Tudalen:Cymru fu.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

field; a'i fod ef yn dysgwyl, os ceid ymadael â Newton, y byddai y ffordd yn rhwyddach i'r lle ddyfod i'w feddiant yntau drachefn. Dywedid fod Pirs yn ymgeisio am law y ferch ieuanc tua'r amser y bu Mr. Morys farw, a theimlai fod Newton wedi achub y blaen arno. Ymadawodd â'r gymdogaeth yn fuan ar ol collfarniad ei gydymgeisydd, trodd yn adyn meddw a pheryglus, a lladdwyd ef yn y diwedd mewn chwarel geryg calch wrth danio y graig. Surodd natur Parcer yn sarug a diysbryd, ac ymddangosai bywyd yn faich trwm ac anhawdd ei ddwyn iddo, ac yn ol tystiolaeth hen glochydd Trefaldwyn, curiodd ei gnawd 'oddiam ei esgyrn, a threngodd mewn sefyllfa hynod o angenus a diamgeledd.

Cyfieithwyd yr hanesyn hwn o'r Manchester Weekly Times, gan un o'r enw Mr. W. Williams. yr hwn a ddeisyfodd ar i ryw un o'r lle daflu ychydig oleuni ar y ffaith, a dwyn eu tystiolaeth i'w chywirdeb. Ymgymerodd boneddwr o blwyf cyfagos â'r cais, ac wele ei dystiolaeth: — " Dymunaf hysbysu fy nghydgenedl nas gallaf ddwyn unrhyw dystiolaeth uniongyrchol am y dyn a gafodd ei ddienyddio; ond yr wyf yn cofio, er yn blentyn, glywed llawer o sôn am y bedd rhyfedd yn mynwent Trefaldwyn — nad oedd dim yn tyfu arno; ac yr oedd y chwedlau a draddodid yn ei gylch gan bobl ofergoelus yn amrywiol ac annghyson â'u gilydd. A thrwy fy mod yn annghredu pob chwedlau o'r fath, gwnaethum ymholiad manwl yn ei gylch pan aethum gyntaf i Drefaldwyn; a phe bawn yn ceisio crynhoi sylwedd yr hanes a gefais gan y dynion mwyaf cyfrifol yn y dref, ni byddai ynddo nemawr o wahaniaeth oddiwrth yr hanesyn uchod. Bum yn siarad âg amryw oedd yn cofio yr amser yn dda. Dywedent i'r tyst Pirs golli ei synwyrau yn llwyr o'r dydd y gwnaeth efe y llŵ hyd ei fedd. Bellach yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymorau y flwyddyn er's ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol yr heol, ond nid yw y lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chauad arch — rhyw- beth fel wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a phedair neu bump yn y pen a'r traed, ac oddeutu pedair troedfedd a haner o hyd ydyw. Y mae y tir yn mynwent Trefaldwyn yn hynod o fras; a'r gwair sydd yn tyfu ar ni tua diwedd mis Mehefin yn ddeuddeg neu bymtheg modfedd o hyd; ond y mae tua troedfedd o bob tu i'r bedd yn llawer uwch, ac yn ddu ei liw; yr achos o hyn mae yn debyg ydy w y gwrtaith a roddwyd ar y lle gan y gwahanol