Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf II.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i derfyn sir Amwythig. Llythyrfa, y Trallwm. Erwau, 1870. Gwerth ardrethol, 4199p. Poblogaeth yn 1851, 297; yn 1861, 431. Tai, 83. Yr achos o gynnydd y boblogaeth, oedd presenoldeb nifer o weithwyr dros amser, ar ettifeddiaeth boneddwr yn y gymmydogaeth. Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth barhaol, mewn cyssylltiad a Ficeriaeth Trelystan, neu Wolston Mynd, yn esgobaeth Henffordd.

LETTERSTON, neu Lettardston, plwyf yn nghantref TIR DEWI (Dewi's Land), Swydd Benfro, ar gangen o'r afon Cleddau; 7 milldir i'r Gogledd Orllewin wrth Ogledd o orsaf Clarberstone Road; a 9 milldir i'r Gogledd wrth Orllewin o dref Hwlffordd; ac yn meddu Llythyrfa dan Hwlffordd. Y mae y plwyf yn cynnwys 2216 o erwau o dir; a chyfrifir ei werth ardrethol yn 1440p. Poblogaeth, 511. Tai annedd, 120, Y mae y plwyf hwn wedi cael ei enw oddi wrth hen deulu y Lettards, i'r rhai y perthynai yn yr amser gynt, a'r rhai a roddasant nawddogaeth y fywioliaeth, yn nghyda Chapel Llanfair, i addysgdy Marchogion St. Ioan o Jerusalem, yr hwn a sefydlasid yn Slebech, yn y Sir hon. Y mae y plwyf yn gorwedd mewn llannerch hyfryd, yn y rhan ogledd orllewinol o'r wlad; ac fe'i trawair gan y brifffordd o Hwlffordd i Abergwaun. Y mae y fywioliaeth Eglwysig yn berigloriaeth, unedig ag is-berigloriaeth wastadol Llanfair Nant y Gof, yn esgobaeth Ty Ddewi. Gwerth, 387p. Noddwr, yr Arglwydd Ganghellydd. Y mae yr eglwys yn gyssegredig i goffadwriaeth St. Giles.


LEWIS AB EDNYFED, bardd oedd yn ei flodau, rhwng 1540, a 1570.


LEWIS ab Edward, bardd a flodeuai rhwng 1600, a 1630. Y mae amryw o'i Gyfansoddiadau ar gael mewn hen ysgrif-lyfrau.


LEWIS AB HYWEL., bardd a flodeuai rhwng 1560, a 1600. Y mae rhai o'i Gyfansoddiadau yntau ar gael mewn ysgrifen. LEWIS AB IFAN AB SIANCYN, difeinydd a bardd o Fôn, yr hwn a flodeuai tua 1570, i 1600.

LEWIS, DAVID, D.C.L., a gymerodd ei raddau yn ngholeg yr Holl Saint, Rhydychain. Bu wedi hyny yn bennaeth Coleg yr Iesu, yn famwr yr Uchel Lyngeslys, yn Arlywydd Ysbytty St. Catharine, gerllaw tŵr Llundain, ac yn un o feistri y Cangell-lys, a Deisyf-lys ei Mawrhydi. Efe a fu farw Ebrill 27, 1584, yn y Rheith-goleg (Doctors Commons,), a chludwyd ei gorph i'r Fenni, lle ei claddwyd ar y 24 o'r mis Mai canlynol, yn nghangell ogleddol yr eglwys yno, o fewn cyntedd bychan a elwir Capel Lewis, lle y mae cofadail hynod, wedi ei ffurfio o un maen, yr hwn a barottoisai y Dr. Lewis yn ei fywyd.

