Tudalen:Cymru fu.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu Gath goed, neu "Wiwair, neu Ffwlbert, ond eu galw Dringhedydd llwyd, Dringliedydd du, neu Dringhedydd coch; ac am nas gall dringhedydd ddianc yn mhell, ond dringo i'r pren, ac yno ei faeddu a'i gyfarth a wneir.

Ceiliog coed a elwir yn helfa gyfarthfa, oblegyd pan ddelo bytheiaid ar ei hynt ef, ei ymlid a wnant oni gymero bren, ac yno ei gyfarth a'i faeddu a wneir.

Y Cadnaw sydd helfa ddolef, oblegyd er maint fu'r gwaeddi a'r canu cyrn ar ei ol, ef a gynal ei helynt oni flino.

Ysgyfarnog sydd helfa ddolef, am ei bod yn cadw ei helynt, er maint fo'r hela arni.

Yr Iwrch a elwir yn helfa ddolef oblegyd yr un achos.

Penaf cig hely yw Carw, ac Ysgyfarnog, a Baedd Gwyllt, ac Arth.

O's gollyngir milgwn i garw neu unrhyw anifail arall. a'i ymlid o'r milgwn tros fryn, allan o olwg, a'i ladd, y milgi blaenaf yn y golwg diweddaf biau y croen. Ond ni chaiff miliast groen, er ei enill, oni bydd hi yn dorog o filgi a enillodd groen, ac yna hi a'i caiff.

Am Ysgyfarnog, pa beth bynag a'i lladdo, y ci neu'r peth arall a'i cotto o'i gwâl a'i piau, os ei cheisio y byddir i'w hymlid.

Y Naw Helwriaeth a ddyly pawb eu gwybod ar a ddyco gorn; ac oni fedr roddi ateb am danynt, ef a gyll ei gorn. Ac os daw neb i hely, a'i gynllyfan am dano, oni fedr roddi ateb am y Naw Helwriaeth, ef a gyll ei gynllyfan. Ond ef a all fod a'i gynllyfan am ei fraich yn ddiddial.

Nid all neb ollwng na milgi na miliast i un anifail pan fo'r bytheuad yn ei ymlid, oni bydd iddo yntan fytheuad yn ei ymlid; ac o ni bydd, fe all y neb a fo yn canlyn y bytheuad dori llinyn gâr ei filgi, os efe a'i gollwug.

Nid rhydd i neb saethu anifail y bo helwriaeth arno pan fo yn ei esmwythdra, tan boen colli ei fwa a'i saeth i arglwydd y tir. Ond efe a gaiff ei saethu, a'i ladd os gall, pan fo'r huaid ar ei ol; ond ni chaiff saethu yn mysg y cŵn.

Os â neb i hely, a gollwng ar anifail, a chyfarfod o gŵn segur - âg ef, a'i ladd, y cŵn cyntaf biaufydd; onid cŵn y brenin fydd y rhai segur. Yr aifail a helier fydd arddelw yr heliwr cyntaf, hyd oni ymchwelo ei wyneb parth ei gartref, a'i gefn ar yr hely; ond o bydd ei gŵn ef yn hely, ac yntau wedi ymadael â'i gŵn, ni ddyly ef ddim cyd-lladdo y cŵn segur ef, ond perchenog y cŵn segur piau fydd.

Felly yr oedd y gyfraith hely gynt.