Tudalen:Cymru fu.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

croesawid hwynt oll; ac wedi hyny cyfeirient eu traed tuag eglwys y plwyf. Ond ar y ffordd tuag yno drachefn, cyfarfyddid â rhwystrau; gwnai y ferch ieuanc lawer cais i ddianc, gan ymddangos yn dra hwyrfrydig i newid byd. ,Pa fodd bynag, o'r diwedd, ymostyngai i'r drefn, ac wedi cyrhaedd yr eglwys, a myned drwy y seremoni arferedig, yr holl gwmni a ddychwelent i dŷ y briodferch, a dechreuent gadw y neithior gyda gwres ac yni mawr am ddyddiau lawer, hyd oni roddai y Sabbath derfyn ar eu rhialtwch. A'r Sabbath hwnw y "ddeuddyn dedwydd" a eisteddent i dderbyn rhagor o Bwyddion a moesgyfarchiadau cyfeillion. Dywed un awdwr y byddai yr anrhegion hyn rai prydiau yn cyrhaedd y swm hardd o 40p. i 50p. Byddai tymor y Pwyddion trosodd erbyn yr ail Sul, a'r dydd hwnw elai y bobl ieuainc i'r eglwys am y tro cyntaf i addoli fel gŵr a gwraig, a mawr fyddai yr ysgwyd llaw ar ol dyfod allan. Nid ydyw yr arferiad hon wedi llwyr farw mewn llawer man yn Nghymru hyd y dydd hwn, er ei bod wedi colli llawer o'i nodweddion cyntefig. Rhaid "Cadw'r Briodas" cyn y bydd gweithrediadau y dydd yn gyflawn; ac wrth hyn y meddyllir — Lluaws o gyfeillion yn cydymgynull yn nhŷ y briodferch i ganu, cynyg iechyd da y pâr ieuanc, a'i yfed mewn cwrw a metheglin. Cyn i'r cwmni ymwahanu, cymer rhyw gyfaill ddysgl, ac el o gwmpas i dderbyn ewyllys da y cwmni. Er fod yr oliad hwn, yn gystal a'r Pwyddion ei hunan, yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fel peth cardotus ac anfoneddigaidd, eto y mae pob lle i gredu ei bod duedd ddaionus, megys i gynorthwyo angenoctyd, a meithrin teimladau da.

Y mae cangen arall o'r Pwyddion yn aros, sef y ddefod sydd mewn parthau gwledig a elwir, "Myned i edrych am y wraig ieuanc." Nifer o gymydogesau calon rwydd yn talu ymweliad caruaidd â'u chwaer ieuanc, gan ddwyn gyda hwynt cwarter o dê, neu bwys o siwgr gwyn, yn anrheg; yna, yfed sudd y tê a'r siwgr cyn dychwelyd, yn nghyda beirniadaeth lem ar y gymydoges hon ac arall nad oedd yn digwydd bod yn bresenol ar y pryd. Byddai y cyfarfod hwn hefyd yn foddion i dderbyn y wraig ieuanc yn aelod o'r "Gymdeithas Dê," gwyliau pa un â gynelid yn olynol yn nhai y gwahanol aelodau, pryd y pwysid cymeriadau y gwŷr, y cedwid cwrdd enllibio, ac y medrus ymdrinid â holl faterion teuluaidd y gymydogaeth; ac un o'r gwersi cyntaf a dderbyniai y wraig ieuanc oedd dysgu sut i gymeryd snisin. Ymddengys, fel y mae gwaetha'r