Tudalen:Cymru fu.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol cyrhaedd pen ei daith, ac ymsefydlu yn ei le newydd, gyrodd lythyr adref at ei fam, a chofiai at ei hen gyfeillion "yn fawr, ond dim cymaint a sill am Elen. Dywedai yr hen ŵr wrth yr hen wraig ryw ddechreunos wrth y tân: — " Nid oedd "dim gwir yn y chwedl fod Jack ac Elen yn caru, onide nid aethai byth i ffwrdd fel yr aeth. Rhyw chwiwladron oedd yn cenfigenu wrtho ef a minau." "Nac oedd, O, nac oedd," meddai hithau, "ac y mae'r plant gwirion wedi ofni cymaint fel na fydd Elen un amser yn sôn dim amdano ef, ac ni soniodd yntau ddim gair am dani hithau, yn ei lythyr; ac yr oedd o yn ein henwi ni ill dau." " Rhyfedd iawn, a rhyfedd iawn fel pe tae," ebai yr hen ŵr: "celwydd digywilydd oedd o: yr wyf yn siwr "dda ddigon mai Dafydd Sion Rhys, Pen Isaf y Dref, a ddyfeisiodd y cwbl."

Aeth amser yn ei flaen. Gollyngwyd Jack yn annghof cyn pen hir, oddieithr gan ei fam weddw a —— a phwy?

Cawn weled cyn y diwedd.

Yn mhen llawer o flynyddoedd — dyweder saith mlynedd — daeth i Wydir fab i iarll Northampton i aros. yr oedd rhyw giniaw mawr yno un noson, a gwahoddesid holl foneddigion a boneddigesau y gwledydd yno, ac yn eu mysg Elen, aeres Cae'r Melwr. Dechreuwyd yn yr hwyr ganu a dawnsio; ond nid oedd neb i'w chystadlu â'r rhian brydferth hon. Yr oedd cymaint o wahaniaeth rhyngddi a phob un arall yn y lle, ag sy rhwng afallen sur a phren afalau pêr. Syrthiodd y Sais tros ei ben a'i glustiau i gariad. Cafodd air â hi; ac yr oedd ei geiriau iddo fel cawodydd maethlawn Mai ar sypiau briallu haner crispiedig. Bod yn agos iddi oedd ei wynfyd; clywed ei llais oedd ei beroriaeth; edrych ar ei hystum lluniaidd oedd ei benaf hyfrydwch. Meddwai ei lygaid ar ei phrydferthion, a gwleddai ei galon ar ei thlysni; nid oedd eisieu bod yn ddewin i ganfod teimladau serchus y boneddwr, ac erbyn haner dydd dranoeth yr oedd sôn dros bob man fod Elen Cae'r Melwr a'r gŵr boneddig mawr yn caru. Ymsythai yr hen ŵr, ac ymsioncai yr hen wraig wrth wrando ar eu cymydogion yn cyfarch gwell iddynt ar gorn y newydd da. Bob dydd byddai y gŵr ifanc yn unioni am Gae'r Melwr, a phan âi'r hen ŵr i'r dref, yr oedd pawb yn cymeryd gofal dwbl i ddangos eu parch iddo. Dechreuodd y wlad son am ddydd eu priodas, a chyn pen rhyw lawer o amser daeth y ffug yn fiaith. yr oedd y diwrnod wedi cael ei benu. Aeth y boneddwr adref i Loegr i ymweled â'i deulu a'i gyfeillion