Tudalen:Cymru fu.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Seison. "Woodward, yr hwn sydd yn edrych trwy ddrychau pur Seisnig ar bobpeth Cymreig, yn ei History of Wales, a hwtia yr hanes fel ffugiaeth anhygoel. O'r ochr arall y mae Carnhuauawc yn adrodd y peth fel ffaith yn ei Hanes y Cymry, a chronichr ef gan Nennius, yr hwn a ysgrifenodd yn yr wythfed ganrif; a chyfieithwyd ef o Frut Tysilio i'r Lladin yn y ddeuddegfed ganrif, gan Gryffydd ab Arthur, alias Jeffrey o Fynmy, yr hwn ydoedd esgob Llanelwy ar y pryd. Nid oes odid un o'r haneswyr Seisnig diweddaraf yn crybwyll gair yn ei gylch; a rheswm da pa'm, canys y mae y fath weithred ddiellig yn ddigon i anurddo y genedl ddysgleiriaf ei chymeriad yn y byd. Ond dylai cyfiawnder a gwirionedd bob amser gael y lle uwchaf gyda'r hanesydd; onidê nid yw ei hanes yn werth ei losgi. Y mae yn chwerthinllyd darllen gwaith ambell i hanesydd Seisnig ar bynciau Cymreig, ymddengys fel pe tyngedasid ef i gamarwain, llurgynio, a gwadu, ac y mae yn gwneyd hyny mor ddoniol a phe byddai yn hollwybod- aeth wedi ymgnawdoli.

Ond i ddychwelyd at linyn ein hanes. Bygythiwyd gwneyd pen ar yr hen Wrtheyrn yn niffyg na throsglwyddai ei ddinasoedd caerog a'i gastellydd trosodd i'r Seison; ac yn ei fraw roddodd iddynt Gaerefrog, Caer Lincoln, a Llundain.

Ar ol cneifio yr hen deyrn gollyngasant ef yn rhydd i fyned fel hwrdd gwyllt i'r man y mynai; ac yntau er mwyn ei ddiogelwch rhag y fath fleiddiaid a ymneillduodd i un gymoedd Eryri. Wedi i blant y fall fel hyn ddistiywio y bendefigaeth Brydeinig, ymosodasant ar y werin bobl, a gwnaethant laddfa fawr.

Gwrtheyrn a gynullodd ato ei ddewiniaid a'i ddoethion, gan ymofyn â hwynt pa beth a wnelai. Hwythau a'i cynghorasant i adeiladu amgaerfa mewn lle a elwir yn awr Nant Gwrtheyrn, fel y byddai yn amddiffynfa iddo rhag ei elynion. Cynullwyd seiri coed a maen, a dech reuwyd ar y gwaith yn ddioedi; ond pa faint bynag a adeiledid y dydd a ddiflanai y nos ddilynol. Wrth ganfod hyn, galwodd Gwrtheyrn am y doethion eilwaith, a holodd hwynt o barth achos y fath ddiflaniad cyfrin. Hwythau, er mwyn cuddio eu hanwybodaeth, a ddywedasant fod yn rhaid iddo gael gwaed mab heb dad i'w daenellu hyd y meini a'r calch. a thrwy hyny y safai yr adeilad. Pe dywedasent fod gan y ddaear gorn gwddwf a cholyddion, fel anifail, ac fod ei safn yn dygwydd sefyll islaw y fan y codid y castell, diameu y buasai Gwrtheyrn ofergoelus yn