hoes; ac i fyned wedi hyny at gynnal ysgol yn mhlwyf Llangnnawg; a'r gweddill i'w rhanu yn elusen i dlodion y plwyf hwn. Zachariah Thomas a gymmun-roddodd 4p. yn y flwyddyn, o ardreth tyddyn o'r enw Norwaddin, yn y plwyf hwn, at gynnorthwyo y tlodion; a Mrs. Letitia Cornwallis a gymmun-roddodd gan punt i'r un perwyl.
LAFAN (Traeth y), y traeth a adawir yn sych ar y trai, rhwng Aber a Beaumaris, yr hwn sydd tua 4 milldir o led. Meddylir mai llygriad yw yr enw o "Traeth y wylofain." Gwel yn erthygl ar Dwygyfylchi.
LAFAR (Is), adran o blwyf Llansantffraid Glyn
Ceiriog, Cantref y Waun, Swydd Dinbach; 4½ milldir i'r Dehau o Langollen; a elwir felly am fod ei
sefyllfa yn y rhan isaf o Lyn Ceiriog.
LAFAR (Uwch), adran yn mhlwyf Llansantffraid Glyn Ceiriog, Cantref y Waun, Swydd Dinbach; 3 milldir i'r De Dde Orllewin o LangoIIen.
LALESTON—Trelalys, neu Llangewydd, sydd
blwyf yn nghantref, undeb, a dosparth llys sirol
Penybont, archddeoniaeth, ac esgobaeth Llandaf, a
deoniaeth Gro Nedd Uchaf, yn swydd FORGANWG,
DEHEUDIR CYMRU. Saif y pentref a'r Llan, yn ymyl
y brif ffordd rhwng Aberafan a Phenybont, tua 4½
milldir o'r blaenaf, a dwy o'r olaf. Perchenogion y
plwyf ydynt C. R. M. Talbot, Ysw.; A.S. a Iarll
Dunraven. Enw cyntefig y plwyf, oedd Llangewydd;
a sylfaenwyd y Llan hono gan Caw, arglwydd Cwm
Cowlyd. Yr oedd yr hen eglwys hono tua milldir
i'r gogledd o'r fan y saif yr eglwys bresenol. Cafodd
yr Eglwys a'r pentref yr enw presenol oddi wrth
Lales, adeiladydd Mynachlog Nedd, ac Abbatty
Margam; yr hwn ar ol adeiladu y crefydd-dai hyn,
a gafodd diroedd yn y plwyf hwn, gan Robert Iarll
Caerloyw; ac wedi iddo adeiladu preswylfa iddo ei
hun yn y fan y saif y pentref yn awr, tynodd yr hen
Eglwys i lawr, a symmudodd y defnyddiau, i adeiladu yr Eglwys bresenol: a galwodd y lle ar ei enw
ei hun—Tre Lales. Saif yr Eglwys yn nghanol y
pentref, ac iddi gorph, canghell, a thwr, ac ynddo
bedair cloch. Dyddiad y clychau yw 1647. Ficeriaeth yw y fywioliaeth eglwysig, yn unol ag eiddo
Castell Newydd, Penybont, Bettws, a Llandudwg;
yn nawddogaeth yr arglwydd Gangellydd, yn werth
250p. y flwyddyn. Yn 1830, adeiladodd y Trefnyddion Calfinaidd gapel bychan yma, yr hwn a ail adeiladwyd yn 1852: ac y mae capel gan y Bedyddwyr
yn y lle, er y flwyddyn 1848.
LAMBSTON, plwyf yn Nghantref RHOS, SWYDD BENFRO; 3 milldir i'r Gorllewin wrth Ogledd o orsaf rheilffordd Hwlffordd. Y mae y plwyf hwn, yr hwn sydd yn gorwedd yn y parth Gorllewinol o'r Sir, yn cynwys 1761 erw o dir; a chyfrifir ei werth ardrethol yn 1321p. Poblogaeth y plwyf yn 1861, oedd 216. Y fywioliaeth eglwysig sydd ficeriaeth, yn esgobaeth Tyddewi; gwerth 16 4p. yn nawddogaeth Coleg Penfro, Rhydychain.
LAMFA, neu Llamfa, treflan yn mhlwyf Llansantffraid Fwyaf, Cantref OGMORE, swydd Forganwg ;
ar yr afon Ewenni; 2 filldir i'r De Dde Ddwyrain
o Ben y bont. Poblogaeth, 135. Tai annedd, 27.
