Tudalen:Cymru fu.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brodorion eu cyfiawn ofni. Deisebasant y brenin i atal rhagor o honynt wladychu, ond efe a wrthododd gydsynio. Ymgreulouasant yn ei erbyn, ac wedi ei ddiorseddu gosodasant Gwrthyfyr ei fab ar yr orsedd yn ei le. Ymladdwyd pedair gornest galed rhwng Gwrtheyrn a'i bleidwyr, a Hengist a'i fyddinoedd, ar y naill ochr; a Gwrthefyr a'i bleidwyr yntau ar y llall. Yu y rhfeloedd hyny syrthiodd Hors brawd Hengist, a Cyndeyrn brawd Gwrthefyr, y ddau mewn brwydr law-law. Cymerodd un o'r brwydrau hyn le ar y traeth gerllaw yr ynys Thanet, yn yr afon Tafwys, a phwysodd y Brutaniaid mor dost ar wynt eu gelynion nes eu gorfodi i ffoi i'w hysgraffau; a phan nad oeddynt yn alluog i oddef chwaneg o ymosodiadau, atolygasant gael dychwelyd yn heddychol i'w gwlad; a ffwrdd a hwy wedi cael digon gallesid tybied am byth ar ddewrder gwrhydrus ac yni dihafal yr hen Frutaniaid.

Naturiol i'r darllenydd ymholi paham yr oedd y genedl mor ddiymadferth a bod yn angenrheidiol iddynt gael estroniaid i ymladd eu brwydrau. Y mae yr ateb yn eglur. Yr oedd y Prydeiniaid wedi ymranu yn amrywiol bleidiau. Rhai o honynt yn glynu yn ffyddlon wrth deulu ciliedig Cystenyn Fendigaid, ac yn gobeithio dyfodiad Emrys Wledig, o Lydaw, i gyfiawn hawlio coron ei dad; eraill yn dysgwyl ail ddyfodiad y Rhufeiniaid, y rhai, er eu holl wendidau, oeddynt y gorthrechwyr ardderchocaf fu ar Brydain erioed; tra yr oedd y dull gwaedlyd trwy ba un yr esgynodd Gwrtheyrn i'r orsedd, a'i ymddygiadau ffôl a gorthrymus ynddi, yn peri iddo fod yn hollol annghariadus gan gorff mawr y genedl. Nis gallasai gadw ei goron ond am amser byr oni buasai iddo hurio y Saeson i ymladd trosto. Buasai yn well gan y rhan luosocaf o'i ddeiliaid dynu eu cleddyfau yn ei erbyn nac o'i blaid.

Wedi i Wrthefyr, fel y dywedasom, gael llwyr oruchafiaeth, dechreuodd adfer i'w pobl eu hiawnderau, a daeth yn wrthddrych edmygedd ei holl ddeiliaid. Ond yr oedd marwor brad a gelyniaeth yn dirgel losgi yn mynwesau y gweddillion Sacsonaidd a adawodd Hengist ar ei ol yn ei ffoedigaeth waradwyddus. Gwrthefyr, o barch i'w deimladau mabaidd ei hun, nid alltudiodd Gwrtheyrn gyda'i gynghreiriaid, fel y dylasai, mae yn ddiau; ac o barch i'w dad, goddefodd i Rhonwen aros yn Mhrydain; ond cafodd allan yn fuan na wnai tosturi at sarff, er iddi fod yn sarff brydferth, ddim cyfnewid ei natur. llogodd Rhonwen rhyw hurwas bawaidd am bris mawr i wenwyno