Tudalen:Cymru fu.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crinllys, blodau cynaraf y gwanwyn; y rhosyn coch a blodyn y coed a ddynodent fedd y canol-oedran; a'r rhos Mari, a'r hen ŵr, a arddangosent hen ddyddiau. Ond yr oedd pob un i gynwys dail-bythwyrddion fel arwyddlun hardd, ond gwan, o anfarwoldeb. Ac ar ol gwisgo y bedd, ni adewid ef yn ddiamgeledd, eithr y lle a chwynid bob prydnawn Sadwrn gan ddwylaw gofalus, er parch cysegredig i'r un oedd yn gorwedd ynddo. Yn ei Cymibeline cyfeiria Shakespeare mewn dull toddiadol at yr arferiad hon: —

A'r blodau tecaf, ferch, Y llonaf dy brudd fedd; ni byddi'n ôl
O'r blodyn llwyd sydd fel dy wedd, sef y friallen:
Nac o'r clychau asur[1] fel dy wythi llawn,
Na dail yr eglantin, y rhai yn ddisarbad
Ni feddant burach anadl.

Y mae ysgrifenydd arall yn dweyd iddo ymweled â mynwent Llanfair, yntau hefyd ar brydnawn Sadwrn, a dywed yr hanes fel hyn: — "Gwelwn luaws o bersonau yn brysur wrth y gorchwyl prudd-pleserus o drwsio y beddau. Tybiais mai annynol ynwyf fuasai eu cythryblu; ac yr oeddwn ar ymgilio yn ol pan y gwelais eu bod wedi sylwi arnaf, ac y gorchfygwyd fy ngwyleidd-dra gan gywreinrwydd. Wrth ganfod merch ieuanc hawddgar a dirodres, dynesais yn araf tuag ati. Anturiais ofyn iddi beth oedd natur ac ystyr y ddefod; eithr hi a osgôdd fy holiadau, ac a aeth yn mlaen i symud y chwyn. Wrth i mi ei hail holi, trodd ei phen, a dangosodd wynebpryd hardd anarferol, a thristwch dwfn yn argraffedig arno; treiglai y dagrau i lawr ei ddwy rudd, ac mewn llais crynedig dywedodd: — ' yr wyf yn dyfod yma bob dydd Sadwrn i chwynu y lle, ac i alaru ar ol fy anwyl frawd — nid oedd genyf ond un, ac yr oedd efe yn frawd — rhy dda i aros yma — gwyn fyd pe buaswn farw yn ei le.' Wedi yspaid o ddystawrwydd, hi a chwanegodd: — "Hwyrach fy mod yn cyfeiliorni, Syr, ond byddaf yn gweddio yn fynych ar fod i fy mrawd flodeuo yn Mharadwys fel y mae'r blodau hyn ar ei fedd. Dywedwyd wrthyf na ddylwn weddio. tros y marw; ond byddaf yn teimlo yn llawer gwell ar ol gwneud hyny, ac awyddfryd cryfach ynwyf i fyw yn dduwiol, fel y byddwyf barotach yn nghynt i fyned ato." Ychydig nes yn mlaen, yr oedd bedd newydd ei drwsio,

  1. Hare-bells, a elwid fynychaf "Clychau Bangor," blodyn bychan tlws o liw yr awyr las.