Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daioni i eneidiau dynion; ac, fel y caffai ei ymarfer ei hun i bregethu ar y dechreu, mewn lle gwledig ac anmhoblogaidd: ond, yr oedd efe yn feddiannol ar ddoniau rhŷ ysplenydd i'w gwastraffu yn hir ar wladwyr di ddysg Fakenham, a buan ei galwyd i bregethu o flaen dysgedigion y brif ysgol, yn St. Mary, Caergrawnt; a dywedir iddo draddodi pregeth yno, yn y flwyddyn 1610, oddiar Luc xvi. 22, "A bu i'r cardotyn farw, a'i ddwyn gan angelion i fynwes Araham," yn yr hon y traethai am anfarwoldeb yr enaid, dedwyddwch presenol y rhai ydynt yn marw yn ffafr Duw, eu derbyniad i'r nefoedd, gweinidogaeth angelion, &c., gyd a'r fath oleuni a nerth, nes peri i'r gynnulleidfa ddysgedig hono, synu yn aruthrol, nid yn unig at ei ddysgeidiaeth ddofn, a'i grebwyll goethedig; ond yn neillduol, at ei gymhwysderau dihafal, o ran pereidd-dra llais, cymhwysder gosgedd, a bywiogrwydd tymer ac agwedd, i fod yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd.

Yn mhen tuag wyth mis ar ol hyn, efe a alwyd i bregethu o flaen y Brenin Iago, a'r Tywysog Henry, yn Royston; a rhyngodd bodd i'w fawrhydi ddatgan iddo gael ei foddhau yn fawr wrth ei wrando; a'r tywysog a dystiai am dano, ei fod yn anrhydedd i genedl y Cymry; ac addawai ofalu am iddo gael ei wobrwyo yn deilwng o'i dalentau ysplenydd; a'r addewid hon a wiriwyd iddo yn fuan.

Dygid ei alluoedd rhagorol i sylw yr Arglwydd Ganghellwr Egerton tua'r pryd hwn; a'r pendefig hwnw, yr hwn oedd yn hynod am ei noddaeth i Ddwyfyddion galluog, a anfonodd am dano, ac a'i pennododd yn Gapelwr iddo ei hun; ond efe a daer ddymunai am ganiattâd ei arglwyddiaeth i aros un flwyddyn yn hwy yn Nghaergrawnt, gan ei fod i ddechreu gweini ei swydd fel cynfaer (provost), y Coleg am flwyddyn, o'r Gwyl Mihangel dyfodol, a'i fod yn ystyried rhwymedigaethau y swydd yn rhy ddifrifol i'w gweinyddu trwy ebrwyad; a'r hyn y cydsyniodd ei arglwyddiaeth, wedi peth ymresymu.

Efe a weinyddodd ei swydd bwysig yn y Coleg, y flwyddyn hono gyda gonestrwydd neillduol; a'i ymddygiadau llednais a doeth ar ymweliad y Duc o Wittemberg â'r brif ysgol, yn gystal ag ar etholiad Canghellydd newydd i'r Athrofa, a chwanegodd yn fawr at ei anrhydedd: ac ar derfyn ei flwyddyn swyddol, efe a aeth, yn ol ei ymrwymiad, i gartrefu yn llys a gwasanaeth yr Arglwydd Ganghellydd Egerton, yr hwn a ganfu yn fuan y gallai efe ymddiried yr holl drafodaeth eglwysig, a berthynai i'w swydd bwysig, dan ddwylaw ei Gapelwr ieuanc; a thrwy hyny daeth cyfran helaeth o noddaeth eglwysig i'w law ef yn mhell cyn ei ddyrchafu i'r orsedd esgobawl. Gwelodd yr Arglwydd Ganghellwr yn fuan fod ein cydwladwr ieuanc yn meddu cymhwysderau neillduol i farnu amgylchiadau dyrus, a gyfodent yn fynych mewn cyssylltiad a'r ddwy brif ysgol, yn enwedig Rhydychain; ac mor drwyadl yr ymddiriedai ei arglwyddiaeth drefniad y materion hyn iddo, fel yr arferai Dr. King, esgob Llundain, alw WILLIAMS mewn digrifwch yn "Ganghellydd Rhydychain." A chan fod ei arglwyddiaeth yn gweled ei fod yn meddu cymaint o wybodaeth gyfreithiol yn barod, efe a ddefnyddiodd bob cyfle i'w hyfforddi yn mhellach mewn materion cyfreithiol, fel y cynnyddai gyda chyflymder dirfawr yn y gangen yma o wybodaeth; ac wedi ei chyrhaedd, efe a wnaeth ddefnydd da o honi er cynnorthwyo rhai gorthrymedig: canys byddai lluaws o lenorion, pan mewn penbleth gyfreithiol, yn achos eu bywiolaethau, eu cyllid, &c., yn arfer dyfod i ymgynghori âg ef, i'r rhai y dangosai efe yn mha le y byddai gwendid eu hachos, a pha fodd y byddent yn fwyaf tebyg i gael unioni eu cam; ie, amryw o'r esgobion, mewn amgylchiadau dyrus, a osodent eu hachosion ger ei fron, er cael ei farn a'i gyngor; ac yn dra anfynych y byddai y sawl a ymgynghorent âg ef yn aflwyddiannus. Llwyddodd hefyd trwy ei ddylanwad gyd a'r Arglwydd Ganghellwr, i gael amryw fywioliaethau gwerthfawr a ddisgynent i ddwylaw ei arglwyddiaeth, i Ysgolorion angenog, ond gwir deilwng; y rhai a fuasent wedi cael eu dyrchafu yn gynt, pe buasai ganddynt ryw gyfaill dylanwadol i gymeryd eu hachos i fynu; ac yn y canlyniad, efe a gyfrifid yn brif noddwr y cyfryw Ysgolorion tlodion. Ond, ni bu ef mor ffol a gofalu am ranau da i eraill, a bod yn ddiddarbod drosto ei hun: canys yn ystod y pum mlynedd y bu efe yn ngwasanaeth yr Arglwydd Ganghellydd, efe a gafodd amryw fywioliaethau ei hunan, o elw ac anrhydedd, megys personoliaeth plwyf Walgrave yn swydd Northampton; personoliaeth Grafton Underwood yn yr un sir;—Cor-berigloriaeth yn eglwys gadeiriol Lincoln, a Chantoraeth yn yr un eglwys: yn nghyda Chor-berigloriaethau eraill yn eglwysi cadeiriol Peterborough, Henffordd, a Thy Ddewi, heblaw rhyw fywioliaeth ddiwaith o gryn elw, yn rhywle yn Nghymru.

