Tudalen:Cymru fu.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu credu. Pa fodd bynag, yn ddiymaros, danfonwyd cenadau i bob cwr o'r ynys i ymofyn y cywrain-beth o fab heb dad. Gallesid tybied mai llafur ofer fuasai y fath ymchwiliad; ond fel yr oedd y cenadau un noson, yn agoshau at borth Caer Fyrddin, gwelent nifer o ŵyr ieuainc yn chwareu. Cododd ymryson rhwng dau o'r gwŷr ieuainc hyn, sef eu gelwid, Annfab y llian a Dunawd. Ebai Dunawd, " Boneddig wyrf fi, a chenyf dad a mam, ac nid oes genyt ti dad." Pan glybu'r cenadau y geiriau hyn, ymholasant yn mhlith y chwareuwyr ai gwir y dywediad. " Digon gwir," ebynt hwythau, " mynaches fucheddol yn eglwys Pedr, Caer Fyrddin ydyw ei fam." Yna aeth y cenadau at lywydd y ddinas a'r castell, a hawliasant Annfab a'i fam yn enw y brenin. Ufuddhaodd y llywydd yn uniongyrchol, a danfonwyd y ddau i Eryri.

Pan gymerwyd hwynt gerbron Gwrtheyrn efe a'u derbyniodd mewn dull parchus a moesgar, oblegyd bonedd y fam, yr hon ydoedd ferch i frenin Dyfed. Gofynodd iddi pa fodd y cenedlwyd Annfab. Hithau a atebodd, "Fy arglwydd frenin, ar fywyd fy enaid, cyffesaf it' yr holl wirionedd. Unig ferch oeddwn i frenin Dyfed, a dodwyd fi yn fynaches yn Nghaer Fyrddin; ac fel yr oeddwn un noson yn cysgu rhwng fy chwiorydd, gwelwn trwy fy hun lanc ieuanc teg yn dyfod ataf ac yn roddi i mi fynych gusanau. Deffroais, ac nid oedd yno ond fy chwiorydd a minau. Beichiogais, a rhoddais enedigaeth i'r llanc. hwn, ac yr wyf yn tystio na bu i mi gymdeithas â gŵr erioed ond hyny. Rhyfeddai Gwrtheyrn yn fawr at y chwedl hon, a galwodd ato Meugant Ddewin, gan ei holi a allai y fath beth fod yn -wir. Atebodd Meugant, "Ceir yn llyfrau y doethion, ac mewn hanesyddiaeth, fod lluaws o ddynion gynt o haniad cyffelyb. Dywed Apelius, yn ei Iyfr ar Ellyll Socrates, fod math o ysbrydion yn preswylio rhwng y ddaear a'r lleuad, allent ymrithio yn wŷr neu yn wragedd pryd y mynent. Gelwid hwynt yn 'Ddieifl Gogwyddedig,' a rhan ohonynt sydd o naturiaeth ddynol, a'r rhan arall sydd angylaidd. Diamheu mai un o'r bodau lledchwith hyny ydyw tad y plentyn hwn."

Yr oedd Annfab yn dyfal wrando ar yr oll a ddywedid; ac wedi i'r dewin draethu ei len, efe a anerchodd y brenin fel hyn: — " I ba ddyben y dygasoch fy mam a minau ger dy fron?" Ebai Gwrtheyrn, "Fy newiniaid a'm cynghor- asant i geisio gwaed gŵr heb dad iddo i daenellu y ceryg a'r calch, modd y safai fy nghastell." " Arch i'th ddewin- iaid," ebai Ànnfab, " ddyfod ger dy fron, a mi a brofaf