Tudalen:Cymru fu.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai, meddai ef, oeddynt yn llawer lluosocach na'r Saeson. Y brenin yn ei wiriondeb a ganiataodd y dymuniad yn y fan. yr oedd amnaid yn ddigon i'r Almaeniaid newynog ac ysglyfaethus, a daethant trosodd yn llu mawr iawn. Erbyn hyn, yr oedd Hengist yn ymwybodol mai ganddo ef yr oedd y pen "ffyrfaf i'r ffon," a'i chwantau anniwall yn gwaeddi, " Melus, moes mwy." Dymunodd gael darn o dir digon o faint i adeiladu castell arno, fel y byddai cystal ei urddas ef a'r pendefigion Brutanaidd. Ar y cyntaf gomeddodd Gwrtheyrn hyn yn bendant, gan ddweyd y cynhyrfai hyny holl ddigllonedd ei benaethiaid yn ei erbyn; ond taerineb y penaeth a orfu feddaldod y brenin. "Caniata i mi gymaint o dir ag yr elai carai ledr o'i amgylch," meddai. Cais bach a dinod ydoedd hyn; ac nid oedd gan Gwrtheyrn ond ei ganiatau; ond cymerth Hengist groen eidion, ac a'i torodd yn un garai hir, a chyda hono amgylchodd fryn creigiog, wedi ei ddethol fel lle manteisiol i adeiladu caer, ac yno cododd y castell cadarnaf yn Mhrydain. Galwyd y castell hwnw "Caer- garai" yn Gymraeg; ac yn Saesneg, ''Thongcastle." Adwaenir y lle yn bresenol wrth yr enw Caistor; saif tuag ugain milldir i'r gogledd-dde o dref Lincoln. Yn mysg y giwdod ddiweddaf hon o'r Saeson, yr oedd Rhonwen, merch Hengist un o ferched tecaf ei hoes. Yn fuan wedi iddynt ddyfod trosodd, gwahoddodd y penaeth Gwrtheyrn i weled ei gaer a'i filwyr newyddion. Parotowyd gwledd rwysgfawr iddo; a phan ydoedd yn llawn o fedd a gwin tua therfyn y wledd, daeth Rhonwen i'r ystafell gan ddwyn yn ei llaw gwpan aur ysplenydd yn llawn o win. llanwyd y brenin trythyll o'i serch; ac nid oedd dim a'i boddiai ond ei chael yn wraig iddo. Ymgynghorodd Hengist â Hors o barth priodoldeb y fath undeb; a daeth y ddau frawd ariangar i'r penderfyniad i gydsynio, ar yr amod y caent hwythau diriogaeth Caint. Pan hysbyswyd Gwrtheyrn mai gwerth Rhonwen ydoedd gwlad Caint, cytunodd yn ebrwydd heb gymaint a chael cydsyniad Gorangan, llywodraethwr a gwir berchenog, y wlad hono. Creodd hyn deimladau digofus yn y penaethiaid Brutanaidd yn erbyn eu ffwlach brenin; a chwerwodd ei feibion Gwrthefyr, Cyndeyrn, a Pasgen, yn fawr tuag ato.

Yr oedd dylanwad Hengist ar y brenin mor fawr, fel y gallai wueud a fynai ag ef, a lleng ar ol lleng o'r Saeson yn parhaus ymfudo ac ymsefydlu yn Mhrydain, nes iddynt ddyfod mor gryfion a lluosog fel ag i beri i'r