Tudalen:Cymru fu.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r cyfaill newydd fyned ymaith. yr oedd tlysni neillduol oddeutu y beddrod hwn; oddifewn i'r amlen fawr yr oedd un arall fechan, at faint baban ieuanc. Wrth ymboli, cefais mai gwraig a gladdwyd yno, yr hon yn y weithred o roddi bywyd i arall a gollodd ei bywyd ei hun. Bu farw ar wely genedigaeth; a chan na fu y plentyn fyw ond ychydig oriau ar ol y fam, rhoddwyd hwy yn yr un arch, a claddwyd hwy yn yr un bedd. Y blodau peraroglaidd hyn a gynddrychiolant y baban yn gorwedd ar y fron. yr oedd y gŵr wedi bod yn cyflawni y gorchwyl trist pleserus o dacluso y fan, gan deimlo yn hapus mae'n ddiddadl ddarfod iddo wneud yr oll a allai i'w ddiweddar gydymaith bywyd y goddefai natur iddo wneuthur; ac yn rhoddi ernes i'w gymydogion fod rhinweddau eu hen gyfeilles heb fyned dros gof, a'i bod yn fyw yn ei serchiadau."

Hir y parhao hen ddefodau prydferth o'r fath yma i addurno mynwentydd Gwyllt Walia; a pheth mwy, i lefaru cyfrolau ar dynerwch teimlad, a pharch a charedig- rwydd y genedl at ei meirw? Os dirmygir y ddefod fel penwendid paganaidd, nid oes gan neb ond gresynu tros y dirmygydd, oblegyd y mae yn rhaid i deimlad gael llefaru weithiau, onidê fe â y genedl benbaladr i ragrithio bob amser a chyda phob peth; ac y mae yn hawddach o'r haner ddadwreiddio rheswm dyn na dadwreiddio ei deimlad. yr unig lecyn heb ei Iwyr ddirywio ar y ddynoliaeth ydyw ei theimlad, ac fel y cyfryw dylid rhoddi pob chwareu teg iddo.

Y PEDAIR CAMP AR HUGAIN,

NEU ADLONLANT YR HEN GYMRY.

O'r pedair ar hugain hyn, deg gwrolgamp sydd; deg mabolgamp, sef campau ieuenctyd; a phedair o'r gogampau, neu fân gampau. O'r deg gwrolgamp, chwech sydd o rym corph: 1, Cryfder; 2, Ehedeg; 3, Neidiaw; 4, Nofiaw; 5, Ymafael; 6, Marchogaeth. Ac o'r chwech hyn, pedair sydd benaf, ac a elwir tadogion gampau, sef Rhedeg, Neidio, Nofio, Ymafael. A hwy a elwir felly am nad rhaid wrth ddefnydd yn y byd i wneuthur yr un ohonynt ond y dyn fal y ganed. Y pedair gwrolgamp o tan arfau ydynt: 1, Saethu; 2, Chareu cleddyf a bwcled; 3, Chwareu cleddyf deuddwrn; 4, Chwareu ffon ddwybig,