Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf II.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GEIRIADUR CENEDLAETHOL

CYMRU:

HANESYDDOL, PARTHEDEGOL, A BYWGRAPHYDDOL.

LACHARN (LAUGHARNE), sydd blwyf, bwrdeisdref henafol, tref farchnadol, ac arforol, yn nghantref DERLLYS, sir GAERFYRDDIN, DEHEUDIR CYMRU, o fewn esgobaeth Ty Ddewi. Hen enw Cymreig y lle, oedd Aber Coran, a gelwid y lle wedi hynny, Tal Llacharn; ac oddi ar amser y maeslywydd W. Laughame, gelwir y lle wrth ei enw ef gan y Saeson, a Lacharn yn Gymraeg.

Saif y dref ar lan orllewinol afon Taf, yn agos i'r fan yr abera hono yn Bay Caerfyrddin. Yn fuan ar ol ymsefydliad y Normaniaid a'r Flemings yn Neheudir Cymro, cymmerasant feddiant o'r parth hwn o'r wlad; ac mor fore a'r flwyddyn 1100, codwyd yma gastell cadarn, ar fin y mor, yn ddyogelfa i'r estroniaid.

Yn y flwyddyn 1215, ymosododd y Tywysog Llewelyn ab Iorwerth ar y castell, a bu mor llwyddiannus a'i ddinystrio i raddau pell, a llwyr orchfygu yr amddiffynwyr. Yn fuan ar ol ei ddinystriad y pryd hwnw, ail adeiladwyd ef, yn nheyrnasiad Harri III., gan Syr Guido de Brian, yr hwn oedd gyfoethog ac urddasol iawn yn mhlith y Normaniaid.

Bu Castell Lacharn yn le o gryn bwys yn amser y Rhyfel Cartrefol, rhwng pleidwyr Charles I, a phleidwyr Oliver Cromwell. Yn 1644, cymmerwyd meddiant o'r Castell gan y maeslywydd Wm. Laugharne; a dywedir i fyddin Cromwell warchae arno am dair wythnos yn aflwyddiannus; ond iddynt ei ddinystrio yn y diwedd. Preswylir rhanau helaeth o'r Castell hwn yn bresenol: ac y mae y gerddi paradwysaidd sydd o'i gylch, yn cynnwys pob math o ffrwythau a blodau a werthfawrogir gan arddwyr. Mae ffigysbren yn tyfu ger un o'r pyrth, yr hwn sydd yn destun syndod i bawb a'i gwelant, o herwydd ei faint, a'i brydferthwch.

Mae yr hen eglwys yn un eang a phrydferth iawn, ac yn cael ei chadw yn lân a chysegredig. Yn misoedd yr haf, y mae llawer o ymwelwyr a glanau y môr yn ardal Llanstyffan, yn talu ymweliad â Lacharn, er mwyn gweled mantell Guido de Brian, yr hon a gedwir yn barchus yn yr Eglwys, trwy yr oesau. Mantell o borphor ac aur wedi eu cyd-wau ydyw, o wneuthuriad ardderchog: ac er ei bod dros chwechant o flwyddi o oedran, y mae mewn cadwraeth weddol yn barhaua. Bu yr ysgrifenydd yn ei gwisgo unwaith o gywreinrwydd. Rhoddodd perchenog cyntaf y fantell hon, Lawer o gyfoeth tirol i'r gorpholaeth, yr hyn eydd wedi bod yn elw i'r dref trwy yr oesoedd.

Mae yr eglwys wedi chyssegru i Sant Martin, a'r fywoliaeth eglwysig sydd ficeriaeth, wedi bod am oesau yn rhodd deon a glwysgor Winchester. Yn ol hen freinlen y dref, y mae i gael ei llywodraethu gan Bortref, cofnodydd, henadur, dau gyfreithiwr, pedwar cwnstabl, a 76 o fwrdeisiaid. Cynnelir y marchnadoedd bob dydd Gwener, y rhai a ddiwellir yn dda, ac yn hynod rad. Cynnelir ffair yn y dref, Mai 6, a Thach. 11.

Mae Traeth Lacharn yn enwog iawn am ci gyflawnder o gregyn prydferth ac amrywiog, y rhai a gesglir, ac a brisir yn uchel gan ymwelwyr.

Er nad yw y dref ond bechan o ran maint, etto parhaodd am oesoedd fel dwy dref, am y preswylid un hanner iddi gan y Flemings, a'r hanner arall gan y Cymry.

Mae yn ddiarebol trwy y blyneddau am ei rhadlonwydd, yr hyn sydd yn peri iddi gael ei phreswylio gan mwyaf, gan ddynion wedi ymneillduo oddi wrth fasnach, gyda swyddogion gwobr-daledig (Pensinoners), &e., ac heb fod eu derbyniadau yn fawrion. Yn y dref hon y ganwyd Dr. Josiah Tucker, Deon Caerloyw, yr hwn a fu farw yn 1799, yn 87 mlwydd oed (gwel TUCKER). Maint y plwyf yw 6000 erw; yr hwn a amaethir yn dda. Y mae yn y plwyf hwn addoldai perthynol i'r Bedyddwyr, yr Annibynwyr, y Trefnyddion Calfinaidd, a'r Trefnyddion Wesleyaidd. Y mae teulu Laugharne, wedi ymsefydlu yn foreu iawn yn y plwyf hwn, sef er pan briododd Owen Laugharne â merch Syr Guido de Brian, Arglwydd Uchel Lyngesydd Lloegr. O'r teulu hwn, mae yn debyg, yr hanoddy Maeslywydd Laugharne, yr hwn yn gyntaf a ymenwogodd fel swyddog yn myddin y Senedd; ond wedi hyny a drodd o blaid y Brenin, ac o'r diwedd, a orchfygwyd, ac a gymerwyd yn garcharor yn nghastell Penfro.

Gadawodd un Elizabeth Foster, gymmunrodd o 150p. at addysgu plant tlodion y plwyf hwn: a Mary Griffiths, a Jane Morgan, a roddasant 52p. bob un at yr un amcan. Miss Theodosia Laugharne, chwaer yr Islyngesydd Laugharne, a gymmunroddodd 1800p. yn y three per cent., oddiwrth log y rhai yr oedd 30p. yn y flwyddyn i'w talu yn gyflog i Organydd; blwydd-dal o 20p yn y flwyddyn i'w llawforwyn dros ei