Tudalen:Cymru fu.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thrawsfeddianodd ei goron. Methodd gael gan nac esgob nac archesgob ei rhoddi ar ei ben, eithr rhwystr bychan oedd hwn ar ffordd bradwr, canys efe a'i coronodd ei hun. Teimlodd Emrys ac Uthr nad diogel iddynt hwythau aros o hyd cyrhaedd crafangau y trawsfeddianwr, a ffoisant i Lydaw, at eu hewythr Aldroed, brawd i'w tad, a brenin y wlad hono.

Anesmwyth iawn y gorweddai coron Gwrtheyrn ar ei ben. Pryderai o barth cadruthriadau y barbariaid Gogleddol, sef y Gwyddel Ffichti a'r Ysgotiaid, ar y naill law; ac ar y llaw arall, rhag ofn i Emrys ac Uthr ddyfod trosodd o Lydaw i hawlio eu cyfiawn goron a theyrnas.

Yn y cyfamser, glaniodd ysgraff" yn llawn o wyr arfog ar ororau Caint, o dan lywyddiaeth dau frawd o'r enw Hengist a Hors. Pan glybu y brenin am laniad lluaws o ddyeithriaid ar ei gyffiniau, archodd eu derbyu yn heddychol, a'u harwain i'w wyddfod. Gofynodd i'r ddau lywydd o ba wlad yr oeddynt, a pha beth oedd eu neges yn y wlad hon. Atebwyd ef, meddai Jeffrey o Fynwy, yn y geirian hyn: —

"Ardderchocaf frenin! mewn gwlad yn yr Almaen, a elwir Sacsoni, y ganwyd ni; a dyben ein dyfod yma oedd i gynyg ein gwasanaeth i ti neu rhyw dywysog arall. Canys gyrwyd ni allan o'n gwlad ein hunain, oherwydd fod ei chyfreithiau yn galw am hyny. Y mae yn arferiad yn ein mysg, pan orboblogir y wlad, fod i'n tywysogion gydgyfarfod, a gorchymyn i'r holl wyr ieuainc ddyfod ger eu bron; yna etholant trwy goelbren y rhai cryfaf a galluocaf o honynt i fyned at genedloedd estronol i enil eu bywoliaeth. Yn un o'r cyfarfodydd hyn, wedi bwrw coelbren, etholwyd y gwyr a weli o'th flaen, a gorfodwyd. Ni i ufuddhau i hen ddefodau ein cyndadau. Gwnaethant fy mrawd Horsa a minau yn llywyddion arnynt, o barch i'n hynafiaid, y rhai a dderbyniasant gyfryw anrhydedd. O ganlyniad, mewn ufudd-dod i hen ddefod, cychwynasom i'r môr, a than gyfarwyddyd y duw Mercher cyrhaeddasom dy deymas di."

Da oedd gan Wrtheyrn glywed hyn, ac efe yn uniongyrchol a'i cyflogodd i ymladd â'r Ffichtiaid, ac i amddiffyn y goron, os buasai angen, yn erbyn Emrys Wledig. Cydsyniodd Hengist yn rhwydd â'r telerau; a bu brwydrau gwaedlyd rhwng ei fyddinoedd ef a'r Gogleddwyr. Ond cafodd y penaeth Sacsonaidd yn fuan ffug-reswm tros ofyn caniatad y brenin i anfon am chwaneg o'i gydwladwyr i'r wlad hon i'w gynorthwyo i Iwyr orthrechu y Ffichtiaid, y