LEWIS, Georoe, D.D., Llanuwchllyn, ydoedd weinidog enwog gyda'r Annibynwyr, ac un o brif ddynion ei oes. Ganwyd ef mewn tyddyn a elwid Y Coed, ger tref Caerfyrddin, yn 1763. Yr oedd ei fam yn ddynes pur grefyddol, ac yn aelod o'r Eglwys Sefydledig, yn egwyddorion pa un y gwnaeth ei goreu i ddwyn ei mab i fyny. Cafodd addysg elfenol dda o'i ieuenctyd, a gellir dyweyd ei fod er yn fachgen yn gwybod yr Ysgrythyr Lan. Pan oedd tuag 16eg oed, daeth pregethwr poblogaidd perthynol i'r Annibynwyr trwy y wlad, gan dynu tyrfaoedd ar ei ol; aeth yntau yn mhlith y lluaws i'w wrandaw i gapel Trelech, a ba y bregeth yn argyhoeddiadol iddo. Wedi boddloni ei hun wrth ddarllen y Testament Newydd, a Holwyddoreg yr Ymneillduwyr, am ysgrythyroldeb y drefn eglwysig Annibynol, efe a ymunodd ar eglwys yn nghapel y Graig, yr hon oedd ar y pryd o dan weinidogaeth Owen Davies. Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1780. Dechreuodd bregethu yn fuan, ac i'r dyben o'i gymwyso i fyned i'r athrofa, aeth i Thilic o dan addysg yr ysgolfeistr enwog, Davies Castell Howel, lle yr arosodd am tua blwyddyn a haner, ac y daeth yn alluog i ddarllen y Roeg a'r Lladin. Yna aeth i athrofa Caerfyrddin, ond ni bu yno ond rhyw dair blynedd, gan i'r athrofa gael ei symud i Abertawe. Yr oedd ben eglwys Pencader wedi rhoi ei meddwl arno er ys talm, ac yn meddwl am ei gael yn weinidog ar ol iddo orphen ei athrofa, ac yr oedd yntau yn gogwyddo yn gryf at dderbyn ei galwad; ond. pa fodd bynag, ar gais yr "Hen Brophwyd o Bontypool" aeth ar daith i'r Gogledd, ac yn neillduol i Gaerynarfon, lle y rhoddwyd iddo alwad; yntau, gan ei fod wedi rhoddi ei feddwl ar Bencader, ac wedi addaw wrth y frawdoliaeth hono na dderbyniai efe un alwad nes y clywai oddiwrthynt, a betrusai am gyfnod ei derbyn. Ond wedi hir ddysgwyl yn ofer am glywed o Bencader, efe a dderbyniodd alwad Caerynarfon, ac urddwyd ef tua diwedd 1784. Ond gyda ei fod wedi cael ei urddo, dyma alwad Pencader i law, wedi bod haner blwyddyn ar ei thaith o'r naill fan i'r llall—yr Iwerddon, ac Ysgotland, a manau eraill. Ond yr oedd bellach yn rhy ddiweddar; yr oedd y coelbren wedi disgyn ar George Lewis i fyw a marw yn y Gogledd. Er nad oedd efe ar y pryd ond gwr ieuanc, a chanddo holl elyniaeth a rhagfarn y wlad at Ymneillduaeth i ymladd yn eu herbyn, eto efe a weithiodd ei ffordd yn rhagorol; adeiladodd gapel yn Nghaerynarfon, a sefydlodd achosion newyddion yn Bethel, Bethesda, Bangor, a'r cymydogaethau. Tra yn Nghaerynarfon, efe a briododd ag ail ferch Thomas Jones, Ysw., Bodermid, o'r hon y cafodd dri o blant—dau fab, ac un ferch. George, yr hynaf, oedd feddyg yn Ngwrecsam; a William yn feddyg cyfrifol yn Llundain; a Sarah yn briod ag Edward Jonea, M.A., athraw clasurol athrofa Aberhonddu.

Yn yr adeg hon yr oedd ymfudo mawr i America; a chan fod George Lewis yn weriniaethydd selog, ac yn dyoddef llawer yn barhaus o herwydd hyny, efe a benderfynodd i hwylio i wlad y rhyddid. Ond tra yr oedd yn parotoi i'r fordaith, daeth i feddwl yr haelfrydig Jones o Gaerlleon, i sefydlu chwech o ysgolion cylchdeithiol yn Ngogledd Cymru, a thrwy gyfarwyddyd Dr. Williams o Groesoswallt, wedi hyny o Rotherham, pennodwyd ar George Lewis i'w harolygu; ac felly fu. Barnai ef a'i gyfeillion bod cael gafael yn y fath gyfleustra rhagorol i lesoli ei gydwladwyr, yn ddigon o reswm dros iddo roddi i fyny ei fwriad o fyned i America, a phenderfynu aros gartref. Gwnaeth ei benderfyniad yn hysbys mewn cyfarfod mawr yn y Bala, Mai 1794, er llawenydd mawr i'r eglwysi. Yn fuan ar ol hyn, derbyniodd alwad hen eglwys Llanuwchllyn, a symudodd yno yn nghorph yr haf. Ba arddeliad neillduol ar ei lafur yn Llanuwchllyn; pan aeth ef yno, nid oedd nifer yr eglwys ond prin bedwar ugain, ond cyn pen deunaw mlynedd. yr oedd yn rhifo dros ddau cant a haner. Yr oedd ei barch a'i ddylanwad yn yr ardal, braidd yn annghredadwy, fel y dywedai Dr. Ellis Evans, Cefnmawr, yr hwn oedd frodor o'r lle, ac yn byw yno ar y pryd, bod yr Arglwydd wedi