Tudalen:Cymru fu.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn newid ei fyd, ac hefyd i wneuthur y darpariadau gogyfer â'r adeg ddedwydd hono — y diwrnod dysglaer hwnw, pan fyddai Elin o Walia yn flodyn têg yn ngardd y Sais uchelfri. Dyrwynodd amser yn mlaen, a phob nos a dydd dynesai yr awr iddynt gael eu —

"Huno yn hyfwyn wrth allor y llan."

Oblegyd amgylchiadau teuluaidd ni fedrodd y boneddwr gychwyn mor brydlawn ag y dymunasai o'i wlad. Ond anfonodd ei gyfeillion o'i flaeu, ac yn Ngwydir yr arosent oll. Nid oedd Elen byth bron yn dyfod allan. Diwrnod cyn dydd y briodas, yr oedd mab larll Northampton yn cychwyn o Langollen yn lled fore, a dau was gydag ef ar gefn ceffylau mawrion. Pan newydd adael y llan, goddiweddasant ŵr boneddig urddasol yn marchogaeth ar hyd yr un ffordd. Ar ol dangos arferion moesgarwch tuag at eu gilydd, gofynai mab yr iarll i'r boneddwr dyeithr, a oedd efe yn myned yn mhell ar hyd y ffordd hono. Atebai yntau ei fod. Gofynodd iddo drachefn, pa mor belled. " Hyd yn Nghapel Garmon, ar bwys Llanrwst." Pan ganfu hyny, dechreuodd ddywedyd mai i le o'r enw Gwydir yr oedd yntau yn myned, ac y gobeithiai y caent gyd-deithio; ac os byddai galwad, y caent achub cam eu gilydd, "oblegyd," meddai, "y mae llawer o ladron y ffordd yma." Myned yn mlaen yr oeddynt, ac o'r diwedd dechreuodd y Sais adrodd wrth ei gyd-deithydd helynt ei feddwl — ei fod yn myned i briodi un o'r morwynion glanaf a welodd llygad dyn erioed — fod y briodas i gymeryd lle dranoeth. Nid oedd dim gair yn dyfod allan o'i enau am hir filldiroedd meithion ond canmoliaethau parhausi'r fun lanwedd o Gae'r Melwr, neu'r friallen ddiwair o Ddyffryn prydferth Llanrwst. Ar ol blino yn canmol, gofynodd o'r diwedd a wnai ei gyd-deithydd ddyweyd tipyn o'i hanes yntau. "Gwnaf, yn union," ebai, " oblegyd y mae yn ddyledus arnaf wneud hyny tuag at un sydd wedi bod mor galon agored tuag ataf. Saith mlynedd yn ol gadewais rwyd ar fy ol yn nghwr Dyffryn Conwy, ac yr wyf yn myned yno yn awr i edrych a ddeil hi i'w chodi."Chwarddai mab yr larll am ben y fath ynfydrwydd, a lled dybiai fod ei gyfaill yn dechreu gwirioni. Yn mlaen yr aed, a chyrhaeddwyd Capel Garmon yn ngwyll y nos. Ysgydwyd law yn serchog, a chanasant yn iach, gan ddymuno llwydd i'w gilydd. Aeth mab yr larll yn mlaen i Wydir, ac arosodd yr hwn a drafaeliai gydag ef mewn tŷ tafarn bach yn y