Tudalen:Cymru fu.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond dim na siw na miw o'i thwrf. O'r diwedd penderfynwyd myned i fynu ati i'w chysuro, rhag ofn ei bod yn ddigalon. Daeth y morwynion priodas yno — chwech o forwynion cyn glysed ag a welwyd yn Ngwynedd er dyddiau Morfudd; ond nid oedd Elen wedi dyfod i lawr. Aed i'w hystafell wely: ond nid oedd yno ond cais lle bu. Yr oedd pawb yn synu, rhai yn gwaeddi, eraill yn tywallt dagrau, a'r hen ŵr a'r hen wraig, un o bob tu'r tân, yn fudanod. "Wel," ebai'r hen ŵr, "mi welaf sut y mae hi. Mi rois fy merch â'm llaw fy hun heddyw y bore." "Na faliwch," ebai yr hen wraig, "os na chafodd fab larll, fe ga'dd DDYN." Anfonwyd i'w chyrchu adref, a gorfu ar y Sais, druan, fyned i'w wlad heb Elen. Cae'r Melwr, oblegyd yr oedd wedi priodi Jack. Felly yr eglurhâwyd dameg y rhwyd, yr hon a draethodd Jack wrth y Sais, druan, pan yn cyd-deithio y noson cynt. Daethant eu deuoedd yn dalog adref ar ol cael eu gwahodd, ac ni bu neb dedwyddach yn nglân ystad priodas erioed na'r ddeuddyu hyn; ac ni bu edifar gan hen ŵr Cae'r Melwr roddi ei ferch i Jack.

Dyma chwedl Cae'r Melwr, medd ———— Salmon Llwyd.

GWRTHEYRN.

Un o gymeriadau anffodusaf hanesyddiaeth Brydeinig ydyw Gwrtheyrn Gwrtheneu. Efe oedd brenin y Prydeiniaid pan ymwelodd y Saeson gyntaf â'r ynys, ac i'w Iwfrdra a'i ynfydrwydd ef y priodolir sefydliad y genedl hono ar y dechreu yn Mhrydain. Gelwir ef yn y Trioedd yn un o "dri charnfeddwon Ynys Prydain," ami iddo yn ei feddwdod ynfydu ac ymwerthu i bob drygioni. Daeth i'r orsedd fel blaidd, teyrnasodd fel meddwyn, a diorsedd- wyd ef fel ffwl

Pan fu Cystenyn Fendigaid farw, gadawodd ar ei ol dri mab, sef Constans, Emrys Wledig, ac Uthr Pendragon. Y Cystenyn hwn a ddewiswyd gan y Prydeiniaid yn frenin arnynt ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid â'r Ynys hon. Plant ieuainc iawn oedd y ddau olaf; a Chonstans, yr hynaf, a ddyrchafwyd i'r orsedd; a Gwrtheyrn, oherwydd ei ddylanwad a'i gyfoeth, a ddewiswyd i fod yn gynghorydd iddo. Ond yn lle cynghori, trodd Gwrtheyrn allan yn fradwr melldigedig — achlysurodd lofruddiad Constans,