dirfawr o wair, coed, a defnyddiau ysgeifn eraill yn ei gol i'r cefnfor; ac erbyn i'r llifeiriant gilio, yr oedd y dref a'i hamgylchoedd wedi eu gorchuddio gan dom a llaid, yr hyn a ddystrywiai yr holl ddefnydd ymborth yn y lle, fel y bu yn gyfyng iawn y tymhor canlynol, ar lawer o'r trigolion tlottaf; a diau y buasai amryw o honynt yn trengu gan newyn, oni buasai haelioni digyffelyb a thra chanmoladwy Thomas Mansel Talbot, Ysw.

Wedi hyny, adeiladwyd pont hardd, o un bwa maen, dros yr Afon, gan y pont Adeiladydd enwog, William Edwards o Eglwys llan, yn swydd Forganwg. Y mae y lle hwn, a'r Cwm a ymestyna oddiwrth y dref rhwng y mynyddoedd, yr hwn a elwir Cwmn Afon, yn dra phoblogaidd, yn gymmaint o bod yma weithfeydd glo a haiarn, yn y rhai y mae miloedd o ddynion yn cael gwaith. Y mae yma Eglwys led newydd, yn yr hon y gallai uwchlaw dau cant ymgynnull i addoli yn gysurus. Cyllid y Ficer, yn ol Adroddiad y Dirprwywyr yn 1836, ocd £184. Heblaw hyny, y mae gan y Bedyddwyr Addolfa yma a gyfodwyd yn 1827: ac y mae ga yr Annibynwyr ddau Addolfa yn y plwyf, sef Moriah, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1844; a'r Tabernacl, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1828: y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd, ddau addolfa yn y plwyf, sef Carmel, yr hwn a gyfodwyd gyntaf yn y flwyddyn 1808, ac Ysgoldy Cwm Afon, a gyfodwyd yn y fiwyddyn 1841: ac y mae gan y Trefnyddion Wesleyaidd addolfa hardd, a chyfleus, a gyfodwyd yn y flwyddyn 1847.

Y nifer dan addysg yn yr Ysgolion Sabbathawl yn y plwyf hwn yn y flwyddyn 1847, pan wnaeth Dirprwywyr Addysg eu Hadroddiad, oedd;—mewn

  1. Dywed rhai mai Afan oedd yr hen enw o A, a ban, am ei bod yn gylchynedig gan fynyddoodd uchel, a bod yr afon a aber ynddi, yn tarddu o un o'r mynyddoedd hyny, am hyny ei gelwir Abar-afan.