Tudalen:Cymru fu.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffestiniog, yn ystod hirnos gauaf, adroddid chwedlau a chofianau gan hen Gymro syml, a elwid gan ei gydletywyr, Yr Hen Dyn y Cefn.

Ei chwedl hoffaf bob amser oedd yr un ag yr ydwyf fi yn bwriadu ei gosod o flaen y darllenydd. Nid anfuddiol feallai, fyddai dyweyd pa fath un oedd yr adroddwr. Dyn bychan, caled, gweithgar, a'i fryd yn llawn o'r hen chwedlau dyddanus a glywsai pan yn las hogyn gweini yn Nolwyddelen oedd y dyn; a choeliaf nadoedd dim yn hyfrytach ganddo na chlywed son am y pethau rhyfedd a barddonol hyny — y pethau diniwaid a phleserus a fuont unwaith yn cysegru yr aelwyd fynyddig, ac yn enyn awyddfryd arbenig yn meddyliau y rhai a eisteddent i wrando ar y cyfryw. Byddai, ar ol i lafur ei ddiwrnod ddybenu, yn nghanol mwg cudynog ei bibell, mor ddedwydd, ie, yn llawer mwy dedwydd, yn yr hen gader freichiau o dan fantell simddai, na'r un tywysog a fedd y byd, ar ei gedau gwych a'i glustogau esmwyth. Ei ddwy goes ar draws eu gilydd, a'i ddwylaw o dan ei gesail, ac yn haner cau ei lygaid, dechreuai fel hyn: —

Yr oedd ryw dro er ys talm ŵr a gwraig yn byw mewn lle bychan yn nyffryn Llanrwst, o'r enw Cae'r Melwr. Eu heiddo hwy oedd y fau. Yr oedd ar eu tir amryw fythynod neu bentai. Byddai son mawr gan bawb y ffordd hono am arian y bobl hyn. Ni bu ganddynt ond un ferch ar eu helw, ac nid oedd dim diwedd ar y tynerwch a'r serch anwylgu a ddangosid i obaith eu hyfrydwch. Yr oedd yr eneth hefyd yn un dlos odiaeth, ac yr oedd caredigrwydd hyfwyn a thiriondeb hyweddus, yn addurn iddi, yn gystal a gwynder ei chroen a gwrid ei gruddiau crynion. Yr oedd mewn bwthyn ar y tir wreigan weddw yn byw, ac iddi yr oedd un bachgen bochgoch, bywiog, chwareus. Byddai'r plant bob dydd efeo'u gilydd, ac nid oedd neb yn fwy ei barch yn Nghaer Melwr na Jack (oblegyd dyna oedd enw mab y wedw). Aeth amser chwareu heibio, ac yr oedd yn rhaid meddwl am anfon Elen merch Cae'r Melwr, i'r ysgol i Lanrwst, at ryw hen ferch foneddig oedd wedi myned trwy ei chyfoeth.

Gan fod Ele yn un led ofnus, ac yn hytrach yn foethus hefyd fwy na heb, daeth i feddwl yr hen fachgen wneud lle Jack yn yr Ysgol Rad, fel ag y byddai iddo fod yn gwmni i'r eneth i fyned a dyfod. Anfonwyd y ddau yno, a buant yn cyrchu hefo'u gilydd i'r ysgolion am rai blynyddoedd; ond aeth amser ysgol drosodd ar Jack, druan. Cyflogwyd ef yn was bach gan ŵr Cae'r Melwr,