Tudalen:Cymru fu.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i adar yn fudion, a'i raiadr fel gwallgof yn canu wedi i bawb arall dewi, a phrysurais ar ol yr orymdaith. Goddiweddais hwynt pan ddaethant at leoedd cyfanedd, ac yr oeddynt yn parhau i ganu. Deuai y gwragedd allan o'u tai a'r hosan haner wauedig yn eu dwylaw diffrwyth, wylent yn hidl, ac ymunent â'r gân wrth iddi fyned heibio. Daliasant i ganu hyd oni ddaethant at borth y fynwent, weithiau newidient y dôn am yr "Hen Gyfamod," neu "Fryniau Caersalem;" ond pa dôn bynag a genid, yr oedd teimlad yn mhob nodyn, a galar yn mhob acen, ac nid wyf tu yma i Wynfa yn disgwyl eto clywed canu mor ardderchog. Fel hyn y byddai yr hen bobl yn hebrwng eu meirw i'r bedd, ac y mae yn anmhosibl i ddyn ddymuno angladd parchusach nag yn nghanol acenion pruddglwyfus ei gymydogion a'i anwyliad.

Yr offrwm. — Hen ddefod wedi ei threiglo i ni, a'i chadw yn fyw er cyn y Diwygiad Protestanaidd, ydyw yr un o offrymu mewn angladdau. Wedi i'r offeiriad ddarllen y Gwasanaeth Claddu, efe a arosai wrth fwrdd y cymun hyd oni ddelai y perthynas agosaf i fynu yn gyntaf i roddi ei offrwm ar y bwrdd. Os byddai yn lled gyfoethog, efe a offrymai gini; os amaethwr neu fasnachwr a fyddai, offrymu coron a wnai; ac os tlawd, chwe' cheiniog a roddai i lawr. Y sawl a fwriadent offrymu arian, a elent i fynu o un i un, ac a wnaent hyny; yna byddai ychydig seibiant, a'r offrymwyr pres a gymerent eu hoffrwm hwyhau; ond ni offrymid pres mewn angladdau boneddigaidd. Byddai yr offrymau hyn yn fynych yn cyrhaedd deg neu ugain punt mewn blwyddyn. Y mae yn ddiddadl mai arian i'r offeiriad am weddio tros y marw oedd y ddefod yma o offrymu ar y cyntaf, cyfrandaliad tros ei ryddhad buan o'r purdan, neu fe allai iawn am unrhyw wall o'i eiddo yn nhaliad y dreth eglwys neu y degwm. Er fod y ddefod yn parhau mewn amryw fanau, nid ystyrir hi ond teyrnged o barch i'r ymadawedig, neu amnaid o serch tuag at offeiriad y plwyf.

Y mae hen ddefod brydferth arall, a hon ydyw y caredigrwydd diweddaf a ddangosir tuag at y marw, sef addurno y bedd â blodau, a bythwyrddion. Dywed un ymdeithydd ei fod yn Llanfair, swydd Drefaldwyn, ac yn mynwent y lle, bu yn llygad dyst o'r ddefod. Dygid brigau y pren bocs a'r ywen, a phlenid y rhai hyn, fel amlen oddeutu y bedd, a threfnid blodau amryliw a phrydferth yn y canol, fel y gellid adwaen chwaeth y byw wrth eu dull yn arwisgo trigfanau eu meirw. Dynodid bedd y baban gan ganghenau pedair, — y friallen, a'r