Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf II.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eglwys yn sefyll ar lethr bryn, ar lan yr afon Menai, ac yn cynwys cofadail am y dywededig Barchedig Henry Rowlands, yr Henafieithydd enwog.

LLANEGRYN, sydd bentref a phlwyf yn nosparth Dolgellau, swydd Feirionydd. Y mae y pentref yn sefyll ar lan yr afon Dysynwy, 2½ milltir oddi wrth y traeth, 3½ gogledd wrth ddwyrain o orsaf rheilffordd Tywyn, a 12 de orllewin o Ddolgellau, gyda llythyrfa dan Fachynllaith, swydd Drefaldwyn, Y mae y plwyf yn cynnwys trefgorddau Peniarth, a Rhyd-y-rhiw, Erwau, 6819. Gwerth ardrethol, 2553p. Poblogaeth, 652. Tai,149, Y mae y tiroedd yn cael eu dosparthu rhwng ychydig nifer o feddianwyr. Peniarth ydyw palas W, W, E, Wynne, Ysw. Y mae yr arwynebedd yn fryniog, ac ymae rhaî lleoedd yma yn rhoddi golygfa darawiadol iawn ar Gadair Ìdris. Y mae llechi yn cael eu cloddio yma. Y mae y fywioliaeth yn ficeriaeth, yn esgobaeth Bangor; gwerth 82p., ac yn nawddogaeth E, Titley, Ysw, Y mae yr eglwys wedi ei chyflwyno i St. Egryn. Ymae yma gofadail i deulu yr Oweniaid o Beniarth Y mae yma waddolion at ysgol, ac elusenau. o 105p. Y mae gan yr Annibynwyr addoldy helaeth yn y lle hwn. Bernir fod Tal y Bont yn y plwyf hwn wedi bod yn hen annedd Tywysogion Gwynedd, yn gymmainta bod y Tywysog Llewelyn wedi dyddio un o'i Freinleni oddiyma. Y mae bryncyn celfyddydol mawr ar dyddyn perthynol i'r etifeddiaeth hon, ar yr hwn y dywaid llen gwerin fod gwyl-dŵr yn sefyll gynt; ac y mae gorsaf gyffelyb &r yr ochr arall î afon, yn mhlwyfy Towyn. Y mae ffynnon o ddwfr duraidd, (chalybeate) wrth droed bryn a elwir “Cwm. Ych;" a ffynnon aral, a elwir “Ffynnon y Fron," dwfr yr hon sydd mewn brî mawr, am ei etfeithiolrwydd i wellau y gymalwst.

LLANEGWAD, sydd blwyf yn nosparth Llandeilo-fawr, swydd GAERFYRDDIN; saif âr lan yr afon 'Towy, gerllaw ymnrllwysiad y Cothi, yn agos i orsaf rheilffordd Llanarthney, ar linell Llandeilo a Chaerfyrddin, 8 milltiri'r gogledd wrth dde o Landeilo-fawr. Y mae yn cynnwys is-bentrefi Egwad, Heruin, Llechfraith, Llechgron, Llethergele, Miros, Monachty, ac Ystrad. Y llythyrfa yw Llandeilo-fawr, dan. Gaerfyrddin. Erwau, 12,330. Gwerth ardrethol, 5342p. Poblogaeth, 1920. 'i'ai, 421. Y maey tiroedd yn cael eu dosparthu rhwng amryw feddianwyr. Y mae llawer o'r tìr wedi cael ei gau i mewn o bryd i bryd. 'Y mae mŵn efydd yn cael ei gloddio yma. Y fywioliaeth eglwysig sydd yn ficeriseth, yn esgobaeth Ty Ddewi; gwerth 259p., ac yn nawddogaeth esgob Ty Ddewi. Y mae yr eglwys wedi ei chysegru i St. Egwad. Medda y Trefynyddion Calfinaidd addoldy yn y lle. Ymae gwaddolion o werth 100p. yn perthyn i'r plwyf.

