Tudalen:Cymru fu.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modd, fod y Cymdeithasfaau hyn yn marw yn gyflym, oherwydd fod y wlad yn ymanwareiddio cymaint mewn moes, dysg, a chrefydd.


DEFODAU ANGLADDAU

Gellir yn hawdd casglu fod gan y bobl a feddent y fath arferion hynod wrth briodi, hen ddefodau rhyfedd yn eu hangladdau hefyd. Yr oedd gan ein hynafiaid fil a myrdd o ragargoelion am angau, — megis canwyllau cyrph, adar y cyrph, y teulu, udiadau annaturiol cŵn, caniad anamserol y ceiliog, &c, am ba rai y sonir yn mhellach yn mlaen; ac wedi i'r rhagargoelion hyn gael eu cyflawni (i'r llythyren wrth gwrs), gosodid y trengedig yn ei arch, ac addurnid ef yno âg amrywiol flodeu a phwysiau serch.

Y noson cyn yr angladd, cynelid cyfarfod gweddi a elwid Gwylnos. Hen derm Babyddol, mae yn debyg; ond beth bynag am hyny, cyfarfod effeithiol iawn oedd y Wylnos. O ran ei enw a'i darddiad, yr oedd yr un â Wakes y Gwyddel, ond yr oedd anhraethol wahaniaeth rhyngddynt o ran nodwedd ac amcan. Yr oedd defod y Gwyddel yn drewi gan ofergoeledd, ac yn echrydus o anfoesol; ac er fod y galarwyr yn dolefain, "Paham y buost farw ein brawd?" eto, ymddangosai y cyfan yn debycach i loddest feddw nag i alar ar ol y marw. Yn y Wylnos, o'r ochr arall, ceid y teimladau dwysaf a'r gweddiau mwyaf drylliog. Buasent yn ei hystyried yn rhyfyg bod yn llawen yn nhŷ galar; ac yn annuwioldeb gwarthus cellwair tan yr un gronglwyd â'r marw. Cyfeirient at yr ymadawedig mewn ymadroddion cyffrous, gwnaent bwlpud o'i angau i rybuddio y byw o freuder einioes, a meithder a phwysigrwydd tragwyddoldeb. Apelid at gydwybodau y gwrandawyr, yn enw y lle cysegredig y sangent arno, i gymeryd y ffeithiau hyn tan eu hystyriaeth ddifrifolaf, a pharotoi ar gyfer angau, modd y gallent ei wynebu yn ddi-gryn a gorfoleddus.

Cyn'i'r orymdaith bruddaidd gychwyn tua'r Llan, y cyfeillion a'r perthynasau agosaf a ymgynullent oddeutu y corph, i ochaineidio a galaru eu colled ar ei ol; tra y byddai y gweddill o'r cwmni mewn ystafell arallyn yfed "cwrw brwd," ac yn mygu eu pibelli; a'r menywod mewn ystafell arall drachefn yn cydyfed tê. Wedi dwyn yr arch allan o'r tŷ, a'i gosod ar yr elor gerllaw y drws, byddai un o berthynasau y trancedig yn rhoddi bara a chaws tros yr arch i bobl dylodion, y rhai mewn disgwyliad am y rhoddion hyn a fuont yn ddiwyd i gasglu blodau