Tudalen:Cymru fu.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swyddogion Sacsonaidd, a'r un nifer, os nad chwaneg, o bendefigion Brutanaidd. Dewiswyd gwastadedd Caer Caradawc [Stonhenge] fel man cyfleus i gynal y wledd; ac yno, yn ymyl yr hen gromlechau mawrion, allorau cysegredig y Derwyddon gynt, yn ngwydd haul dydd Calanmai, y cyflawnwyd y frad erchyllaf, dduaf, a mwyaf dieflig, sydd ar lechres hanesyddiaeth. Er mwyn arddangos llwyr ymddiried y ddwyblaid yn eu gilydd, yr oeddynt i gyfarfod yn anarfog, ac i eistedd bob yn ail oddeutu y bwrdd. Eithr Hengist a orchymynodd i bob un o'i wŷr ddyfod a chyllell yn ei lawes. " Ac," ebai ef, "pan waeddaf, Nemet eour Saxes [Cymerwch eich cyllill], tyned pob un o honoch ei gyllell, a thrywaned y Britwn nesaf ato, ond arbedwch y brenin, er mwyn fy merch, a bydd ei fywyd yn werthfawrocach i mi na'i angau."

Ar y dydd penodedig, ymgynullodd y gwahoddedigion, a'r Brutaniaid, yn hollol ddiofal a dibryder, a ddechreuasant ymgymysgu gyda'r Saeson; a phan oeddynt oll yn nghanol eu hafiaeth, a'r gwin, a'r medd, wedi rhedeg ar y rhwyddaf, yn enwedig yn mhlith ein hynafiaid ni, neidiodd y penaeth bradwrus ar ei draed, a gwaeddodd yn groch, Neinet eour Saxes, ac ar y gair, wele bob giwedyn mileinig yn cwhwfan y llafn hir, ac yn ei gladdu yn nghnawd y Prydeiniad agosaf. Galanastra a chelanedd ofnadwy oedd y canlyniad; trowyd y llawenydd yn angau, y gân yn ysgrech farwol. Ymladdodd y Brutaniaid yn ddewrion; ond pa fantais sydd i ŵr anarfog ac anwyliadwrus wrth ymladd âg adyn arfog a maleisus? Llawer ymdrech glodadwy a wnaed gyda dyrnau moelion, ond yr oedd y llafn hir yn cyrhaedd y galon, ac yn dwyn y bywyd oddiyno ar ei blaen. Dau yn unig a ddiangasant rhag y bawdd, sef y brenin anffodus, ac Eidiol, iarll Caerloew. Gŵr dewr, cryf, ac ymladdgar, oedd Eidiol. Gafaelodd mewn darn o bren a ddigwyddai fod dan ei draed — medodd y bradwyr yn ddidosturi âg ef, a chan chwilfriwio eu haelodau, a phwyo eu hymenyddiau, nid attegodd hyd oni wnaeth ddeg a thriugain ohonynt yn gelaneddau meirwon wrth ei draed. Un o'r darnau mwyaf cynhyrfus yn ngwaith Iorwerth Glan Aled ydyw ei ddisgrifiad o'r frad annynol hon: —

BRITWN.
O laddfa erchyll! cuddied haul ei hun
Mewn cwmwl dudew yn y glwyfus nen