LLANEILIAN, neu LLANELIAN, eydd bentref a phlwyf, yn nosparth a sawydd Fon. Y mae y pentref yn sefyll yn gyfagos i lan y mor, tri chwarter milltir i'r de orllewin o Bwynt y Leinws, a dwy filltir yn ddwyreiniol o orsaf rheilffordd Amlwch. Nid yw y cyffredin yn cwbl gytuno am ystyr wreiddiol “Pwynt y Leinwys,” neu “Leinws.” Myn rhai mai Elian, enw y sant i'r hwn y mac clwys y plwyf wedi ei chysegru, wedi ei Latineiddio ydyw, sef Pwynt Ælianus, myn eraill mai Pwynt Goleunos ydyw, oddiwrth y tân a oleuid yno fel arweiniad. morwrol, tebyg i Gopa'r g'leini yn sir Fflint ydyw, Y mae y plwyf yn cynnwys 2398 o erwau; ac y mae y llythyrfa dan Amlwch. Gwerth ardrethol, 2033p. Poblogaeth yn 1851, 1205; yn 1861, 1282. Tai, 318, Y mae meddiant, y tiroedd rhwng amryw berchenogion. Y mae lawer o'r trigolion yn cael eu cynnaliaeth yn ngwaith Efydd Mynydd Paris. Y mae i'r plwyf hwn hanesiaeth foreuol. Yr oedd gan Caswallon Law Hir, Tywysog Gwynedd, balas yma, yn nechreuad y bumed ganrif, a gelwir y man safai, “Llys Caswallon," hyd y dydd hwn; er nad oedd yno, ar fynydd Elian, ond bwthyn bychan, erbyn yr oes hon. Sylfaenodd St. Elian eglwys yma. yn 450, yr hon a waddolwyd gan Caswallon. Yr oedd ef wedi codi cupel bychan hefyd, gerllaw y palas, ac yr oedd yr adeiladau hyn, gyda'r lleoedd o addoliad boreuaf yn y dywysogaeth. Yr oedd St. Elian, neu Hlary, yn wr o gryn enwogrwydd; yn esgob Lindisfarne, o fuchedd ddichlynaidd; ac yr oedd lluaws o bob parth o Frydain, yn dyfod ato ar bererindodau, i dderbyn ei addysg, ei ffafrau, a'i nawdd; ac i gyflwyno eu offrymau iddo. Yr oedd y rhoddion hyn yn cyrhaedd i swm mawr, ac yn cael eu cadw mewn cist yn yr eglwys, a clwid "Cyff Eilian,” ac o'r trysor hwn y cafwyd modd i adeiladu Eglwys Elian, a Chapel Caswallon, ac i brynu dau dyddyn, ardrethìon y rhai a ddefnyddid i'w cadw mewn adgywciriad, hyd yn ddiweddar, Yr oedd ym arferiad gan y pererinion, ymweled â “Ffynon Elian,” sydd mewn llanerch ddinod o'r plwyf, i yfed o'i dwfr, ac i gyflawni llawer o ddefodau, ar ddydd gwyl y sant. Yr oedd rhinweddau meddygol hefyd yn cael eu priodoli i'r hen ffynon. Y mae y plwyf hwn ar lan mor y Werydd, lle y mae lloches i'r llongau oedd at wasanaeth allforiad yr efydd o Fynydd Paris. Cafwyd mŵn copr yn Rhos Myneich yn y plwyf hwn. Y mae y fywioliaeth yn berigloriaeth, mewn cysylltiad a churadaethau parhaol Coed-anna, a Rhospeirio. Y mae yr eglwys yn archddeoniaeth Mon, ac esgobaeth Bangor; ac yn nawddogaeth esgob Bangor; gwerth, 400p. Y mae yn adeilad gwych, gyda thŵr uchel. Y mae addurniadau o gerfiad teg ragorol yn y lle, ac amryw luniau yn y gwaith; At y cerfiadau hyn y cyfeirin Lewis Morris, pan y crybwylla yn ei Gywydd. at y Dr, Edward Wynne o Fodewryd, am “Lun yr Angau ar bared Eglwys Elian”—

“Crafangau'r gwag Angau gwau,
Llun ail i un Llanelian,
A'i gorph fel dyn heb orphen,
Ni ddeil, prin ddwys, bwys ei ben,” &o.

Yr oedd dydd gwyl St. Elian ar y Gwener cyntaf yn Awst. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd le addoliad yma; &c y mae gwaddol o ugnin punt yn y flwyddyn yn perthyn eto i'r plwyf.

LLANELIAN, sydd blwyf yn nosparth Conwy, a swydd DIMBYCH, yn agos i lan y môr, ac ar reilffordd Caerlleon a Chaergybi, gerllaw gorsaf Colwyn, 5½ milltir i'r dwyrain o Gonwy, Y mae yn cynnwys trefgorddau Llan, Llaithfaen, a Twnan; ac y mne y ffeiriau yma, ar y Llun cyntaf wedi wythnos y Pasg; Gorphenaf 26; Hydref 5; a Rhagfyr 8fed, Y mae y llythyrfa dan Gonwy. Erwau, 3382. Gwerth ardrethol, 2970p. Poblogaeth, 548. Tai,117. Y mae y fywioliaeth yn berigioriaeth, yn esgobaeth Llanelwy; gwertb 249p., ac yn nawddogaeth esgob Llanelwy, Y mae yma addoldai gan y Trefnyddion. Calfinaidd, a'r Bedyddwyr. Y mae gwaddol o 8p. yn perthyn i'r plwyf. Y mae yma eto “Ffynon Elian," a fu mewn bri mawr; o blegid y swyn-gyfaredd a dybid oedd yn effeithiol ynddi; ae fel y mae yn