LAMPHEY, neu Lanffydd, plwyf yn Nghantref CASTELL MARTIN.Swydd Benfro; 2 filldir i'rDwyrain Dde Ddwyrain o dref Penfro; gerllaw rheilffordd Penfro, a Dinbych y Pysg. Cynnwysa 1976 erw o dir; a chyfrifir ei werth ardrethol yn 1248p. Poblogaeth yn 1861, 865. Tai, 67. Yr oedd y lle hwn, yr hwn sydd wedi cael yr enw oddiwrth yr amgylchiad o gyssegriad ei eglwys i St. Ffydd, yn mysg y llannerchau cyntaf a feddiannwyd gan y Normaniaid. Dywaid Buck, medd Grose, ei bod yn ben un o arglwyddiaethau y Cyffin-diroedd; ac mewn adeg foreuol, cynnwysai un o anneddau tywysogaidd esgobion Ty Ddewi, o'r hwn y mae cryn weddillion yn aros. Nid ydys yn sicr pa bryd y daeth y lle yn feddiant eglwys archesgobol Ty Ddewi yn gyntaf, a'r eglwys esgobol wedi hyny; ond y mae gweithred, wedi ei dyddio yn Lamphey, yn nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, gan yr esgob Carew, ar gael eto; ac yn ol Giraldus Cambrensis, ymddengys ei bod yn drigfa esgobol yn amser Arnulph de Montgomery, yr hwn a gymerodd feddiant o'r rhan yma o'r dywysogaeth, yn amser teyrnasiad Harri I. O leiaf, cafodd rhan fawr o'r llys esgobol, (yr oll o bono yn ol rhai Haneswyr), ei adeiladu gan yr esgob Gower, yn y flwyddyn 1335; ond, y mae yr amryfal arddulliau adeiladaeth a ganfyddir yn yr adfeilion, yn dangos yn amlwg ei fod yn waith cyfnodau olynol, ac na's cyrhaeddodd yr ysblander, am yr hyn y bu mor nodedig, ond trwy ychwanegiadau a gwelLlannau ei berchenogion olynol; ac y mae yn dra thebyg, mai yr esgob Gower a adeiladodd y neuadd fawr, a'r twr petrual, yr hwn oedd mor hardd-wych. Trosglwyddwyd y rhan yma o feddiannau esgobaeth Ty Ddewi i'r goron, gan yr esgob Barlow, yn nheyrnasiad Harri VIII.,gan yr hwn y rhoddwyd Lamphey, i Devereux, Is-iarll Henffordd, tad yr anffodus Iarll Essex, yr hwn a dreuliodd lawer o flyneddoedd ei ieuenetyd yn y palas hwn. Gwedi cwymp Iarll Essex, yn nheyrnasiad Elisabeth, prynwyd yr ettifeddiaeth hon gan Syr Hugh Owen o Orielton; ac un o hiliogaeth y gwr hwnw, y diweddar Syr John Owen, Barwnig, a'i gwerthodd i Charles Mathias, Ysw., yr hwn a adeiladodd y palas newydd hardd, a elwir Lamphey Court, ag iddo bendist ardderchog, o bedair colofn Ionaidd, ac o fewn ei ardd, yn ngwaelod dyffryn cysgodol, y mae adfeilion yr hen lys esgobol Y mae amryw balasdai heirdd eraill, yn cael eu cyfanneddu gan deuluoedd cyfoethog, yn y plwyf. Y fywioliaeth eglwysig sydd ficeriaeth, yn esgobaeth Ty Ddewi, gwerth 97p.; ac yn nawddogaeth esgob Ty Ddewi.
LANDORE; neu, yn hytraeh Landwr, pentref
yn mharth Gorllewinol swydd Forganwg; ar yr
afon Tawe, a rheilffordd Deheudir Cymru; milldir
a haner i'r Gogledd wrth Ddwyrain o Abertawe. Y
mae yma orsaf ar y rheilffordd, a Llythyrfa dan
Abertawe. Y mae y rheilffordd yn croesi y Tawe
yma ar fforddbont goed, 1797 o droedfeddi o hyd, a
37 o dranialau.
LANTWIT juxta Neath, neu Llanilltyd
Isaf, plwyf yn cynnwys trefgorddau Clyne, Llanilltyd, a Bewlrend, yn nghantref Nedd, awydd
Forganwg; ar lan yr afon Nedd, a cherllaw rheilffordd Deheubarth Cymru; milldir i'r Dwyraìn wrth
Ogledd o Gastell Nedd, Mesura 10,990 o erwau o
dir, a chyfrifir ei werth ardrethol yn 8311p.; o ba
rai y mae 2549p. mewn mwngloddiau; 100p. mewn
cloddfeydd; a 12p. yn y ddyfr-ffos. Poblogaeth yn
1851, 1992; yn 1861, 2232. Tai annedd, 426. Y
mae y rhan fwyaf o'r trigolion ar waith yn y glofeydd, ac yn masnach Castell nedd. Y fywioliaeth
eglwysig sydd yn is-berigloriaeth wastadol, mewn
cyssylltiad â pherigloriaeth Castell nedd, yn esgobaeth Llandaf. Y mae yr eglwys yn henafol, gerllaw