Tudalen:Cymru fu.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y mae yn eithaf amlwg mai ofer hollol a fuasai unrhyw amddiffyniad o'm heiddo i yn erbyn y fath dystiolaeth. Y mae fy nghyhuddwyr yn ddynion parchus, ac ymddengys eu tystiolaeth yn eglur a phenderfynol, ac nis gallaf feio y rheithwyr am fy nghael yn euog. Yr wyf yn maddeu o'm calon i'r dynion hyn y condemnir fi ar eu camdystiolaeth. Ond, fy arglwydd, yr wyf yn ardystio yn y modd difrifolaf gerbron y llys hwn, gerbron eich arglwyddiaeth, a cherbron y Duw cyfiawn y byddaf yn fuan o'i flaen i'm barnu, fy mod yn hollol ddieuog oddiwrth y trosedd y condemnir fi o'i blegyd. Ni ddygais neb i siarad ar fy rhan. Nid oes ond dwy flynedd er pan y daethum yn ddyeithr i'r wlad hon gyntaf. Ni wnaethum gydnabyddiaeth â neb tu allan i'r teulu a wasanaethwn, ac ymdrechais gyflawni fy nyledswyddau yn ffyddlon a gonest. Nid wyf yn gobeithio nac yn dymuno i'm bywyd gael ei arbed; ond yr wyf yn gweddio na byddo i'r trosedd hwn orwedd ar fy enw. Yr wyf yn gobeithio yr argyhoeddir fy meistres a'i merch garuaidd, na ddarfu iddynt lochesu na bod yn garedig wrth yspeilydd penffordd. Gweddiais lawer yn ystod fy ngharchariad am i'r gobaith hwn gael ei sylweddoli; ac yr wyf yn hyderus ddarfod i'm gweddi gael gwrandawiad. Yr wyf yn beiddio dweyd, os dieuog ydwyf o'r trosedd hwn, na bydd i laswellt dyfu ar fy medd am un genedlaeth o leiaf. Fy arglwydd, "derbyniaf eich dedfryd yn ddirwgnach, a gweddiaf yn daer ar fod i bawb fydd yn fy ngwrando gael eu dwyn i edifeirwch, a'm cyfarfod eto yn y nef."

Pa fodd bynag, pasiwyd dedfryd eithaf y gyfraith ar y truan anffodus; a chladdwyd ef tu cefn i eglwys Trefaldwyn. Dywed un ysgrifenydd ei fod ef wedi ymweled â'r lle yn nghymdeithas Eliott Warburton, yn mhen deng mlynedd ar ugain wedi i Newton gael ei gladdu, ac nad oedd gymaint ag un glaswelltyn yn tyfu ar y bedd. Nid oedd yr un bedd arall yn agos ato; a thrwy ei fod yn gydwastad â'r llawr, yr oedd yn wahanol i'r holl feddau ereill. Yr oedd y tir o'i ddeutu yn nodedig o ffrwythlawn — llysiau preiffion a thoreithiog yn tyfu am gryn bellder oddiwrtho. Llawer gwaith y ceisiwyd gan bobl yr ardal gael gan laswellt dyfu ar y llecyn diffrwyth; rhoddwyd pridd newydd drosto, a hauwyd arno amrywiol fathau o lysiau, ond yn gwbl ofer; disgynai y lle yn fuan i'w sefyllfa gyntefig, yn gleidir oer a chaled.

Mewn perthynas â'r ddau au-dyst annuwiol, ymddengys fod teulu Parcer wedi bod unwaith yn feddianwyr Oak-