Yn mis Hydref, 1616, cymerid yr Arglwydd Ganghellydd yn glâf, a gwelid yn amlwg fod henaint, a phwysau llafur yn ei dori yn brysur; ac er sirioli ei ysbryd, pan wnelid y tywysog ieuanc, gyda llawer o rwysg, yn Dywysog Cymru, yn Nhachwedd y flwyddyn hono, dyrchafwyd ei arglwyddiaeth i fod yn Is Iarll Brackley, ar y 7fed o'r mis hwnw: ond parhau i wanhau yr oedd yr hen bendefig anrhydeddus er pob peth; fel nad oedd ganddo nemawr o flas yn ymddiddan â neb ond â'i Gapelwr; a'r holl drafodaeth fawr a ddygid yn mlaen rhwng ei arglwyddiaeth, fel Arglwydd Ganghellydd â'r Brenin, a weinyddid yn bresenol trwy offerynoliaeth MR. WILLIAMS; ac ar yr achlysuron hyny, gwelai ei Fawrhydi yn amlwg, fod ei arglwyddiaeth yn dysgyblu ei Gapelwr yn effeithiol, i fod yn Wladweinydd galluog a gwerthfawr, drwy ymddiried iddo gyfrinachau penaf y Deyrnas; a'i ymddygiad llednais a synhwyrol yntau ar bob achlysur, a barai i'r Brenin goledd syniadau uwch fyth am ei ragoriaethau: ac y mae yn ddïau i hyn rwyddhau llawer ar ei ffordd i'r sefyllfa uchel a gafodd efe yn mhen ychydig flyneddoedd yn y llys.

Bu farw yr Arglwydd Ganghellydd ar y 15fed o'r mis Mawrth canlynol; ac ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, efe a anfonodd am ei Gapelwr atto, ac a ddywedodd wrtho—"Od oes arnoch eisiau arian, myfi a adawaf i chwi gyfryw gymmun-rodd yn fy ewyllys ar a'ch galluoga i ddechreu eich byd fel gwr bonheddig." I'r hyn yr attebai MR. WILLIAMS yn wŷlaidd "Fy arglwydd, gwnaethoch fy phiol i yn llawn eisoes, fel yr ydwyf yn mhell o fod mewn eisiau dim oddieithr eich cyfarwyddyd am y modd goreu i fyned trwy y byd yma, os bydd i mi eich gorfucheddu." "Myfi a wn," medd ei arglwyddiaeth, "eich bod chwi yn weithiwr medrus; cymerwch yr arfau yna i weithio â hwy: dyna y rhai goreu sydd genyf fi." Felly ei arglwyddiaeth a roddes iddo amryw lyfrau, a phapurau a ysgrifenasai â'i law ei hunan, tra yn gweini swyddau uchel yn y wladwr