Tudalen:Cymru fu.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y ddraig goch a arwyddocâ y genedl Frytanaidd, yr hon a ormesir gan y ddraig wen. Oherwydd hyn y mynyddoedd a wneir yn gydwastad a'r glynau, ac afon- ydd y dyffrynoedd a lithiant o waed. Pwyll Cristionogol a ddileir, a'r eglwysi a wneir yn anrhaith. Yn y diwedd, y gorthrymedig a Iwydda, ac a wrthwyneba greulondeb estroniaid. Canys baedd Cernyw a rydd gymhorthwy, ac a fathra eu gyddfau dan ei draed. Ynysoedd yr eigion a ddarostyngir, a gwlad Ffrainc a feddianir ganddo. Gwvr Rhufain a barant i bobl ei anrhydeddu, a'i weithredoedd a fyddant fwyd i'r sawl a'u dadûanant. Chwech o'i epil a lawiant deyrnwialen, ac yna cyfyd pryf Germania. Y môr-flaidd a drecha hwnw, gyda pha un y bydd coedwigoedd Affrig. Crefydd a ddileir eilwaith, a'r archesgobaethau a symudir. Mawredd Llundain a addurna Caergaint, a bugail Caerefrog a fynycha Llydaw. Mynwy a wisgir o fantell Caerllion, a phregethwyr Iwerddon a fyddant fud oherwydd y mab sydd yn tyfu yn y groth. Cawod o waed a ddisgyna, a phoenir plant dynion gan newyn tost. Pan ddel y pethau hyn, y doluria y ddraig goch; eithr pan fyddo ei llafur trosodd, hi a dyf yn gryf eilwaith. Yna y prysura anffoddion y ddraig wen, ac adeiladau ei erddi a dynir i lawr. Saith dygiedydd teyrnwialen a leddir, un o ba rai a fydd sant. Gwragedd beichiogion a rwygir, a bydd trallod dwys ar ddynion, fel yr adferir y brodorion. Yr hwn a wnel hyn a esyd am dano wisg gŵr efyddawl (brazen), ac ar farch efyddawl y gwarchaea efe byrth Llundain. Wedi hyn y dychwel y ddraig goch i'w chynefinol ffyrdd, ac y try ei dialedd arni ei hun. Yn mhob maes y siomir yr amaethwr, ac wrth hyny y daw dial ar y cyfoethog. Marwolaeth a gribddeilia y bobl, a chenedloedd a ddiffrwytha efe, eithr y gweddill o honynt a adawant eu gwlad, ac a heuant hâd mewn tir estronol. Brenin bendigaid a ddarpar lynges; ac yn mhlith y deuddeg gwynfydedigion ei rhifir. Y deyrnas a adewir yn annghyfanedd, a'r ydlanau a ymfoelant yn anffrwythlawn. Cyfyd y ddraig wen, a' merch Germania a wahoddir trosodd. Eilwaith llenwir ein gerddi ni âg estronol hâd, a'r ddraig goch a ddihoena yn nghwr eithaf y llyn. Terfyn gosodedig sydd iddi, yr hwn nis gall fyned trosto. Deng mlynedd a deugain a' chant fydd cyfnod ei darostyngiad, a thri chan mlynedd y gorphwys hi mewn tawelwch. Yna cyfyd gogledd-wynt yn ei herbyn, yr hwn a gribddeifia y blodau a gynyrchodd y dwyrein-wynt. Eurir y temlau, a dadweinir y cleddyfau.