Tudalen:Cymru fu.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bu yno am lawer blwyddyn, a phob pen tymhor caffai godiad. Daeth o fod yn Was bach i fod yn eilwas, ac erbyn iddo dyfu yn llanc ugain oed, cafodd ei wneud yn hwsmon Cae'r Melwr. Yr oedd ei hen fam weddw yn mawr lawenhau -wrth weled ei phlentyn yn esgyn i fynu mor rhwydd; ac yr oedd ei weled yn hwsmon mor ieuanc, i'w golwg hi, yn gymaint peth a phe buasai wedi enill haner teyrnas. Anfonwyd Elen i Loegr i ddysgu Saesneg; ac erbyn iddi ddyfod yn ol yn mhen y flwyddyn yr oedd Jack wedi dyfod yn ddyn mawr iawn efo'i thad a'i mam, ac yn cael ei ystyried yn un o'r dynion mwyaf llygadog a chall yn yr hôll Ddyffryn. Yr oedd yn well am amaethu na neb yn y fro, ac nid peth. hawdd fyddai cael undyn a'i curai am brynu a gwerthu. Gwaith hen ŵr Cae'r Melwr oedd ei ganmol yn mhob cyfryw fan, Sul a Gwyl, a choeliai nad oedd yn y wlad nac ail na chymhar iddo. Yr oedd hithau yr hen wraig hefyd yn hoff hyn od o sôn am Jack ni. Dywedai yn fynych pan elai i Lanrwst mai efe oedd y bachgen goreu o Gaer i Gonwy.

Edrychai Elen arno fel ei chyfaill anwylaf; ac o'r braidd nad ellid ffansio fod rhywbeth rhwng y ddau. Yr oedd gweddw dlawd y bwthyn llwyd gerllaw yn cael cwmpeini y ferch ieuanc yn bur aml, ac nid anfynych y byddai y chwedl yn disgyn am Jack. Dechreuodd pobl y wlad hefyd siarad; a pha beth sydd mor dafodrydd a gwlad pan ddechreu hi ar y gorchwyl? Yr oedd tipyn glew o genfigen yn gymysg a'r cwbl; a pha offeryn llymach a mwy gwenwynig a fedd uffern? Dechreuwyd yn dew ao yn deneu ddywedyd fod Jack yn caru Elen; a daeth y sŵn i glustiau yr hen bobl. Ni wyddent ar faes medion y ddaear pa beth i'w wneuthur. Nid oeddynt yn foddlawn i'w merch — y brydferthaf a'r dirionaf yn y wlad — briodi y gwas. Yr oeddynt yn rhyw ddirge ddysgwyl y deuai rhyw gŵr boneddig, ac y gwelai wyn ar eu merch, ac y caent cyn myned i dŷ eu hir gartref yr hyfrydwch o weled eu hanwyl Elen yn wraig fawr. Yr oedd ei glendid a'i chyfoeth, yn nghyda'i challineb, yn rhyw fath o ernes hefyd mai felly y troai pethau allan. Mwyfwy oedd y twrf, a gofynid i'r hen ŵr beunydd a oedd ei ferch wedi priodi y gwas? Digiai yr hen fachgen drwyddo pan glywai sôn; a llawer gwaith, er mwyn ysmaldod, y gofynwyd y gofyniad iddo. Byddai gŵr Cae'r Melwr yn arfer myned i Wydir i giniawa yn lled fynych. Tua'r amser dan sylw digwyddodd fod yn y lle olaf a enwyd ŵr boneddig o Loegr, ac nid oedd na byw na bywyd os na