Tudalen:Cymru fu.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chai hwsmon Cae'r Melwr i fyned gydag ef i'w wlad oblegyd yr oedd y deisigwair, a'r cyrneni, a'r mydylau ŷd, mor hardd fel ag yr oedd wedi pendroni hefo'u taclusrwydd. yr oedd wrth hela ryw ddiwrnod hefyd wedi gweled Jack, a thaerai na -welsai yn ei oes lanc mwy golygus a glandeg. Ni fynai ei feistr sôn am adael i'w hwsmon fyned ymaith; ond troai ysgweier a Barwn Gwydir arno yn ddigydwybod. Addawodd yntau y gwnai siarad efo Jack yn nghylch y peth, ac y ceid ateb dranoeth. Rywbryd yn y nos yr oedd gŵr Cae'r Melwr yn niyned adref, a siaradai wrtho ei hun. Dywedai, "Dyma'r peth oedd arnaf eisieu. Fe aiff Jack i ffwrdd. Mi fedraf weithian dori pob cysylltiad rhyngddo ac Elen. Gwas da oedd o; ac ydyw hefyd o ran hyny. Colled fawr i mi fydd ei golli; ond beth os ydyw y twrf amdano ef ac Elen yn wir? Rhaid gwneud rhywbeth." Fel yna y siaradai ar hyd y ffordd. Cyrhaeddodd Gae'r Melwr. Nid oedd yno ond Jack- ar ei draed. Ar ol canu "Nos da'wch," aeth i'r tŷ ac i'w wely, i gael dywedyd wrth yr hen wraig yr ymddiddan. Dechreuodd ar ei chwedl cyn cyrhaedd y llofft, a mawr fu'r gyfrinach a'r cynllunio. Dywedent wrth eu gilydd, "Peth garw fydd colli'r hwsmon goreu yn y wlad. Beth os mai celwydd noeth ydyw'r cwbl hefog Elen? ond helynt gwyllt fyddai iddo hudo yr eneth. Gwas ydyw."Penderfynwyd rhoi'r cynyg iddo fore dranoeth; ac felly fu hi. Dywedodd Jack yn ddibetrus fod yn dda ganddo gael y fath gynyg, a diolchodd yn wresog i'w feistr am ei ewyllys da. Aeth yr hen ŵr i Wydir yn ebrwydd i hysbysu y Sais y deuai y llanc. Nid oedd ond deuddydd i wneud parotoadau. Aeth y si ar led ei fod yn myned i ffordd; ac nid oedd gan ei hen fam weddw ond erfyn am nawdd iddo yn ymbilgar o flaen yr orsedd hono — o flaen yr Un Hwnw a wrendy ochenaid ei ffyddloniaid o ddyfnder ing a chymylog leoedd trallod! Yr oedd ei deimladau yntau yn dadmer. yr oedd ei wyneb yn foddfa o ddagrau cysegredig cariad pur. Gweai myrdd o bethau o flaen ei lygaid, fel mân wybed Mehefin. Ac yr oedd un arall heb fod yn nepell a'i chalon fel ffynon oer yn y gauaf. Gwelir hono yn mygu pan fydd yr eira yn gnwd tew o'i chwmpas; ac ni rewa hon pan fydd y llynoedd llonydd yn gloedig gan loyw ddu iâ. Felly calon Elen; er bod gauaf cariad wedi dyfod ati, yr oedd llygedyn byw ei serch mor lân a chlir ac erioed. Aeth Jack i ffwrdd. Clywid yn fawr ar ei ol; ond ni chlywid merch Cae'r Melwr ar un cyfrif yn sôn gair amdano.